Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mr Ben Smith (Abertawe) a Mr Phil Latham (Sir y Fflint).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Y Math o Fuddiant

G. Caron

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol;

G. Caron

Mae ei wraig yn aelod gohiriedig o'r gronfa bensiwn

S. Churchman

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol;

D. Hughes

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol;

P. Lewis

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol;

C. Lloyd

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol;

M. Norris

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol;

E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol;

 

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 29AIN MEHEFIN, 2017 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at gofnod rhif 4 – Cofnodwyd bod y Cynghorydd M. Norris wedi cael ei benodi yn Gadeirydd y Pwyllgor. Dywedwyd bod y cofnod yn anghywir, a dylid nodi mai'r Is-gadeirydd yw'r Cynghorydd Norris.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar y newid canlynol, lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2017 yn gofnod cywir.

 

4.

CRYNODEB O LIF GWAITH pdf eicon PDF 52 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad cynnydd ynghylch y ffrydiau gwaith caffael a llywodraethu ar 30 Medi 2017.

 

Amlinellodd Mr John Wright o Hymans Robertson wrth y Pwyllgor y sefyllfa bresennol o ran yr amserlen i penodi Gweithredwr a chydymffurfio â dyddiad cau Llywodraeth y DU ar gyfer cyflwyno Cynllun Contractiol Awdurdodedig i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Er bod yr amserlen gychwynnol wedi llithro 7 wythnos, oherwydd yr angen i gael eglurhad ar elfennau amrywiol o'r cynigion a gafwyd rhagwelwyd y byddai'r cynnig yn cyd-fynd â'r dyddiad cau.

 

Cam nesaf y broses fyddai i'r Cyd-bwyllgor ystyried yr adroddiad a oedd yn cael ei gyflwyno ger ei fron y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 8) ynghylch penodi cynigydd a ffafrir fel Gweithredwr ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, ac i wneud argymhelliad ffurfiol i'r 8 Awdurdod Gweinyddol i'w ystyried, a'i gymeradwyo, ym mis Tachwedd / Rhagfyr 2017. Yn amodol ar yr awdurdodau hynny yn cymeradwyo'r argymhelliad, byddai Hysbysiad Dyfarnu yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2017 gyda'r Cytundeb Gweithredwr terfynol yn cael ei gadarnhau ym mis Ionawr 2018.

 

Cafodd y Pwyllgor hefyd ddiweddariad gan Mr Parnell ynghylch y gwaith sy'n cael ei gyflawni gan yr Ymarferwyr ar adolygu strwythurau'r is-gronfeydd sy'n rhan o faes y Gweithredwr. Bydd y cynigion hynny'n cael eu cyflwyno i'r Gweithgor Swyddogion ar 1 Rhagfyr gan ddechrau gydag asedau hylifol (bondiau ac ecwitïau), yna cronfeydd mantoli/eiddo a dosbarthiadau asedau eraill. Byddai'r gwaith hwn yn rhoi syniad i'r Gweithredwr penodedig o'r math o is-gronfeydd y byddai'r Bartneriaeth yn awyddus i'w gweld. Yna byddai trafodaethau'n cael eu cynnal â'r Gweithredwr ynghylch yr amserlen o ran sefydlu'r is-gronfeydd a'r manylion amdanynt.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y 7 wythnos o oedi, ac unrhyw risgiau posibl eraill y gallai oedi'r broses o gyflwyno'r Cynllun Contractiol Awdurdodedig, dywedodd Mr Wright ar yr amod fod pob awdurdod gweinyddu'n cymeradwyo penodiad y Gweithredwr, ni ddylai fod unrhyw oedi. Fodd bynnag, o ran y risgiau posibl eraill, er bod Eitem 4 ar yr Agenda (tudalennau 23-24) yn nodi nifer o risgiau, ystyriwyd bod y rhain yn risg isel.

 

Gan gyfeirio at y risgiau posibl wrth fynd ati i sefydlu Partneriaeth Pensiwn Cymru, dywedodd Mr Dafydd Edwards wrth y Pwyllgor fod cadernid a llwyddiant y cynllun yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer aelodau'r pensiwn, yn hytrach na bodloni unrhyw amserlenni.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y ffrwd gwaith.

 

5.

ADRODDIAD CYNNYDD HYDREF DCLG pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar ddogfen Adolygiad yr Hydref i'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol sy'n cynnwys:

 

·        Cyfanswm gwerth amcangyfrifedig yr asedau sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun pontio ar gyfer buddsoddi drwy strwythur y gronfa sy'n gyfanswm o £16.3b ar ddiwedd mis Mehefin 2017;

·        Cyfanswm gwerth amcangyfrifedig yr asedau i'w buddsoddi y tu allan i strwythur y gronfa gan gronfeydd sy'n gyfanswm o £3b;

·        Cynllun prosiect lefel uchel er mwyn sicrhau y bydd yn cael ei gyflawni erbyn mis Ebrill 2018 gan gynnwys y cynnydd o ran caffael/datblygu gweithredwr, dylunio is-gronfeydd, recriwtio'r tîm craidd, penodi cwmni a chael gan awdurdodiad gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol;

·        Risgiau neu broblemau a allai olygu oedi cyn mis Ebrill 2018, ac unrhyw gynlluniau i liniaru risgiau neu reoli materion;

·        Cynnydd o ran trefniadau llywodraethu;

·        Cynnydd o ran buddsoddi mewn seilwaith ac amserlen i gyflawni'r uchelgais a nodir.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch penodi'r tîm craidd yn Sir Gaerfyrddin, fel yr awdurdod cynnal, dywedwyd wrth y  Pwyllgor y byddai hysbyseb wedi'i neilltuo yn cael ei gosod o fewn pob un o'r 8 Awdurdod Gweinyddu yn y Flwyddyn Newydd ar gyfer penodi Uwch-swyddog Gwasanaethau Ariannol. Os na fyddai unrhyw geisiadau addas yn dod i law drwy'r broses honno, byddai hysbyseb yn cael ei rhoi ar y farchnad agored.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y costau o £50-£350k yn ystod y cyfnod 2018-2021, dywedwyd wrth y Pwyllgor eu bod yn gysylltiedig â nifer o ffactorau, gan gynnwys costau ymgynghori gan Hymans Robertson, a benodwyd i gynorthwyo â'r broses, costau cyfreithiol ar gyfer Burges Salmon chostau'r awdurdod cynnal. Yn dilyn penodi Gweithredwr, byddai disgwyl i'r costau ostwng ac, yn y pen draw y Gweithredwr fyddai'n gyfrifol am y costau a'u monitro wrth i'r contract fynd rhagddo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

6.

NODIADAU CYFARFODYDD Y GWEITHGOR SWYDDOGION AR GYNHALIWYD AR YR DYDDIADAU CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

6.1

28AIN GORFFENNAF 2017 pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod y Gweithgor Swyddogion a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf yn cael eu derbyn.

 

6.2

4YDD MEDI 2017 pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y Gweithgor Swyddogion a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017.

 

 

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

8.

ADRODDIAD DETHOL GWEITHREDWR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 18 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat, gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn tanseilio safle'r Bartneriaeth mewn perthynas â'i hawliau a'i chyfrifoldebau o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.

Roedd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu yn rhoi ystyriaeth i adroddiad ar benodi gweithredwr ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell  y canlynol i Bwyllgorau Cronfa Pensiwn Awdurdodau Cyfansoddol Partneriaeth Pensiwn Cymru:

 

(1)   Penodi Cynigydd 1 fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer proses gaffael Partneriaeth Pensiwn Cymru

(2)   yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur a chwblhau'r Cytundeb Gweithredwr, penodi Cynigydd 1 yn Weithredwr yn unol â'r Cytundeb Gweithredwr.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau