Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Clive Lloyd yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.

 

Diolchwyd i'r cyn-Gadeirydd am ei waith caled a'i gyfraniad i'r Cyd-bwyllgor yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.

 

2.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Chris Weaver yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.

 

3.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.<AI1></AI1>

 

4.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr Aelod

Eitem Rhif    ar yr Agenda

Buddiant

Y Cynghorydd G. Caron

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod sy'n talu ac yn aelod sy'n derbyn o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf, mae ei wraig yn aelod gohiriedig ac mae ei fab yng nghyfraith yn aelod.

Y Cynghorydd P. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Powys

Y Cynghorydd C. Lloyd

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

Y Cynghorydd M. Norris

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

Y Cynghorydd T. Palmer

Pob eitem ar yr agenda

Mae ei bartner a'i ferch yn aelodau o Gronfa Bensiwn Clwyd

Y Cynghorydd E. Williams

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 24AIN MAWRTH, 2021. pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu oedd wedi'i gynnal ar 24 Mawrth 2021 gan eu bod yn gywir.

 

6.

DATGANIAD/ARCHWILIAD BLYNYDDOL 2020/21 pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor y Ffurflen Flynyddol wedi'i harchwilio ar gyfer 2020/21.  Roedd adrannau Datganiadau Cyfrifon a Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Ffurflen Flynyddol wedi'u paratoi gan yr Awdurdod Cynnal yr oedd ei Adain Archwilio Mewnol wedi cynnal Adolygiad Archwilio Mewnol.

 

Roedd y Ffurflen Flynyddol hefyd wedi'i harchwilio gan Archwilio Cymru a chyflwynodd Mr Jason Garcia o Archwilio Cymru y llythyr archwilio i'r Cyd-bwyllgor.

 

Roedd yr Awdurdod Cynnal hefyd wedi paratoi Datganiad Cyfrifon llawn i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2020/21. Nid oedd y Datganiad yn ofyniad statudol ac ni fyddai'n cael ei archwilio. Fe'i paratowyd er gwybodaeth yn unig, i gefnogi'r wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol.

 

 

PENDERFYNWYD 

 

6.1 Derbyn y llythyr gan Archwilio Cymru ynghylch Ffurflen Flynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru 2020/21;

6.2 Cymeradwyo'r Ffurflen Flynyddol wedi'i Harchwilio ar gyfer 2020/21;

6.3 Cymeradwyo'r Datganiad Cyfrifon llawn heb ei Archwilio ar gyfer 2020/21.

 

7.

DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 272 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-          Llywodraethu;

-          Sefydlu parhaus;

-          Gwasanaethau gweithredwr;

-          Cyfathrebu ac adrodd;

-          Hyfforddiant a chyfarfodydd; ac

-          Adnoddau, cyllideb a ffioedd.

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn diweddariad yr Awdurdod Cynnal.

 

8.

ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 2 2021 pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch2 2021. Yn ystod y chwarter diwethaf, roedd y Gweithgor Swyddogion wedi cynnal adolygiad o rai o'r risgiau yn adran Llywodraethu a Rheoleiddio'r Gofrestr Risg h.y. Risgiau G.7 i G.12. Roedd yr adroddiad yn crynhoi canlyniadau'r adolygiad ar gyfer pob risg.

 

Yn ystod yr adolygiad cafodd dwy risg ychwanegol eu nodi a'u hychwanegu at y Gofrestr Risg, fel a ganlyn:-

 

G.13 - y risg y bydd data cyfrinachol/sensitif yn fasnachol yn cael ei ddatgelu, ei ddwyn neu ei roi yn y lle anghywir, a

 

G.14 - y risg y bydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn methu â nodi camarfer a chymryd camau i'w unioni.           

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad

 

 

9.

ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn manylu ar yr Adolygiadau Polisi Blynyddol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r polisïau canlynol:-

 

-          Polisi Gwrthdaro Buddiannau

-          Polisi Risg

-          Polisi Risg Hinsawdd

 

Cymeradwywyd y polisïau hyn gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Gorffennaf 2020 ac roeddent wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru gan y Gweithgor Swyddogion.

 

O ran y Polisi Gwrthdaro Buddiannau, cyfeiriwyd at 16.2 a gofynnwyd i swyddogion a oedd yn wirioneddol angenrheidiol i aelodau ddatgan buddiant yn holl eitemau’r agenda ac ym mhob cyfarfod ac oni ellid gwneud datganiad blynyddol yn ei le. Esboniodd Swyddog Monitro'r Cyd-bwyllgor ei bod yn ofynnol yn y Cod Ymddygiad bod aelodau'n datgan unrhyw buddiannau gwrthdaro ym mhob cyfarfod

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r polisïau wedi'u diweddaru, fel y nodir uchod.

</AI4>

 

10.

DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-       Daliannau Cyfredol y Gronfa;

-       Cynnydd Lansio'r Gronfa;

-       Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol:-

 

  • Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang
  • Cyfran 2 – Ecwiti y DU
  • Cyfran 3 - Incwm Sefydlog
  • Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr.

 

 

11.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 31 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2021. Nodwyd bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n uwch/tanberfformio yn erbyn eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:

 

  • Perfformiodd Cyfleoedd Byd-eang 2.29% gros / 1.91% net yn uwch
  • Perfformiodd Twf Byd-eang 3.42% gros / 2.96% net yn uwch
  • Perfformiodd Cyfleoedd y DU 4.45% gros / 4.00% net yn uwch
  • Perfformiodd Bond Llywodraeth Fyd-eang 1.83% gros / 1.71% net yn uwch
  • Perfformiodd Credyd Byd-eang 1.22% gros / 1.12% net yn uwch
  • Perfformiodd Credyd Aml-asedau 3.61% gros / 3.33% net yn uwch
  • Perfformiodd Bond Elw Absoliwt 1.26% gros / 1.02% net yn uwch

·         Tanberfformiodd Credyd y DU 0.15% gros / 0.22% net

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am olrhain buddsoddiadau goddefol, dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor mai Blackrock oedd yn gyfrifol am hynny, ond mai mater i bob awdurdod cyfansoddol oedd penderfynu sut mae'n monitro ei fuddsoddiadau goddefol gyda Blackrock. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd, fel y nodwyd uchod, fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2021.

 

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.</AI12>

 

 

13.

IS-GRONFA MARCHNADOEDD DATBLYGOL - NEWID RHEOLWR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn cynnig newid un o reolwyr gwreiddiol yr Is-gronfa.

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r bwriad i newid rheolwr, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

14.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 31 MAWRTH 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru drwy roi trafodaethau dan anfantais.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad am yr Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-eang.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-eang fel yr oedd ar 31 Mawrth 2021.

 

15.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU Ch1 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor Adroddiad Ymgysylltu Ch1 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Ymgysylltu Ch1 2021.

 

16.

ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD - Ch1 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor yr adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd mewn perthynas â'r cronfeydd canlynol:-

 

· Is-Gronfa Twf Byd-eang

· Is-Gronfa Cyfleoedd Byd-eang

· Is-gronfa Cyfleoedd y DU

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd ar gyfer Ch1 2021.

 

17.

YMGYNGHORYDD DYRANWYR PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy niweidio o bosib y broses gaffael.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn cynnig penodi Ymgynghorydd Dyranwyr ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, yn unol ag Atodlen 3 i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi cynigydd 1, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn ymgeisydd a ffefrir ar gyfer Ymgynghorydd Dyranwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru, yn amodol ar y telerau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau