Agenda a Chofnodion

Cydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru - Dydd Mercher, 22ain Medi, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Clive Lloyd (Dinas a Sir Abertawe) a'r Cynghorydd Mark Norris (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aelod

Rhif yr Eitem Agenda

Buddiant

Y Cyng. G. Caron

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod sy'n talu ac yn derbyn Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf, mae ei wraig yn aelod sy'n derbyn ac mae ei fab yng nghyfraith yn aelod sy'n talu

Y Cyng. P. Downing

Pob eitem ar yr agenda

Mae ei frawd yn aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

Y Cyng. M. Griffiths

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

Y Cyng. P. Jenkins

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Pensiwn Gwynedd

Y Cyng. P. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Powys

Y Cyng. T. Palmer

Pob eitem ar yr agenda

Mae ei ferch a'i bartner yn aelodau o Gronfa Bensiwn Clwyd

Y Cyng. E. Williams

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]

 

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 28AIN GORFFENNAF, 2021 pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2021 gan eu bod yn gywir.

 

4.

DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 265 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Cynghorwyr G. Caron, P. Downing, M. Griffiths, P. Jenkins, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:-

 

- Llywodraethu;

- Sefydlu parhaus;

- Gwasanaethau gweithredwyr;

- Cyfathrebu ac adrodd;

- Hyfforddiant a chyfarfodydd;

- Adnoddau, cyllideb a ffïoedd.

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch dyddiad dechrau cynrychiolydd aelodau'r cynllun, rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod trafodaethau wedi dechrau gyda Byrddau Pensiwn yr Awdurdodau Cyfansoddol a'r gobaith oedd penodi ddechrau'r flwyddyn nesaf.

 

Cyfeiriwyd at adnoddau staffio a swyddi gwag a oedd yn un o'r risgiau a nodwyd yn y Gofrestr Risg a gofynnwyd i swyddogion a oedd ganddynt ddigon o adnoddau i ymgymryd â'r gwaith mawr yr oedd angen ei ddechrau. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod un swydd wag yn y strwythur ar gyfer swyddog cymorth ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd roedd swyddogion yn adolygu'r adnoddau oedd ar gael a byddant yn penodi i'r swydd wag os oes angen. Rhoddodd sicrwydd i'r aelodau fod yr adnoddau presennol yn ddigonol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ail-lunio diweddariad yr Awdurdod Cynnal.

 

5.

ADOLYGIAD COFRESTR RISK C3 2021 pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Cynghorwyr G. Caron, P. Downing, M. Griffiths, P. Jenkins, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch3 2021. Nodwyd bod adolygiad o adnoddau hyfforddi a risgiau cyfathrebu wedi'i gynnal yn ystod y chwarter diwethaf. Crynhowyd canlyniadau adolygu pob risg mewn atodiad i'r adroddiad.

 

Cynhelir yr adolygiad nesaf yn ystod Ch4 2021 a bydd yn canolbwyntio ar Risgiau'r Adain Buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

6.

DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Cynghorwyr G. Caron, P. Downing, M. Griffiths, P. Jenkins, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

- Daliannau Cyfredol y Gronfa

- Cynnydd Lansio'r Gronfa

- Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol:-

 

• Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang

• Cyfran 2 – Uk Equity

• Cyfran 3 – Incwm Sefydlog

• Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr.

 

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD FEL AR 30/06/21 pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Cynghorwyr G. Caron, P. Downing, M. Griffiths, P. Jenkins, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad ar 30 Mehefin 2021. Nodwyd bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n uwch/tanberfformio yn erbyn eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:-

 

• Perfformiodd Cyfleoedd Byd-eang 1.71% gros / 1.35% net yn uwch

• Perfformiodd Twf Byd-eang 2.42% gros / 1.95% net yn uwch

• Perfformiodd Cyfleoedd y DU 3.07% gros / 2.63% net yn uwch

• Perfformiodd Bond Llywodraeth Fyd-eang 1.96% gros / 1.78% net yn uwch

• Perfformiodd Credyd Byd-eang 1.54% gros / 1.40% net yn uwch

• Perfformiodd Credyd Aml-Asedau 4.631% gros / 4.23% net yn uwch

• Perfformiodd Bond Elw Absoliwt 0.55% gros / 0.20% net yn uwch

• Tanberfformiodd Credyd y DU 0.33% gros / 0.22% net

 

Mewn ymateb i gwestiwn yn gofyn a ragwelwyd unrhyw newidiadau mewn marchnadoedd, rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod portffolios yn cael eu hadeiladu yn y fath fodd i sicrhau eu bod i gyd yn gadarn ac yn ystyried geowleidyddiaeth.

 

Pan ofynnwyd pa fuddsoddiadau a wneir mewn gofal iechyd, rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y rhain yn ymwneud yn bennaf â chwmnïau fferyllol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiadau Perfformiad yr Is-Gronfeydd, fel y nodir uchod, ar 30 Mehefin 2021.

 

8.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.</AI12>

 

 

 

9.

NEWIDIADAU RHEOLWR IS-GRONFA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Cynghorwyr G. Caron, P. Downing, M. Griffiths, P. Jenkins, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn cynnig newidiadau i'r rheolwr ar gyfer dwy o'i Is-gronfeydd.

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r bwriad i newidiadau rheolwr, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

10.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 30 MEHEFIN 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy roi trafodaethau rhwng y Rheolwyr Buddsoddi dan anfantais.

 

[SYLWER: Cynghorwyr G. Caron, P. Downing, M. Griffiths, P. Jenkins, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor yr Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-eang, ar 30 Mehefin 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-eang ar 30 Mehefin 2021.

 

11.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU Ch2 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Cynghorwyr G. Caron, P. Downing, M. Griffiths, P. Jenkins, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor yr Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch2 2021, a ddaeth i ben ar 30 Mehefin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch2 2021.