Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin - 3 Heol Spilman. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Ms Catherine Davies, Mr Mark Miles a Ms Janet Wyer.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Cynghorydd Philip Hughes i'w gyfarfod cyntaf.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd fod Cronfa Bensiwn Dyfed wedi ennill y Wobr am Weinyddu Cynllun a Gwobr Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y Flwyddyn (o dan £2.5bn) yn y Seremoni Wobrwyo Buddsoddiadau LAPF a gynhaliwyd yn ddiweddar.  Cronfa Bensiwn Dyfed oedd yr unig Gronfa i ennill 2 wobr yn y Seremoni.  Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith fod yna nifer o gronfeydd yn cystadlu am y gwobrau hyn ac estynnodd ei longyfarchiadau i bawb a fu'n gysylltiedig â hwy.

 

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 19EG GORFFENNAF, 2017. pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2017 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

4.

CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 21AIN MEDI 2017. pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol i'w hystyried, a oedd wedi cael eu hystyried gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 21 Medi, 2017:-

 

41.

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIADAU ARIANNOL - CRONFA BENSIWN DYFED. pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.  Rhoddodd yr adroddiad sylw i'r materion a oedd yn codi o'r archwiliad ac yr oedd angen adrodd yn eu cylch o dan Safon Ryngwladol ar Archwilio (ISA) 260. 

 

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2017, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno.

 

Nodwyd mai bwriad yr Archwilydd Cyffredinol oedd cyflwyno adroddiad archwilio diamod ar y datganiad ariannol ac nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi a oedd yn dal heb eu cywiro.

 

Gofynnwyd y cwestiwn canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i'r cwestiwn ynghylch a oedd y camddatganiadau'n rhai mân, rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddi Pensiynau wybod eu bod mewn perthynas ag eitemau cyflwyniadol yn unig e.e. gwallau gramadegol a fformatio. 

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wybod i'r Bwrdd fod y cyfrifon wedi eu llofnodi wedi cael eu dychwelyd gan yr Archwilydd felly roedd cyfrifon y llynedd bellach wedi'u cau yn swyddogol.

 

Cytunwyd bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

 

 

42.

DATGANIADAU ARIANNOL CRONFA BENSIWN DYFED 2016-17. pdf eicon PDF 302 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Datganiadau Ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2016/17.

 

Yn ôl sefyllfa'r gronfa ar 31 Mawrth 2017 roedd cyfanswm gwerth yr asedau yn £2,343m, sef cynnydd o £443m o gymharu â 31 Mawrth 2016.

 

Caiff £2,335m o asedau eu rheoli gan ein Rheolwyr Buddsoddi ac £8m yw'r hyn sy'n weddill o'r asedau a'r rhwymedigaethau presennol oddi mewn i Gyngor Sir Caerfyrddin.

 

Dyma werth yr asedau a reolir gan ein Rheolwyr Buddsoddi:

 

BlackRock                               £1,593m

Schroders                                £   185m

Partners Group                       £    37m

Baillie Gifford                           £   271m

Columbia Threadneedle          £   249m

CYFANSWM                      £2,335 miliwn

 

Roedd y ffioedd ar gyfer Rheoli Buddsoddiadau yn 2016/17 yn dod i gyfanswm o £5.9m a oedd yn cyfateb i 0.25% o gyfanswm yr asedau a fuddsoddwyd.

 

Cytunwyd bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

 

43.

MONITRO CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED. pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed; rhoddai hwn y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf mewn perthynas â 2017/18.

 

Mae'r sefyllfa bresennol ar 31ain Awst 2017 yn rhagweld tanwariant o £66.8m ar gyfer 2017/18.  Yn y ffigwr hwn roedd tanwariant o £1.0m yn gysylltiedig ag eitemau arian parod a oedd yn cael yr effaith fwyaf ar lif arian dyddiol y Gronfa.  Roedd y tanwariant sy'n weddill o £65.8m yn perthyn i eitemau nad ydynt yn rhai arian parod.

 

Eitemau Arian Parod

Ar sail gweithgareddau cyfredol hyd yma, amcangyfrifwyd y byddai'r Buddion Taladwy a Throsglwyddiadau yn cael eu tanwario gan £4.3m.  Dylanwadwyd yn bennaf ar hyn gan y ffaith na ellir rheoli cyfandaliadau a throsglwyddiadau o'r Gronfa, wrth eu natur. Cyfrannodd cyfraniadau ac incwm buddsoddi at £3.6 miliwn pellach o danwariant. Roedd hyn oherwydd bod angen incwm buddsoddi ychwanegol i gadw llif arian cadarnhaol er mwyn sicrhau bod £6.9 miliwn ar gael i dalu'r Rheolwyr Buddsoddi am yr ymrwymiadau buddsoddi. Arweiniodd y tanwariant o £7.9 miliwn, namyn £6.9 miliwn o daliad i'r Rheolwyr Buddsoddi, at amcangyfrif o £1.0m o danwariant am y flwyddyn.

 

Eitemau nad ydynt yn rhai arian parod

Roedd £62.8m o'r tanwariant o £65.8m yn deillio o gynnydd yng ngwerth yr enillion a gafwyd. Digwyddodd hyn yn sgil trosglwyddo ecwiti goddefol, ar wahân ym mis Ebrill 2017 fel rhan o waith caffael ar y cyd Partneriaeth Pensiwn Cymru.  Nid yw'r eitemau nad ydynt yn rhai arian parod yn cael effaith ar lif arian dyddiol y gronfa.

 

Gofynnwyd y cwestiwn canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i'r cwestiwn ynghylch a oedd amrywiant Buddion Taladwy o £2.3m a ragamcenir hyd ddiwedd y flwyddyn yn fwy na'r disgwyl, eglurodd y Rheolwr Pensiynau ei bod yn amhosibl rhagweld yn fanwl gywir faint o staff fydd yn ymddeol neu'n marw yn ystod y flwyddyn, felly defnyddir amcangyfrif sy'n seiliedig ar ffigurau'r blynyddoedd blaenorol. 

 

Cytunwyd bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

44.

CYSONI ARIAN PAROD CRONFA BENSIWN DYFED. pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Ar 31 Gorffennaf, 2017 cadwai Cyngor Sir Caerfyrddin £11.3 miliwn o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion uniongyrchol o ran llif arian i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

Cytunwyd bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

45.

ADRODDIAD TORRI AMODAU. pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.  Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.  Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016.

 

O dan y polisi, mae'n ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·       na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·       bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Cytunwyd bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

46.

GWEITHREDU'R GYFARWYDDEB MARCHNADOEDD MEWN OFFERYNNAU ARIANNOL (MiFID II). pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod Awdurdodau Lleol, o dan y drefn sydd ohoni yn y DU, yn cael eu categoreiddio'n awtomatig fel cleientiaid proffesiynol o ran busnes nad yw'n ymwneud â MiFID (Cyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offeryn Ariannol) ac fe'u categoreiddir fel cleientiaid proffesiynol o ran busnes MiFID os ydynt yn bodloni prawf Mentrau Mawrion MiFID.  Gall Awdurdodau Lleol nad ydynt yn bodloni'r prawf Mentrau Mawrion ddewis uwchraddio i statws dewisol cleient proffesiynol os ydynt yn bodloni meini prawf penodol o ran uwchraddio.

 

Ar ôl cyflwyno MiFID II (Cyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offeryn Ariannol 2014/15) ar 3 Ionawr 2018 ni fydd modd i gwmnïau gategoreiddio awdurdod neu fwrdeistref gyhoeddus leol nad yw'n rheoli dyledion cyhoeddus (awdurdod lleol) fel cleient proffesiynol neu fan buddsoddi cymwys, dewisol, yn ei hanfod, at ddibenion busnes MiFID neu fusnes nad yw'n ymwneud â MiFID. Yn hytrach, rhaid i bob awdurdod lleol gael ei ddiffinio fel cleientiaid adwerthu oni bai ei fod yn cael ei uwchraddio gan gwmnïau i statws dewisol cleientiaid proffesiynol.

