Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i benodi'r Cynghorydd Glyn Caron yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.

 

Diolchwyd i Gadeirydd y llynedd am ei waith caled a'i gyfraniad i'r Cydbwyllgor yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.

 

 

 

2.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i benodi'r Cynghorydd Clive Lloyd yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Chris Weaver (Cyngor Sir Caerdydd)

 

 

 

4.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Natur y buddiant personol

 

G. Caron

 

 

 

P. Lewis

 

C. Lloyd

 

M. Norris

 

A. Shotton

 

 

E. Williams

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf.

Mae ei wraig yn aelod gohiriedig o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf;

Mae'r mab-yng-nghyfraith yn aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Powys

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Clwyd;

Mae ei wraig yn aelod o Gynllun Pensiwn Clwyd

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

 

[SYLWER: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n

caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei awdurdod i gorff

perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]

 

 

5.

TO LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 12 MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 403 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2020, gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

6.

DATGANIAD/ARCHWILIAD BLYNYDDOL 2019/20 pdf eicon PDF 124 KB

Nid oedd llythyr Swyddfa Archwilio Cymru ar gael mewn pryd i’w gyhoeddi.

 

Bydd y fersiwn Gymraeg yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y daw i law.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor y Ffurflen Flynyddol nad oedd wedi ei harchwilio ar gyfer 2019/20.  Roedd y Datganiad Cyfrifon a'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol o ran y Ffurflen Flynyddol wedi'u paratoi gan yr Awdurdod Cynnal ac roedd adran Archwilio Mewnol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cynnal Adolygiad Archwilio Mewnol.  Archwiliwyd y Ffurflen Flynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cyd-bwyllgor yn cael ei ofyn i gymeradwyo'r Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2019/20 nad oedd wedi cael ei archwilio, ac nid ei nodi fel y cyfeiriwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1 derbyn llythyr Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch ffurflen flynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru 2019/20;

6.2   cymeradwyo'r Ffurflen Flynyddol oedd wedi'i harchwilio ar gyfer 2019/20;         

6.3cymeradwyo'r Datganiad Cyfrifon oedd heb ei archwilio ar gyfer 2019/20.

 

 

7.

DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad o ran cynnydd yn y meysydd allweddol canlynol:-

 

-         Llywodraethu;

-         Sefydlu parhaus;

-         Gwasanaethau gweithredwyr;

-         Cyfathrebu ac adrodd;

-         Hyfforddiant a chyfarfodydd; ac

-         Adnoddau, cyllideb a ffioedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn y diweddariad gan yr Awdurdod Cynnal

 

8.

POLISI GWEITHDREFNAU A GWRTHDARO BUDDIANNAU pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor bod ganddo ddyletswydd ymddiriedol a chyfreithiol i weithredu er budd

rhanddeiliaid a buddiolwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru, ond nid oedd hyn yn atal personél a darparwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru rhag ymgymryd â rolau neu gyfrifoldebau eraill, a allai arwain at wrthdaro buddiannau.

 

Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o ddilyn egwyddorion llywodraethu da a sefydlu polisi gweithdrefnau a gwrthdaro buddiannau i amlinellu sut y caiff gwrthdaro ei nodi, ei reoli a'i fonitro. 

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Polisi Gweithdrefnau a Gwrthdaro Buddiannau Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd yn gymwys i holl bersonél a darparwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru. Byddai rhestr gyfredol o bersonél a darparwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gael ar y wefan a byddai'n cael ei diweddaru, yn ôl yr angen.  Byddai Cofrestr Gwrthdaro Buddiannau yn cael ei chynnal gan yr Awdurdod Cynnal. Byddai'r polisi'n cael ei adolygu'n ffurfiol gan y Gweithgor Swyddogion a'i ddiweddaru os byddai angen, a hynny'n flynyddol. Nodwyd y gallai'r polisi gael ei adolygu neu ei ddiwygio'n fwy aml os bydd angen i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ystyried canllawiau neu reoliadau perthnasol. Byddai polisi Partneriaeth Pensiwn Cymru yn eitem flynyddol ar agenda'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu a fyddai'n sicrhau bod y Bartneriaeth yn darparu tryloywder llwyr o ran gwrthdaro buddiannau o leiaf unwaith y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo Polisi Gweithdrefnau a Gwrthdaro Buddiannau Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

9.

POLISI RISGIAU YN SGIL YR HINSAWDD pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor, yn unol â Pholisi Buddsoddi Cyfrifol cymeradwy Partneriaeth Pensiwn Cymru a'i hymrwymiad tuag at Fuddsoddi Cyfrifol, bod Polisi Risg yn sgil yr Hinsawdd wedi'i ddatblygu ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Mae'r polisi hwn yn nodi dull y Bartneriaeth o fynd i'r afael â gofynion yr Awdurdodau Cyfansoddol o ran risgiau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a monitro'r risgiau hyn. Cafodd ei ddatblygu yn unol â barn ac amcanion y Bartneriaeth.

 

Byddai'r polisi'n cael ei adolygu'n flynyddol a byddai'r Bartneriaeth yn paratoi ac yn cyhoeddi adroddiad blynyddol yn manylu ar y camau a gymerwyd i gyflawni'r polisi hwn a'r canlyniadau a gafwyd.

 

Cyfeiriwyd at baragraff 8 y Polisi ac awgrymwyd, yn wyneb y ffaith nad oes gan Lywodraeth Cymru ddylanwad uniongyrchol dros y Gronfa Bensiwn, y dylid diwygio'r paragraff fel a ganlyn:-

 

“Bydd y polisi hwn yn rhoi sylw i Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli a Buddsoddi Cronfeydd) 2016 ac unrhyw ganllawiau perthnasol a ddarperir gan Fwrdd Ymgynghorol y Cynllun, bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd a bydd y polisi yn nodi Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.”

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo Polisi Risg yn sgil yr Hinsawdd Partneriaeth Pensiwn Cymru, i gynnwys y gwelliant uchod.

 

 

10.

POLISI RISG A CHOFRESTR RISG PPC pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor bod Polisi Risg a Chofrestr Risg wedi'u datblygu ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.  Roedd y Polisi Risg hwn yn adlewyrchu bod Partneriaeth Pensiwn Cymru o'r farn y bydd llywodraethu da a gwell tryloywder yn gwella'r broses o wneud penderfyniadau ac yn cyflawni gwell amcanion ar gyfer rhanddeiliaid Partneriaeth Pensiwn Cymru. Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cydnabod bod gan holl Bersonél a Darparwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru rôl i'w chwarae o ran nodi, deall, rheoli a monitro risgiau gwirioneddol sy'n wynebu Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Roedd y polisi'n amlinellu'r canlynol ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru:

 

-          Credoau ac amcanion sy'n ymwneud â risg;

-          Strategaeth risg;

-          Nodi a deall risgiau;

-          Rheoli a monitro risg.

 

Roedd Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi llunio Cofrestr Risg sy'n dogfennu, yn rheoli ac yn monitro risgiau. Pwrpas Cofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru oedd:

 

-          Amlinellu prif risgiau a ffactorau Partneriaeth Pensiwn Cymru a allai gyfyngu ar ei gallu i gyflawni ei hamcanion;

-          Mesur difrifoldeb a thebygolrwydd y risg sy'n wynebu Partneriaeth Pensiwn Cymru;

-          Rhoi crynodeb o strategaethau rheoli risg Partneriaeth Pensiwn Cymru;

-          Monitro arwyddocâd parhaus y risgiau hyn a'r gofyniad i gael rhagor o strategaethau lliniaru risg.

 

Y Gweithgor Swyddogion fyddai'n gyfrifol am gynnal Cofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru ac adrodd ynghylch unrhyw newidiadau neu ddatblygiadau i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu yn chwarterol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi Risg a Chofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

11.

DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Karl Midl ac Eamonn Gough o Link Fund Solutions am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:-

 

-       Daliadau cyfredol y Gronfa;

-       Cynnydd lansio'r Gronfa;

-       Y wybodaeth gorfforaethol ddiweddaraf ac ymgysylltu 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei derbyn.

 

12.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 31 MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr adroddiadau perfformiad ar gyfer y Gronfa Tyfu Byd-eang, y Gronfa Cyfleoedd Byd-eang a Chronfa Cyfleoedd y DU ar 31 Mawrth 2020.

 

Nodwyd bod gwerthoedd marchnad pob un o'r 3 Is-gronfa wedi gostwng yn ystod y chwarter diwethaf. Roedd Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi gostwng o £2,373,976,400 i £1,961,972,648, Cronfa Cyfleoedd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru o £2,233,379,922 i £1,881,872,223 a Chronfa Cyfleoedd y DU o £685,363,821 i £480,052,962.  Roedd y Gronfa Tyfu Byd-eang a Chronfa Cyfleoedd y DU wedi tanberfformio o ran eu meincnodau o 0.82% (gros) / 1.21% (net) a 3.64% (gros)/3.81% (net) yn y drefn honno. Roedd y Gronfa Cyfleoedd Byd-eang wedi perfformio'n well na'r meincnod o 1.39% (gros)/1.05% (net).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr adroddiadau perfformiad ar gyfer y Gronfa Tyfu Byd-eang, y Gronfa Cyfleoedd Byd-eang a Chronfa Cyfleoedd DU Partneriaeth Pensiwn Cymru ar 31 Mawrth, 2020 yn cael eu derbyn.

 

 

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau