Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin - 3 Heol Spilman. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mr Mike Rogers [Cynrychiolydd Pensiynwyr] a'r Cynghorydd P.M. Hughes [Cyngor Sir Caerfyrddin – Cynrychiolydd Cyflogwr]. 

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod y byddai Ms Catherine Davies yn gadael y Bwrdd ar ôl cael swydd newydd ac y byddai hyn yn gadael dau le gwag ar y Bwrdd (gan gynnwys Mr Mark Miles a chynrychiolydd yr Undeb). Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y byddai swydd wag y Cynrychiolydd Gweithwyr yn cael ei chynnwys yn y cylchlythyr blynyddol a fydd yn cael ei ddosbarthu erbyn 30 Ebrill 2018, ac mai'r dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau fyddai 31 Mai 2018. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai'r swydd yn cael ei hysbysebu ac y byddai'n agored i'r holl aelodau, a'r gobaith oedd y byddai aelodaeth y Bwrdd yn llawn eto erbyn y cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf 2018.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 18EG IONAWR 2018 pdf eicon PDF 155 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018 yn gywir.

 

 

4.

CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED 14EG MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a ystyriwyd eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth 2018, i'w hystyried:-

 

 

4.1

CYNLLUN ARCHWILIO 2018 pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2018 a baratowyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'n rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, fel archwilydd Cronfa Bensiwn Dyfed, gyflawni ei ddyletswyddau a'i rwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ac roedd y cynllun yn nodi'r gwaith oedd i'w wneud er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny.

 

Nododd y Bwrdd fod y Pwyllgor Archwilio wedi mabwysiadu Cynllun Archwilio 2018 yn ei gyfarfod ar 23 Mawrth 2018.

 

Gofynnwyd y cwestiwn canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y risg i'r archwiliad ariannol oedd yn ymwneud â sefydlu Partneriaeth Pensiwn Cymru, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai archwiliad Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei wneud gan y tîm o Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn gyfrifol am archwiliad Cronfa Bensiwn Dyfed, am mai Cyngor Sir Caerfyrddin oedd awdurdod cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.2

MONITRO CYLLIDEB FEL YR OEDD AR 28 CHWEFROR 2018 pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ar gyfer 2017/18 fel yr oedd ar 28 Chwefror 2018.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.3

CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED 2018 - 2019 pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2018/19.

 

Gofynnwyd y cwestiwn canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

Esboniodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod y £200k yn cynnwys cyfran Cronfa Bensiwn Dyfed (1/8) o gyfanswm cost ac yn cynnwys costau'r awdurdod cynnal,  ffïoedd gweithredu, ffïoedd cadw a ffïoedd adneuo Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

4.4

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 IONAWR 2018 pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad ynghylch Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Ionawr 2018.

 

Yn dilyn ymholiad, esboniodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £5.3m o arian parod ar ran y Gronfa at ofynion ariannol uniongyrchol megis talu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.5

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Rheolau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.  Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.

 

Er mwyn sicrhau bod yr adroddiad yn cynnwys achosion perthnasol o dorri rheolau, gofynnodd Aelodau'r Bwrdd am i achosion 2016/17 o dorri rheolau gael eu tynnu o adroddiadau'r dyfodol ac am i achosion o dorri rheolau gael eu gosod yn nhrefn amser.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.6

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gofrestr Risg, a oedd yn cynnwys yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried.

 

Caiff y gofrestr ei monitro a'i hadolygu yn rheolaidd ac mae'n cynnwys y wybodaeth ganlynol:-

 

·       Manylion yr holl risgiau a nodwyd

·       Asesiad o'r effaith bosibl, y tebygolrwydd a'r sgôr risg

·       Mesurau rheoli risg sydd ar waith

·       Y swyddog cyfrifol

·       Dyddiad targed (os yw'n berthnasol)

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

Cyfeiriwyd at CSV400012 - methu denu, rheoli, datblygu a chadw staff ar bob lefel. Gofynnwyd a oedd y trosiant uchel o staff wedi cael sylw ac a oedd camau wedi'u cyflwyno i leihau trosiant staff. Cadarnhaodd y Rheolwr Pensiynau mai'r gobaith oedd y byddai'r holl swyddi gwag yn cael eu llenwi erbyn diwedd wythnos nesaf a bod swyddi gwag wedi codi yn sgil gwneud swyddi dros dro yn rhai parhaol.

 

Holwyd ymhellach a oedd y statws risg presennol, sef 'annhebygol', yn y rhan am debygolrwydd wedi'i osod ar y lefel briodol ar gyfer y risg a ddynodwyd.  Dywedodd y Rheolwr Pensiynau ei fod o'r farn fod y statws a roddwyd, sef 'annhebygol', yn dderbyniol yn sgil yr apwyntiadau a fydd yn digwydd cyn bo hir. Gwnaed y sylw y dylai'r risg hwn barhau i gael ei fonitro. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod gweithluoedd yn lleihau i gyfateb â'r gostyngiad mewn llwythi gwaith wrth i systemau a phrosesau ddod yn fwy effeithlon.

 

CYTUNWYD bod y Gofrestr Risg yn cael ei nodi.

 

 

4.7

POLISI LLYWODRAETHU A DATGANIAD CYDYMFFURFIAETH 2018 pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Bolisi Llywodraethu Cronfeydd Pensiwn Dyfed a'r Datganiad Cydymffurfiaeth ar gyfer 2018, y gwnaed mân newidiadau iddynt i adlewyrchu'r newidiadau cyfansoddiadol gan gynnwys ei ailenwi yn Bwyllgor o'r Cyngor yn hytrach na Phanel.

 

CYTUNWYD bod y Polisi Llywodraethu a'r Datganiad Cydymffurfiaeth yn cael eu nodi.

 

 

4.8

GWEITHREDU'R GYFARWYDDEB MARCHNADOEDD MEWN OFFERYNNAU ARIANNOL (MiFID II) pdf eicon PDF 37 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf ynghylch y Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol (MIFID II). 

 

Nododd y Bwrdd fod yr 'uwchraddio' wedi cael ei gwblhau gan wyth o'r sefydliadau rhestredig; roedd y ddau gais sy'n weddill mewn perthynas â Standard Life (drwy Schroders) a Russell Investments yn aros i gael eu cwblhau ar hyn o bryd.

 

CYTUNWYD bod y newyddion diweddaraf ynghylch y MIFID II yn cael eu nodi.

 

 

5.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y cynnydd a'r cerrig milltir hyd yn hyn.

 

Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf allweddol:-

·           Y Cerrig Milltir Allweddol

·           Y cynnydd hyd yn hyn

o    Cyflwyniad Cychwynnol y Gronfa

o    Rheolwr Buddsoddi

o    Dogfennau'r Cynllun

o    Adrodd yn ôl

o    Llywodraethu

·           Y Camau Nesaf

 

CYTUNWYD bod y newyddion diweddaraf ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael eu nodi.

 

 

6.

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 14EG MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 215 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd gofnodion cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2018.

 

NODWYD.


 

 

 

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion eraill.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau