Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 9fed Mawrth, 2018 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONAL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 RHAGFYR 2017 pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau cyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, a oedd wedi ei gynnal ar 15 Rhagfyr, 2017, gan ei fod yn gofnod cywir.

 

 

3.

DEFNYDDIO DYRANIAD CYLLID LLYWODRAETH CYMRU 2017/2018 AR GYFER MENTRAU PARCIO PEILOT pdf eicon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad am ddefnyddio dyraniad cyllid Llywodraeth Cymru 2017/2018 ar gyfer mentrau parcio peilot. 

 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £180,000 i Gyngor Sir Caerfyrddin drwy Grant Cymorth Refeniw Llywodraeth Cymru er mwyn ariannu prosiectau peilot mewn perthynas â pharcio.  Yr amcan cyffredinol oedd gwella profiad cwsmeriaid er mwyn cefnogi economi canol trefi gan ddarparu amrywiol ddewisiadau o ran teithio cynaliadwy a rheoli'r llif traffig. Yn ogystal, roedd masnachwyr canol trefi wedi gwneud cais am i'r Cyngor  foderneiddio technoleg y mesuryddion, fel y gellid talu drwy gyfleusterau cerdyn debyd a chredyd di-wifr ym meysydd parcio'r Cyngor er mwyn gwella profiad cwsmeriaid.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi disgrifiadau a rhesymau dros fentrau parcio peilot roedd y Cyngor Sir wedi ymgymryd â nhw, a oedd wedi cael eu cynnal mewn partneriaeth â'r Siambrau Masnach a'r Cynghorau Tref.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor wedi cyflwyno adroddiad monitro i Lywodraeth Cymru ar 31 Awst, 2017, a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad. Eglurodd y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd fod oedi wedi bod o ran yr amserlen o achos ymarfer tendr hirfaith a gwblhawyd ddiwedd mis Ionawr 2018.

 

Mewn ymateb i ymholiad a wnaed gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yngl?n â'r dulliau talu presennol, eglurodd y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd mai system talu ymlaen llaw (talu ac arddangos) oedd yn holl feysydd parcio'r Cyngor Sir oedd yng nghanol trefi. Fodd bynnag, er mwyn gwella profiad cwsmeriaid ym maes parcio aml-lawr Llanelli, roedd gosod system 'talu ar droed' a reolir gan fariwns, lle byddai'n rhaid i'r gyrrwr dalu wrth beiriant talu cyn dychwelyd i'r cerbyd, yn cael ei hystyried. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo defnyddio dyraniad o £180,000 gan Lywodraeth Cymru yn 2017/18 ar gyfer mentrau parcio peilot i gaffael a gosod peiriannau tocynnau parcio talu ymlaen llaw (talu ac arddangos) newydd mewn amrywiol feysydd parcio canol tref a system talu ar droed ar gyfer y maes parcio aml-lawr yn Llanelli, gyda'r nod o wella profiad cwsmeriaid i gefnogi economi canol trefi.