Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn - Dydd Iau, 21ain Mawrth, 2019 10.30 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann  01267 224178

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr Mike Rogers [Cynrychiolydd Pensiynwyr].

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 15FED HYDREF 2018 pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

4.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 21AIN CHWEFROR 2019

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a oedd wedi cael eu hystyried eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 21 Chwefror 2019, i'w hystyried:

 

4.1

COFNODION DRAFFT CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 21AIN CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd gofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2019.

 

Codwyd nifer o faterion yn ymwneud â'r cofnodion, gan gynnwys y canlynol.

 

Rhif y Cofnod 6 – Cysoni Arian Parod ar 31 Rhagfyr 2018

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr £8.7m o arian parod a ddelir gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran y Gronfa yn ddigonol i fynd i'r afael â'r gofynion llif arian parod uniongyrchol.

 

Rhif y Cofnod 10 – Cyflwyniad gan yr Awdurdod Cynnal ar Gerrig Milltir a Diweddariad Cynnydd - Partneriaeth Pensiwn Cymru

Gwnaed ymholiad ynghylch yr oedi wrth lansio Tranche 2 a Tranche 3 a nodwyd yn y diweddariad cynnydd. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr oedi wedi digwydd yn y broses o benderfynu ar bortffolios. O gofio natur hirdymor y buddsoddiadau, roedd sicrhau bod cyfansoddiad y portffolios yn briodol yn bwysicach na chydymffurfio â'r dyddiadau targed. Dywedodd na ddylai'r oedi, felly, gael ei ystyried yn niweidiol i'r cynnydd cyffredinol.

 

Rhif y Cofnod 15 – Benthyca Gwarannau

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai'n rhaid i'r penderfyniad i fabwysiadu Benthyca Gwarannau gael ei wneud ar lefel Gronfa, a byddai'n rhaid i'r holl Awdurdodau Lleol gytuno â'r cynnig. Dywedodd fod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ond wedi cytuno i Fenthyca Gwarannau ar y Gronfa Ecwiti Byd-eang a bod ymatebion gan rai ALlau dal heb ddod i law.

 

4.2

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2018 - 31 RHAGFYR 2018 pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf o ran blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Awgrymwyd bod rhai anghywirdebau/anghysonderau yn y daenlen Monitro'r Gyllideb atodedig. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y gallai fersiwn wedi'i chywiro gael ei dosbarthu i'r Bwrdd Pensiynau a'r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch trosglwyddiadau o gronfeydd pensiwn eraill, dywedodd Swyddogion nad oedd modd rheoli'r trosglwyddiadau hyn a'u bod yn anodd eu rhagweld.  Byddai Aelodau'r Bwrdd yn cael eglurhad pellach mewn perthynas â ffigurau incwm/gwariant gwirioneddol yr eitem hon hyd yn hyn.

 

CYTUNWYD bod

4.2.1 fersiwn wedi'i chywiro o'r adroddiad yn cael ei dosbarthu i Fwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed a Phwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.         

4.2.2. y fersiwn wedi'i chywiro yn rhoi eglurhad i Aelodau'r Bwrdd o ran yr incwm/gwariant gwirioneddol hyd yn hyn ar gyfer trosglwyddiadau o gronfeydd pensiwn eraill.

 

4.3

CYLLIDEB 2019-20 pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2019/20. Nodwyd bod y gwariant arian parod cysylltiedig ar gyfer 2019/20 a oedd wedi'i bennu ar £87.8m a'r incwm arian parod cysylltiedig o £87.8m wedi arwain at gyllideb net o £0 a oedd yn rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion llif arian.

 

O ran lefelau gwariant, nododd y Bwrdd fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £79.5m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 2.4% yn y pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr mis Medi 2018, ynghyd ag effaith net o 2% ar gyfer aelodau newydd y pensiwn. Amcangyfrifwyd mai £5.6m fyddai'r costau rheoli, ac o'r swm hwnnw roedd £3m wedi'i neilltuo ar gyfer ffioedd rheolwr buddsoddi.  Nodwyd ymhellach fod cyfraniadau incwm wedi cael eu hamcangyfrif yn £72.1m a oedd yn cynnwys £52.8m gan y cyflogwr a £19.3m yn gyfraniadau gan y gweithwyr, a bod cyfraddau'r cyflogwyr ar sail prisiad 2016 a oedd yn cynnwys 2% ar gyfer codiadau cyflog yn 2019-20. Amcangyfrifwyd bod incwm buddsoddi yn £14m er mwyn cynnal cyllideb niwtral yn ariannol a sicrhau nad oedd y gronfa yn cadw arian dros ben y byddai modd ei fuddsoddi. Roedd y gyllideb gysylltiedig ar gyfer eitemau nad ydynt yn rhai arian parod wedi'i gosod ar £50m ar sail amcangyfrif yr enillion a'r colledion a gafwyd o ran portffolios rheolwyr unigol a gwerthiannau a phryniannau o fewn y portffolios eiddo.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch buddion taladwy, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y ganran amrywiant o 3.7% yn adlewyrchu cynnydd o 2.4% mewn pensiynau ar gyfer pensiynwyr presennol, cynnydd o 2% ar gyfer pobl mewn gwaith, a chynnydd o 2% i bensiynwyr newydd a phensiynwyr gohiriedig. Gellid darparu enghraifft o'r cyfrifiad perthnasol yn y cyfarfod nesaf.

 

Hysbyswyd y Bwrdd fod y cynnydd yn y costau rheoli ar gyfer Schroders and Partners Group yn rhannol oherwydd cynnydd yn y gwerth cyfalaf ar gyfer buddsoddiadau ac roedd yn adlewyrchu gwahanol strwythurau buddsoddi.

 

Dywedwyd bod yr ystadegau sy'n ymwneud â chostau Cronfa Bensiwn Dyfed i Bartneriaeth Pensiwn Cymru yn rhannol seiliedig ar amcangyfrifon a byddai data mwy manwl ar gael yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

CYTUNWYD i nodi'r Gyllideb ar gyfer 2019-20.

 

4.4

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31AIN RHAGFYR 2018 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 31 Rhagfyr, 2018 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £8.7m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

CYTUNWYD y dylid derbyn yr adroddiad Cysoni Arian Parod.

 

4.5

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.

 

Cafwyd ymholiad yn gofyn a fyddai'n bosibl datgelu manylion achosion unigol o dorri rheolau er mwyn canfod a ellid cysylltu achosion mynych â sefydliadau penodol. Cynghorwyd y swyddogion fod hyn yn bosibl drwy adroddiad eithriedig ac awgrymwyd y gellid darparu dadansoddiad a gwaith monitro blynyddol yn ymwneud ag "aildroseddwyr".

 

CYTUNWYD bod

4.5.1    yr Adroddiad Torri Amodau yn cael ei nodi;

4.5.2    Adroddiadau Torri Amodau'r dyfodol yn cynnwys monitro "aildroseddwyr" posibl.

 

 

 

 

4.6

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gofrestr Risg, a oedd yn cynnwys yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried. Roedd y gofrestr, a gâi ei monitro a'i hadolygu yn rheolaidd, yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

 

·         Manylion yr holl risgiau a nodwyd

·         Asesiad o'r effaith bosibl, y tebygolrwydd a'r statws risg

·         Y mesurau rheoli risg sydd ar waith

·         Y swyddog cyfrifol

·         Dyddiad targed (os yw'n berthnasol)

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r risgiau oedd yn gysylltiedig â Brexit, dywedodd y swyddogion nad oedd y rhain wedi'u cynnwys yn y gofrestr am eu bod y tu hwnt i reolaeth y Pwyllgor. Roedd yn rhaid i reolwyr buddsoddi reoli risgiau a oedd yn gysylltiedig â'r gyfradd gyfnewid.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar risg yn ymwneud â pherfformiad cronfeydd, dywedodd swyddogion fod y strategaeth ariannu'n cael ei hadolygu'n flynyddol ar ôl i werthusiadau gael eu cyhoeddi.

 

O ran y risg a oedd yn ymwneud â diffyg perfformiad gan Aelodau'r Pwyllgor, dywedodd y Swyddogion ei bod yn ofynnol i Aelodau'r Pwyllgor gymryd rhan mewn hyfforddiant blynyddol. Roedd un aelod ar y Pwyllgor wedi cael ei ddisodli'n ddiweddar oherwydd newidiadau gwleidyddol yng nghyfansoddiad y pleidiau ac roedd yr aelod newydd wedi cael hyfforddiant sefydlu ynghylch gwaith y Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch adnoddau ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, dywedodd y Swyddogion fod yr holl staff wedi cael eu penodi a bod y Gronfa mewn sefyllfa dda. Roedd y gwaith partneriaeth yn mynd rhagddo'n dda ac roedd darpariaethau cyllidebol ar gyfer penodi aelod arall o staff pe bai angen. Fodd bynnag, nid ystyriwyd bod hyn yn angenrheidiol ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Gofrestr Risg.

 

4.7

YMGYNGHORIAD MHCLG pdf eicon PDF 472 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i ymgynghoriad gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar ganllawiau statudol drafft ynghylch cyfuno asedau yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ac roedd nodyn gan Hymans Robertson LLP, ymgynghorwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru, ynghlwm wrth y ddogfen.

 

Cynghorwyd y Bwrdd y byddai ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hanfon gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

Awgrymwyd y gallai'r canllawiau statudol ei gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiadau rheolaidd yn amlach na phob tair blynedd, ac y dylai roi mwy o hyblygrwydd ac eglurder o ran y gofyniad i wneud buddsoddiadau'n lleol. Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Swyddogion fod angen trafodaeth bellach i egluro rôl Byrddau Pensiwn Lleol mewn perthynas â Phartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

CYTUNWYD bod

4.7.1.   ymgynghoriad y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leola phapur Hymans yn cael ei nodi;

4.7.2.   ymateb drafft yn cael ei ddosbarthu i Aelodau'r Bwrdd.

 

4.8

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y cynnydd a'r cerrig milltir hyd yn hyn.

 

Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf allweddol:

·         Cerrig Milltir Allweddol

·         Y cynnydd hyd yn hyn

o   Cronfeydd Cychwynnol (Ecwiti Byd-eang)

o   Tranche 2 (Ecwitis y DU ac Ewrop)

o   Tranche 3 (Incwm Sefydlog)

·         Y Camau Nesaf

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth Aelodau'r Bwrdd fod trefniadau'n cael eu gwneud i gynnal cyfarfod arall o Gadeiryddion Bwrdd Pensiwn ym mis Ebrill. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n bresennol ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd ar ôl y cyfarfod.

 

CYTUNWYD bod y newyddion diweddaraf ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael eu nodi.

 

5.

CYLLIDEB Y BWRDD PENSIYNAU 2019-20 pdf eicon PDF 55 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Pensiwn gyllideb y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2019-20.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Cyllideb yBwrdd Pensiwn ar gyfer 2019/20.

 

6.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

7.

ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 6 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2018.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 6 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2018 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

9.

BENTHYCA GWARANNAU

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 6 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth o bosibl yn achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn drwy ddatgelu eiddo deallusol y rheolwyr cronfa hynny.

 

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i gais ynghylch benthyca gwarannau ar gyfer buddsoddiadau Cronfa Bensiwn Dyfed o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru. Roedd y cais yn cynnwys adroddiad Mercer ynghylch benthyca gwarannau a chynnig Northern Trust.

 

Cynghorwyd y Bwrdd fod mabwysiadu'r datrysiad masnachu arfaethedig yn amodol ar gael cymeradwyaeth pob un o'r wyth Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru. Ar ôl ystyried cyngor gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, roedd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn wedi penderfynu cymeradwyo'r cais ynghylch benthyca gwarannau, ar yr amod bod y datrysiad masnachu yn cael ei fonitro'n rheolaidd ac ond yn cael ei ddefnyddio yn y lle cyntaf ar gyfer Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru. Dywedodd y Bwrdd fod yr holl Gronfeydd heblaw am Torfaen wedi cytuno i'r datrysiad masnachu.

 

CYTUNWYD nodi'r cais am fenthyca gwarannau.