Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Mr Ian Eynon a Mr Mike Rogers. Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Bwrdd fod Ms Janet Wyer wedi cyflwyno'i hymddiswyddiad. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Mr Chris Moore, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Mr Kevin Gerard, Rheolwr Pensiynau.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 9FED HYDREF, 2017. PDF 210 KB Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2017 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir
|
|
CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED - 27AIN TACHWEDD 2017 PDF 61 KB Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a ystyriwyd eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2017, i'w hystyried:-
|
|
MONITRO'R CYLLIDEB HYD AT 31AIN HYDREF, 2017 PDF 94 KB Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ar gyfer 2017/18 fel yr oedd ar 31 Hydref 2017.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
CYSONI ARIAN PAROD HYD AT 30AIN MEDI 2017 PDF 70 KB Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.
Ar 30 Medi, 2017 cadwai Cyngor Sir Caerfyrddin £4.5 miliwn o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion uniongyrchol o ran llif arian i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU PDF 64 KB Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.
Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau cyflogai/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Gofrestr Risg, a oedd yn cynnwys yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried.
Caiff y gofrestr ei monitro a'i hadolygu yn rheolaidd ac mae'n cynnwys y wybodaeth ganlynol:-
· Manylion yr holl risgiau a nodwyd · Asesiad o'r effaith bosibl, tebygolrwydd a sgorio risg · Mesurau rheoli risg sydd ar waith · Y swyddog cyfrifol · Dyddiad targed (os yw'n berthnasol)
Rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau wybod i'r Bwrdd fod y gofrestr wedi'i diweddaru yn dilyn cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd a bod y fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno iddynt heddiw.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - CRYONDEB O'R LLIF GWAITH PDF 202 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor grynodeb o'r Ffrwd Waith, fel yr oedd ar 30 Medi 2017, a amlinellai'r camau sy'n ofynnol ar gyfer y broses o benodi Gweithredwr ynghyd â'r dyddiadau cwblhau.
Rhoddodd y Rheolwr Pensiynau a Buddsoddiadau y diweddaraf i'r Bwrdd ynghylch y sefyllfa bresennol a nododd y Bwrdd fod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn unol â'r amserlen.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - ADOLYGIAD YR HYDREF DCLG PDF 404 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd am Adolygiad Hydref yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru ar Gronni Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
DIWEDDARIAD MiFID II PDF 55 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y diweddaraf ynghylch y Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol (MIFID II).
Dangosodd y nodyn briffio wedi'i ddiweddaru fod ceisiadau wedi'u cyflwyno gan Gyngor Sir Caerfyrddin, fel yr awdurdod gweinyddu ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, i uwchraddio i statws Cleient Proffesiynol at ddibenion MIFID II.
Nododd y Pwyllgor fod yr uwchraddio wedi cael ei gwblhau gan bob un o'r sefydliadau.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 27AIN TACHWEDD 2017 PDF 213 KB Cofnodion: Cafodd y Bwrdd gofnodion cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2017.
NODWYD.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Bwrdd fod cyfnod yr aelodau yn y swydd wedi'i ystyried yn y cyfarfod diwethaf (ac eithrio cynrychiolydd Cyflogwr Sir Gaerfyrddin a oedd ond wedi'i benodi'n ddiweddar).
Nododd y Bwrdd y canlynol:-
(1) Mae aelodau canlynol y Bwrdd, y bydd eu cyfnod gwreiddiol yn y swydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2018, oll wedi mynegi diddordeb mewn ymestyn eu cyfnod yn y swydd am hyd at ddwy flynedd ychwanegol, yn unol â'r cylch gwaith:-
Mr John Jones, Ms Catherine Davies, Mr Ian Eynon a Mr Mike Rogers
(2) Mae Ms Janet Wyer wedi ymddiswyddo fel aelod o'r Bwrdd;
(3) Mae Mr Mark Miles wedi mynegi ei ddymuniad i gamu i lawr ond roedd yn fodlon aros hyd nes y caiff ei olynydd ei benodi.
Dymunai'r Cadeirydd fynegi ei werthfawrogiad i'w gyd-aelodau ar y Bwrdd am eu cyfraniad at waith y Panel ers ei gychwyn yn 2015.
CYTUNWYD bod y Swyddog Adran 151 yn nodi'r uchod ac yn dechrau ar y broses berthnasol er mwyn llenwi'r swyddi.
|
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Cynnig i ffedereiddio Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog o 1 Medi 2024.
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth