Lleoliad: Brecon Beacons National Park Authority, Plas y Ffynnon, Brecon, LD3 7HP. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jessica Laimann 01267 224178
Rhif | eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
(Noder: Mae eithriad yng Nghod Ymddygiad yr Aelodau sy'n galluogi i aelod sydd wedi'i benodi neu ei enwebu i gorff perthnasol gan ei awdurdod ddatgan y buddiant hwnnw ac i aros a chymryd rhan yn y cyfarfod). |
|||||||||||||||
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9 RHAGFYR 2019 PDF 402 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019, fel cofnod cywir. |
|||||||||||||||
Nid oedd Cynllun Archwilio 2020 Swyddfa Archwilio Cymru ar gael mewn pryd i’w gyhoeddi.
Bydd y fersiwn Gymraeg yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y daw i law. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cydbwyllgor Llywodraethu (y Cydbwyllgor) Mr Jason Garcia o Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) i'r cyfarfod, a oedd yno i gyflwyno'r Cynllun Archwilio ar gyfer 2019/20. Bu iddo gynghori'r cydbwyllgor mai hon oedd y flwyddyn gyntaf lle byddai Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn cynhyrchu datganiadau ariannol llawn gan fod cyfrif y llynedd wedi bod yn is na'r trothwy o £2.5m ac felly dim ond llenwi ffurflen flynyddol fu'n rhaid gwneud. Nododd ymhellach fod y Cynllun Archwilio'n rhoi trosolwg o ddyletswyddau SAC, y risgiau archwilio, amcan o'r ffi archwilio, y tîm archwilio a'r amserlen. Ynghylch yr amserlen, roedd SAC yn cynllunio i roi barn ar ddatganiadau ariannol PPC erbyn 31 Gorffennaf 2020 a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron y CLl ar 18 Mehefin 2020, er cymeradwyaeth. O ran y ffi Archwilio, cynghorwyd y Cydbwyllgor mai dim ond amcangyfrif allai gael ei ddarparu ar hyn o bryd a bod cyfanswm y ffi yn cynnwys dwy elfen: y gwaith a wnaed i gynnal archwiliad o'r datganiadau ariannol eu hunain a'r gwaith a wnaed i roi sicrwydd i archwilwyr y cronfeydd pensiwn unigol. Cadarnhaodd Mr Garcia bod Lucy Herman wedi cael ei phenodi fel Uwch Archwilydd Arweiniol i’r Archwiliad.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Archwilio 2019/20. |
|||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Mr Parnell wybod i’r Pwyllgor fod gwaith ar sawl cynnig a chynllun wedi cael ei gwblhau dros y misoedd diwethaf ac y byddai'r dogfennau a ganlyn yn cael eu cyflwyno gerbron y cydbwyllgor heddiw, er cymeradwyaeth.
· Cynllun Busnes PPC · Cynnig ar gyfer strwythur yr Is-gronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol · Ymarferiad tendro Darparwr Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu
O ran y camau nesaf a'r blaenoriaethau, hysbysodd Mr Parnell fod gwaith yn bwrw yn ei flaen yn dda gyda'r is-gr?p marchnadoedd preifat ac y byddai Link a Russell yn darparu diweddariad ar y cynnydd yn ddiweddarach yn y cyfarfod. Roedd y camau nesaf a'r blaenoriaethau yn cynnwys datblygu polisi risg hinsawdd PPC a pholisi pleidleisio PPC, ymarferiad tendro ar gyfer penodi ymgynghorydd cyfreithiol oddi ar y Fframwaith Cenedlaethol, a chwblhau'r gwaith o gau cyfrifon diwedd blwyddyn 2019/20. Atodwyd cynllun gwaith wedi'i ddiweddaru.
O ran meysydd allweddol eraill, hysbyswyd y Cydbwyllgor y penodwyd Hymans Robertson fel Ymgynghorydd Trosolwg PPC a bod y Matrics Llywodraethu, y Cynllun Cyfathrebu a'r Cynllun Hyfforddi oll ar gael ar wefan PPC erbyn hyn.
O ran Cynrychiolaeth Aelodau'r Cynllun, hysbysodd Mr Moore y cydbwyllgor fod llythyr o ymateb, yn amlinellu cynrychiolaeth PPC a'r trefniadau ymgysylltu wedi cael ei anfon at Fwrdd Ymgynghorol y Cynllun. Roedd y llythyr wedi cael ei gylchredeg i gadeiryddion yr holl Bwyllgorau Pensiynau ac fe awgrymwyd y dylid ystyried opsiynau ar gyfer ehangu'r gynrychiolaeth yng nghyfarfodydd y Cydbwyllgor ymhellach. Hysbyswyd y Cydbwyllgor y byddai angen ystyried trefniadau llywodraethu'r Cydbwyllgor a'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau yn y broses hon a byddai'n rhaid i unrhyw newidiadau i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau gael eu cytuno gan bob un o'r awdurdodau cyfansawdd.
Mewn ymateb i ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor y byddai adroddiad ar gynrychiolaeth aelodau'r cynllun a'r goblygiadau cyfreithiol posib yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD derbyn cyflwyniad yr awdurdod lletya. |
|||||||||||||||
CYNLLUN HYFFORDDIANT PPC 2020/21 PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cydbwyllgor Gynllun Hyfforddiant PPC ar gyfer 2020/21. Hysbyswyd yr aelodau fod y cynllun hyfforddiant wedi cael ei ddatblygu ar sail yr ymatebion a dderbyniwyd i holiadur gofynion hyfforddiant a gylchredwyd i holl aelodau'r Cydbwyllgor a'r Gweithgor Swyddogion (GS). Dyfeisiwyd yr hyfforddiant i ategu darpariaethau hyfforddiant yr awdurdodau cyfansawdd. Roedd wedi'i anelu'n bennaf at anghenion hyfforddiant y Cydbwyllgor a'r GS, fodd bynnag, byddai modd ei ymestyn i aelodau pwyllgorau a byrddau pensiwn ar ddisgresiwn yr awdurdodau cyfansawdd.
Mewn ymateb i ymholiad, cynghorwyd yr aelodau y byddai'r sesiynau hyfforddiant yn cael eu hamserlennu ar yr un pryd â'r cyfarfodydd Cydbwyllgor ffurfiol, lle bo modd. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach yng nghyfarfodydd y GS.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Hyfforddiant PPC 2020/21. |
|||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cydbwyllgor Gynllun Busnes PPC. Cynghorwyd y Cydbwyllgor mai diben y Cynllun Busnes oedd egluro cefndir a strwythur llywodraethu PPC, amlinellu blaenoriaethau ac amcanion, cyflwyno polisïau a chynlluniau PPC, amlinellu'r gyllideb ariannol a chrynhoi Amcanion Buddsoddi a Pherfformiad PPC.
Cynghorwyd y cyfarfod, wedi cymeradwyaeth y Cydbwyllgor, y byddai'r Cynllun Busnes yn cael ei anfon i bob Awdurdod Cyfansawdd i’w gymeradwyo, yn unol ag Adran 6 y Cytundeb Rhwng Awdurdodau.
O ran y gyllideb ariannol, rhoddwyd gwybod i’r aelodau y gallai ffioedd y rheolwr buddsoddi newid yn sgil gwerth symudol y farchnad a byddai unrhyw amrywiadau yn cael eu hegluro wrth symud ymlaen.
Mewn ymateb i ymholiad, cynghorwyd yr aelodau y byddai cwblhau cofrestr risg yn gynwysedig yn y cynllun gwaith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Busnes PPC. |
|||||||||||||||
DIWEDDARIAD LINK/RUSSELL PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad gan Link a Russell ar gynnydd PPC o ran daliadau presennol y gronfa, y cynnydd ar lansio'r gronfa a Phrotocol Ymgysylltu Link/PPC.
O ran Incwm Sefydlog (Tranche 3), rhoddwyd gwybod i’r aelodau y derbyniwyd cymeradwyaeth gan yr FCA ar 10 Mawrth 2020 a bod cynllun trosglwyddo'n cael ei ddatblygu ar gyfer dyddiau lansio ar 20 a 23 Ebrill 2020.
O ran Marchnadoedd Datblygol (Tranche 4), cynghorwyd y Cydbwyllgor fod disgwyl i'r amserlen ar gyfer cymeradwyo a sefydlu fod yn hwy na'r is-gronfeydd blaenorol, ac mai'r dyddiad lansio cynharaf bosib fyddai mis Rhagfyr 2020.
Yn ogystal, cynghorwyd yr aelodau, yn sgil y pryderon am Covid-19, bod Link a Russell yn rhoi mesurau wrth gefn yn eu lle i sicrhau y byddai modd iddynt barhau i weithredu pe bai swyddfeydd yn cael eu cloi a chyfyngiadau ar deithio.
Mewn ymateb i ymholiad am lansiad yr Is-gronfeydd Incwm Sefydlog, cynghorwyd y Cydbwyllgor fod perfformiad y gronfa’n cael ei fonitro'n ddyddiol i sicrhau bod amodau'r farchnad yn addas ar gyfer eu lansio ar 20 a 23 Ebrill 2020. Roedd Link/Russell yn gweithio'r agos â'r Awdurdod Lletya a byddai Aelodau'n medru cael diweddariadau rheolaidd.
PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad. |
|||||||||||||||
ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 31 RHAGFYR 2019 PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar yr adroddiadau perfformiad ar gyfer y Gronfa Twf Byd-eang a'r Gronfa Cyfleoedd Byd-eang a'r Gronfa Cyfleoedd y DU fel ar 31 Rhagfyr 2019. Cynghorwyd y Pwyllgor fod cyfanswm y tair cronfa fymryn o dan £5.3bn a bod y cronfeydd wedi perfformio'n well na'u meincnodau, a hynny o 0.64%, 1.42% a 3.90% (ITD, gros o ffioedd) yn eu trefn.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiadau perfformiad ar gyfer y Gronfa Twf Byd-eang, y Gronfa Cyfleoedd Byd-eang a'r Gronfa Cyfleoedd y DU fel ar 31 Rhagfyr 2019. |
|||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyried yr eitemau a ganlyn gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffinnir ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf. |
|||||||||||||||
PCC DARPARWR GWASANAETH PLEIDLEISIO AC YMGYSYLLTU Cofnodion: Ar ôl defnyddio’r prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng Nghofnod 10 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r cyflwyniad yn debygol o achosi niwed ariannol i Bartneriaeth Pensiwn Cymru drwy niweidio'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt a rhai yn y dyfodol.
Ystyriodd y Cydbwyllgor adroddiad ar Ddarparwr Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC.
PENDERFYNWYD penodi Bidiwr 5 i fod yn Ddarparwr Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur a chwblhau Cytundeb y Darparwr Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu yn derfynol. |
|||||||||||||||
IS-GRONFA ECWITI MARCHNADOEDD DATBLYGOL Cofnodion: Ar ôl defnyddio’r prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng Nghofnod 10 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r cyflwyniad yn debygol o achosi niwed ariannol i Bartneriaeth Pensiwn Cymru drwy niweidio'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt a rhai yn y dyfodol.
Ystyriodd y Cydbwyllgor adroddiad ar strwythur yr Is-gronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo strwythur arfaethedig yr Is-gronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol. |