Lleoliad: Swyddfa'r Cyfarwyddwr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 9FED MAWRTH 2018 PDF 100 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018 gan ei fod yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn manylu ar wrthwynebiadau i gynnig y Cyngor o ran gwneud Gorchymyn i ddiwygio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2004 (Amrywio Rhif 17). Diben y cynnig oedd diogelu defnyddwyr ffyrdd a hwyluso llif traffig diogel a dirwystr mewn amrywiol leoliadau yng Nghaerfyrddin fel y dangosir yn yr atodlen sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.
Rhoddwyd gwybod nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law i'r cynnig oddi wrth yr ymgyngoreion statudol, ond er hynny roedd tri gwrthwynebiad wedi dod i law oddi wrth y cyhoedd, fel y manylwyd yn Atodiad 3 i'r adroddiad ynghyd ag ymatebion yr Adran iddynt.
PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau oedd wedi dod i law i'r Gorchymyn arfaethedig i ddiwygio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2004 (Amrywio Rhif 17) ond bod y Gorchymyn yn cael ei gadarnhau, fel y manylwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn amodol ar y newid a nodwyd ym mharagraffau 3.2 yr adroddiad a bod y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am hynny. |