 

Ar ben hynny, mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi arfer ei ddisgresiwn i fabwysiadu meini prawf euraid o ran uwchraddio at ddibenion y meini prawf meintiol o ran uwchraddio y mae'n rhaid i awdurdodau lleol sy'n gleientiaid eu bodloni er mwyn i gwmnïau eu hailddosbarthu fel cleient proffesiynol dewisol.

 

Cytunwyd bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

5.

TYMOR YN Y SWYDD. pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad yn manylu ar yr opsiynau ar gyfer cyfnod swyddi aelodau.

 

Mae Cylch Gwaith y Bwrdd yn nodi bod Cynrychiolwyr Cyflogwyr, Cynrychiolwyr Aelodau o'r Cynllun a'r Cadeirydd/Aelod Annibynnol yn cael eu penodi am gyfnod o hyd at dair blynedd o ddyddiad sefydlu’r Bwrdd Pensiwn neu ddyddiad eu penodiad os yw’n hwyrach.  Gellir ymestyn y cyfnod hwn am hyd at bum mlynedd os cytunir ar hynny gan y Swyddog Adran 151.  Gellir ail-benodi aelodau am gyfnodau pellach yn dilyn proses benodi.

 

Penodwyd holl aelodau presennol y Bwrdd ar 1 Ebrill 2015 (ac eithrio cynrychiolydd Cyflogwr Sir Gaerfyrddin a benodwyd yn ddiweddar) ac felly bydd eu cyfnod cychwynnol o dair blynedd yn dod i ben ar 31 Mawrth, 2018. 

 

Gwnaed y sylwadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       pwysleisiwyd pwysigrwydd yr angen am barhad a chadw profiad a'r farn oedd y gellid ymdrin â hyn drwy benodi ar wahanol adegau;

·       nododd yr holl aelodau a oedd yn bresennol eu bod yn hapus i ymestyn eu cyfnod mewn swydd a gellir canfod bwriad yr aelodau hynny nad oedd yn bresennol heddiw yn y cyfarfod nesaf;

·       nodwyd bod y Cynrychiolydd Aelodau Gweithredol wedi dweud nad oedd hi am ymestyn ei chyfnod yn y swydd pan fydd ei chyfnod presennol yn dod i ben.

 

CYTUNWYD

 

5.1 cychwyn y broses benodi ar gyfer y Cynrychiolydd Aelod Gweithredol cyn gynted â phosibl;

5.2       cynnwys yr eitem hon ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

 

 

6.

YSWIRIANT BWRDD PENSIWN. pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad yn manylu ar yr opsiynau ar gyfer Yswiriant Atebolrwydd Bwrdd Pensiwn.

 

Gan nad un o Bwyllgorau'r Cyngor yw'r Bwrdd Pensiwn, nid oedd yn sicr a oedd Aelodau'r Bwrdd yn swyddogion a oedd wedi'u cynnwys yng nghwmpas darpariaethau indemniad y Cyngor ei hun. Os felly, gallai Aelodau'r Bwrdd fod yn bersonol atebol am gostau sylweddol.

 

Cydnabuwyd hefyd bod gwahanol safbwyntiau o ran atebolrwydd aelodau o fewn y Byrddau Pensiwn ar draws y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol heb unrhyw gonsensws ar hyn o bryd. 

 

Cafwyd dyfynbrisiau yswiriant atebolrwydd gan Aon a Hymans, fel y nodir isod:-

 

- AON (Ace European Group Ltd) - Yswiriant o £1m am £2,500

                                                                                    Yswiriant o £5m am £4,500

 

- Hymans (Lockton)                                         -           Yswiriant o £1m am £2,500

                                                                        -           Yswiriant o £5m am £5,000

 

CYTUNWYD bod swyddogion yn mynd ati i drefnu Yswiriant Atebolrwydd o £5m ar gyfer aelodau'r Bwrdd Pensiwn gyda chwmni AON (fel y nodwyd uchod) a bod y sefyllfa'n cael ei hadolygu ymhen 12 mis.

 

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau