Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr. Mark Miles [Cynrychiolydd Cyflogwr].

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 24 EBRILL 2018 pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2018 yn gywir.

 

4.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENIWN A GYNHALIWYD AR 20 MEHEFIN 2018 pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a ystyriwyd eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 20 Mehefin 2018, i'w hystyried:-

 

4.1

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 4 MAI 2018 pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd gofnodion cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 4 Mai, 2018.

 

4.2

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2017 - 31 MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed, a oedd yn cyflwyno'r union sefyllfa gyllidebol ar ddiwedd y flwyddyn fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018, mewn perthynas â 2017/18. Roedd cyfanswm gwariant o £84.1m a chyfanswm incwm o £85.2m wedi arwain at sefyllfa llif arian cadarnhaol o £1.1m. Datganodd yr adroddiad diwedd blwyddyn o ran gwariant, fod effaith net Buddion Taladwy a Throsglwyddiadau wedi arwain at orwariant o £1.4m, y dylanwadwyd arno'n bennaf gan natur afreoladwy'r cyfandaliadau a throsglwyddiadau allan o'r Gronfa.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.3

CRYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 31 Mawrth, 2018 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £4.9m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.4

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2017-2018 pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Rheolau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

5.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R

MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH

EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4

O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I

DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS

BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN

PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER

HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y

CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

6.

ADRODDIADAU IS-GRONFA ECWITI BYD-EANG

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad. Gallai hynny danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith wael ar y pwrs cyhoeddus.

 

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Is-gronfa Ecwiti Byd-eang a oedd yn rhoi manylion llawn am y cyfle buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, gan gynnwys:-

 

·                    Yr elw disgwyliedig ar y buddsoddiadau;

·                    Y buddsoddiadau arfaethedig i'w defnyddio;

·                    Dyraniad arfaethedig yr is-gronfa i reolwyr;

·                    Ffioedd rheoli buddsoddiadau a dargedwyd;

·                    Y costau trosiannol disgwyliedig;

·                    Y buddsoddiad posibl a oedd yn cael ei rannu rhwng cronfeydd;

·                    Yr arbedion cost posibl.

 

CYTUNWYD i nodi'r adroddiad is-gronfa ecwiti fyd-eang a'r daflen arbedion o ran costau.

 

7.

ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL MAWRTH 2018

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad. Gallai hynny danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith wael ar y pwrs cyhoeddus.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2018.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

8.

GWEITHREDU STRATEGAETH DDIWYGIEDIG (BLACKROCK SAIF)

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad. Gallai hynny danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith wael ar y pwrs cyhoeddus.

 

Cafodd y Bwrdd adroddiad ar Weithredu'r Strategaeth Ddiwygiedig mewn perthynas â Chronfa Incwm Amgen Strategol (SAIF) Black Rock. Cyflwynwyd yr adroddiad ar ôl i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed gymeradwyo'r strategaeth ddiwygiedig, a oedd yn ddetholiad o adroddiad Diwygio Dyraniad Asedau Strategol Cronfa Bensiwn Dyfed, a oedd yn fwy cynhwysfawr ac a ysgrifennwyd gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol ym mis Gorffennaf 2017. 

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 MAWRTH 2018

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad. Gallai hynny danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith wael ar y pwrs cyhoeddus.

 

Cafodd y Bwrdd adroddiad am berfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau