Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Tommy Bowler (Cynrychiolydd o’r Undeb) a Chris Moore.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 9 GORFFENNAF 2019 pdf eicon PDF 360 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2019 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

4.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 18 MEDI 2019 pdf eicon PDF 409 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a oedd wedi cael eu hystyried eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 18 Medi 2019, i'w hystyried.

 

4.1

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 19 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 240 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd gofnodion cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2019.

 

CYTUNWYD bod y cofnodion yn cael eu nodi.

 

4.2

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIADAU ARIANNOL 2018-19 pdf eicon PDF 295 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd gan Swyddfa Archwilio Cymru sy'n rhoi manylion am y materion sy'n codi o'r archwiliad y mae'n ofynnol adroddiad amdanynt o dan ISA 260. 

 

Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn rhoi golwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2019, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. Cyhoeddwyd adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol ac roedd y Pwyllgor Archwilio wedi ystyried yr adroddiad terfynol ar 13 Medi 2019.

 

Canfuwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru na nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y datganiadau ariannol a oedd heb gael eu cywiro o hyd, ond roedd rhywfaint o oedi o ran derbyn y cyfrifon. Roedd nifer o fân gamddatganiadau wedi'u cywiro gan y rheolwyr, fel y'u rhestrir yn Atodiad 3.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch prydlondeb cyflwyno datganiadau, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod camddealltwriaeth wedi bod o ran pa ddogfennau ategol oedd eu hangen, fodd bynnag nid oedd hyn wedi cael effaith ar farn gyffredinol yr Archwiliad.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2018–19.

 

4.3

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL - 30 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf o ran blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch treuliau mewn perthynas â Phartneriaeth Pensiwn Cymru, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd ei bod hi'n anodd rhagweld costau trosglwyddo gan eu bod yn gallu amrywio yn dibynnu ar amseru ac amgylchiadau'r broses drosglwyddo. Byddai adroddiad yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch hyn yn cael ei ddosbarthu i Aelodau'r Bwrdd.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.4

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 9 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa Cronfa Bensiwn Dyfed o ran arian parod. Nodwyd ar 30 Mehefin, 2019 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £13.8m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y ffigur presennol yn rhannol oherwydd bod Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Caerfyrddin yn talu cyfraniadau cyflogwr ymlaen llaw ar gyfer y flwyddyn gyfan/bob chwe mis. Roedd disgwyl i'r ffigur ostwng yn unol â hynny dros y misoedd nesaf.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.5

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2019-20 pdf eicon PDF 411 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i roi gwybod am achosion o dorri'r gyfraith.

  

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.6

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cofrestr Risg, a oedd yn cynnwys yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Roedd y gofrestr, a gâi ei monitro a'i hadolygu yn rheolaidd, yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

 

·        Manylion yr holl risgiau a nodwyd

·        Asesiad o'r effaith bosibl, y tebygolrwydd a'r statws risg

·        Y mesurau rheoli risg sydd ar waith

         Y swyddog cyfrifol

·        Dyddiad targed (os yw'n berthnasol)

  

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch risgiau sy'n ymwneud â staffio a hyfforddiant, dywedwyd wrth y Bwrdd fod eitemau gwahanol ar y gofrestr risg yn gysylltiedig â ffrydiau gwaith a meysydd arbenigedd gwahanol.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y Bwrdd fod adolygiad yn cael ei wneud ar hyn o bryd ynghylch risgiau sy'n ymwneud â seiberddiogelwch.

 

CYTUNWYD bod y Gofrestr Risg yn cael ei nodi.

 

 

4.7

Y DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU pdf eicon PDF 395 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y cynnydd a'r cerrig milltir hyd yn hyn.

 

Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf allweddol:

·         Cerrig Milltir Allweddol

·         Y cynnydd hyd yn hyn

·         Tranche 2 (Ecwitis y DU ac Ewrop)

·         Tranche 3 (Incwm Sefydlog)

·         Tranche 4 (Marchnadoedd Preifat)

·         Y Camau Nesaf

 

CYTUNWYD y dylid derbyn yr adroddiad diweddaru.

 

4.8

CYFLWYNIAD LINK A RUSSELL pdf eicon PDF 731 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i gyflwyniad gan Link and Russell ynghylch cynnydd a cherrig milltir allweddol Partneriaeth Pensiwn Cymru. Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o'r gwasanaethau a ddarperir gan weithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru, gan gynnwys penodi a goruchwylio rheolwyr buddsoddi, monitro buddsoddiadau, goruchwylio'r gweinyddwr (Northern Trust) a'r cerrig milltir allweddol. Yn ogystal, rhoddodd y cyflwyniad wybodaeth am fuddion a gofynion rheoleiddiol strwythur y Cynllun Contractiol Awdurdodedig, a oedd wedi'i fabwysiadu gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

CYTUNWYD bod y cyflwyniad yn cael ei dderbyn.

 

4.9

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 18 MEDI 2019 pdf eicon PDF 335 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd gofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd, 2019.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch atal Cronfa Woodford, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod Link yn darparu gwasanaethau ased i'r gronfa ond nad oedd yr ataliad yn cael effaith ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'i gweithrediadau.

 

CYTUNWYD bod y cofnodion yn cael eu nodi.

 

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2019.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2019 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau