Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mr Mark Miles [Cynrychiolydd Cyflogwr] a'r Cynghorydd P. Hughes [Cyngor Sir Caerfyrddin – Cynrychiolydd Cyflogwr].

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 26 GORFFENNAF 2018 pdf eicon PDF 157 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2018 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

4.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 18 MEDI 2018 pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a ystyriwyd eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 18 Medi 2018, i'w hystyried:-

 

 

5.

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 20 MEHEFIN 2018 pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd gofnodion cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2018.

 

 

6.

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIADAU ARIANNOL 2017-18 pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd gan Swyddfa Archwilio Cymru sy'n rhoi manylion am y materion sy'n codi o'r archwiliad sy'n ofynnol o dan ISA 260. 

 

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2018, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno.

 

Nodwyd mai bwriad yr Archwilydd Cyffredinol oedd cyflwyno adroddiad archwilio diamod ar y datganiad ariannol ac nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi a oedd yn dal heb eu cywiro.

 

Gofynnwyd y cwestiwn canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·        Mewn ymateb i ymholiad ynghylch oedi o ran cwblhau'r datganiadau ariannol drafft ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2018, cyfeiriodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn at y problemau staffio a gododd yn yr uned yn ystod y cyfnod o baratoi'r cyfrifon a'r broses archwilio. Diolchwyd i'r staff am eu hymdrechion sylweddol i gyflwyno'r cyfrifon ac i Swyddfa Archwilio Cymru am ei hyblygrwydd yn ystod y broses archwilio.

 

·        Yn ogystal, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol ei fod yn arferol i'r Llythyr Sylwadau gael ei lofnodi ar ddiwedd cyfarfod y Pwyllgor Archwilio.  Fodd bynnag, yn y dyfodol, awgrymodd y byddai'n ddoeth i gynnal adolygiad o broses lofnodi Datganiadau Ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. 

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

 

7.

DATGANIAD CYFRIFON 2017-18 pdf eicon PDF 303 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Ddatganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2017/18, a gynhyrchwyd yn unol â'r Côd Ymarfer ar Gadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2017-18, sy'n manylu ar y sefyllfa ariannol, perfformiad a hyfywedd ariannol ar gyfer y flwyddyn 2017-18 ynghyd â chanlyniadau stiwardiaeth rheoli h.y. – atebolrwydd rheolwyr o ran yr adnoddau sydd wedi'u hymddiried iddynt a sefyllfa’r asedau ar ddiwedd y cyfnod.

 

Nodwyd bod cyfanswm gwerth y Gronfa, fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2018 yn £2.440bn, sy'n cynrychioli cynnydd yn yr asedau net o £97m o 2016/17 i 2017/18 gyda'r cynnydd yn cael ei briodoli yn bennaf i gynnydd yng ngwerth y farchnad o'r asedau buddsoddi.

 

O ran gwariant y Gronfa, roedd y budd-daliadau a dalwyd a'r trosglwyddiadau allan wedi cynyddu £2.4m i £82.5m, ac roedd y cyfraniadau a'r trosglwyddiadau i mewn wedi cynyddu £1.6m i £73.4m o ran yr incwm.  Roedd y diffyg o £9m rhwng gwariant ac incwm wedi'i ddiwallu gan yr incwm buddsoddi.

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        O ran Cyfraniadau'r Cyflogwr - Diffyg o ran y Gwasanaeth yn y Gorffennol, gwnaed sylw bod 2017/18 wedi gostwng dros 50% o gymharu â 2016-17. Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod hyn oherwydd cyfraddau is o ran cyfraniadau ar gyfer y diffyg oherwydd lleihad o ran y diffyg o ganlyniad i brisiad mis Mawrth 2016.

 

·        Cyfeiriwyd at Fuddsoddiadau mewn Eiddo - Limited Partnership ar dudalen 11 yr adroddiad. Er bod risg posibl wedi'i nodi, nodwyd bod cyfanswm buddsoddiad o £44.0m i'w gymeradwyo.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

8.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2018 - 30 MEHEFIN 2018 pdf eicon PDF 44 KB

Cofnodion:

Nododd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, o ganlyniad i gamgymeriad gweinyddol, fod yr agenda a gyhoeddwyd yn cynnwys fersiwn anghywir o Gyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer ffigurau 2016-17. Dosbarthwyd adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed diwygiedig i'r Bwrdd a oedd yn cynnwys ffigurau hyd at 30 Mehefin 2018.

 

Derbyniodd y Bwrdd yr adroddiad a nodwyd uchod a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, ar 30 Mehefin, 2018 yn rhagweld tanwariant o £1,869k o ran arian parod.

 

O ran gwariant, roedd yr effaith net o'r buddion sy'n daladwy a throsglwyddiadau allan yn cynrychioli tanwariant o £4.5m yn bennaf oherwydd natur aflywodraethus cyfandaliadau a throsglwyddiadau o'r Gronfa. Roedd tanwariant hefyd o ran treuliau rheolwyr o £0.3m.

 

Wrth ystyried incwm, gwelwyd tanwariant o £0.3m sy'n cynrychioli effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau i mewn. Yn gyffredinol, rhagwelwyd cyfanswm gwariant y Gronfa yn £81.6m a chyfanswm incwm yn £83.5m, sy'n cynrychioli sefyllfa llif arian cadarnhaol o £1.9m.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

9.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2018-19 pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

10.

DATGANIAD STRATEGAETH GYLLIDOL pdf eicon PDF 449 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad ar fabwysiadu Datganiad Strategaeth Gyllido ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed sy'n nodi strategaeth gyllido glir a thryloyw o ran sut yr oedd pob un o rwymedigaethau pensiwn y cyflogwr yn cael eu bodloni.

 

Codwyd y canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·        Cyfeiriwyd at asesu a monitro cyfamod  Er mwyn rhoi eglurhad, esboniodd y Rheolwr Pensiynau y broses o ran:-

 

­   Meini Prawf Risg

­   Asesu cyfamod cyflogwr

­   Amlder monitro

­   Rheoli Risg Cyfamod

 

Rhoddwyd rhagor o wybodaeth fanwl am y broses uchod yn y Polisi Asesu a Monitro Cyfamod a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad D.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

 

11.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R

MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH

EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4

O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I

DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS

BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN

PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER

HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y

CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2018 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

13.

ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin, 2018.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau