Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 6ED MEDI 2019 PDF 289 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau cyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 6 Medi 2019 gan ei fod yn gofnod cywir.
|
|
Cofnodion: Yn dilyn cofnod 8 o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2019 cyflwynwyd deiseb gan Gymdeithas Preswylwyr Dwyrain Machynys i ofyn i'r Cyngor Sir fabwysiadu'r ffyrdd yn natblygiad Dwyrain Machynys yn Llanelli. Penderfynodd y Cyngor i gyfeirio'r cais at yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd i'w ystyried.
Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y ddeiseb ynghyd ag adroddiad a oedd yn argymell peidio mabwysiadu ffyrdd yr ystad oherwydd y costau, y rhwymedigaethau yn y dyfodol a'r rhesymau cyfreithiol cysylltiedig.
Ar ôl rhoi ystyriaeth briodol i'r ddeiseb a'r pryderon a fynegwyd gan Gymdeithas Preswylwyr Dwyrain Machynys, roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn bwriadu cymeradwyo argymhellion yr adroddiad i beidio mabwysiadu ffyrdd yr ystad ar y sail ganlynol:
· Cafwyd dealltwriaeth glir na fyddai ffyrdd yr ystad yn cael eu mabwysiadu ac y byddent yn aros mewn perchnogaeth breifat. · Roedd gan y datblygwr drefniant masnachol gyda chwmni rheoli. · Roedd yr eiddo wedi'i farchnata fel tai ar ffyrdd preifat. · Roedd wedi'i gwneud yn glir i'r trawsgludwr nad oedd unrhyw bosibilrwydd o fabwysiadu'r briffordd yn y dyfodol am nad oedd Cytundeb Mabwysiadu Priffordd A38 ar waith.
PENDERFYNWYD:
3.1 cymeradwyo'r argymhelliad i beidio â mabwysiadu ffordd yr ystad. 3.2 anfon llythyr at y deisebwr yn nodi'r rhesymau dros y penderfyniad.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn manylu ar wrthwynebiadau i gynnig y Cyngor o ran gwneud Gorchymyn i ddiwygio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2019 (Amrywio Rhif 20). Diben y cynnig oedd diogelu defnyddwyr ffyrdd a hwyluso llif traffig diogel a dirwystr mewn amrywiol leoliadau yng Nghaerfyrddin fel y dangosir yn yr atodlen sydd ynghlwm wrth yr adroddiad. Roedd y cynigion yn ymwneud â'r ffyrdd canlynol:
· Heol Bronwydd, Caerfyrddin · Heol Abergwili, Caerfyrddin · Heol Pentrefelin, Caerfyrddin · Y Gelli, Caerfyrddin
Rhoddwyd gwybod nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law i'r cynnig oddi wrth yr ymgyngoreion statudol, ond er hynny roedd pedwar gwrthwynebiad wedi dod i law oddi wrth y cyhoedd, fel y manylwyd yn yr adroddiad ynghyd ag ymatebion yr Adran iddynt.
PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau oedd wedi dod i law i'r Gorchymyn arfaethedig i ddiwygio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2019 (Amrywio Rhif 20) ond bod y Gorchymyn yn cael ei gadarnhau, fel y manylwyd yn yr adroddiad a bod y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am hynny.
|