Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 15fed Rhagfyr, 2017 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

BWRIAD I GODI TWMPATH ARAFU ESTYNEDIG AR HEOL YR ORSAF, NANTGAREDIG pdf eicon PDF 405 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar gynigion i osod twmpath arafu estynedig ar Heol yr Orsaf, Nantgaredig ar y ffordd i'r pentref o gyfeiriad y de, fel rhan o Gynllun Llwybr Dyffryn Tywi y Cyngor i greu llwybr aml-ddefnydd i feicwyr a cherddwyr rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, a drwy wneud hynny, cysylltu cymunedau ar hyd y llwybr hwnnw, gan greu cyfleoedd o ran twristiaeth ac annog dulliau teithio diogel, cynaliadwy ac iach. Os bydd yn cael ei fabwysiadu, bydd y cynnig yn darparu gwelliannau diogelwch ffyrdd lleol yn Heol yr Orsaf ac yn darparu amgylchedd mwy diogel i ddefnyddwyr Llwybr Dyffryn Tywi, yn enwedig grwpiau ‘teulu’ sy'n beicio.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau statudol, adroddwyd bod ymgynghoriad wedi'i gynnal rhwng 11 Hydref 2017 a 3 Tachwedd 2017, drwy hysbysiadau ar y safle drwy gydol y cyfnod ymgynghori, yn ogystal â chyhoeddi'r cynnig yn y Carmarthen Journal. Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, roedd perchnogion tri eiddo sydd wedi'u lleoli yn agos at y twmpath wedi mynegi gwrthwynebiad. Manylwyd ar y gwrthwynebiadau hynny, ynghyd ag ymateb yr Adran iddynt, yn yr adroddiad ac yn Atodiad 2.

 

O ganlyniad i'r gwrthwynebiad hwnnw, roedd yr Adran wedi ymchwilio i 2 ddewis i'w hystyried gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol. Dewis 1 oedd bwrw ymlaen â'r cynnig gwreiddiol a Dewis 2 oedd gosod arwyddion sy'n fflachio wrth i gerbydau agosáu a marciau ffordd yn lle'r twmpath arafu estynedig. Ar ôl ystyried y ddau ddewis, argymhellodd yr Adran, ar sail dadansoddiad o'r data traffig oedd ar gael, fod Dewis 1 yn cael ei gymeradwyo er mwyn sicrhau diogelwch ehangach o ran ffyrdd, cerddwyr a beicwyr yn rhaglen waith Llwybr Dyffryn Tywi.

 

PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau a gafwyd i'r bwriad i osod twmpath arafu estynedig ar Heol yr Orsaf, Nantgaredig, ond bod y cynnig yn cael ei gymeradwyo er mwyn sicrhau diogelwch ehangach o ran ffyrdd, cerddwyr a beicwyr yn rhaglen waith Llwybr Dyffryn Tywi.