Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Remote attendance. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION ERAILL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peredur Jenkins.

 

Hysbyswyd y Cydbwyllgor Llywodraethu y penodwyd y Cynghorydd Peredur Jenkins yn lle'r Cynghorydd John Pughe Roberts a diolchwyd i'r Cynghorydd Pughe Roberts am ei gyfraniadau. Gan fod y Cynghorydd Jenkins wedi anfon ei ymddiheuriadau ar gyfer cyfarfod heddiw, roedd y Cynghorydd Pughe Roberts yn mynychu'r cyfarfod fel ei ddirprwy.

 

Croesawodd y Cydbwyllgor y Cynghorydd Ted Palmer i'w gyfarfod cyntaf o'r Cydbwyllgor Llywodraethu. Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Palmer wedi ymuno â'r Cydbwyllgor Llywodraethu yn gynharach eleni ond nad oedd wedi medru mynychu'r cyfarfod diwethaf.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd bawb oedd ynghlwm â Phartneriaeth Pensiynau Cymru (PPC) am ennill gwobr Arloesedd yng Ngwobrau Buddsoddi 2020 Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol (LAPF), oedd yn cydnabod fod PPC wedi gwneud cam sylweddol o ran arloesi, gan fabwysiadu fframwaith "Gweithredu Portffolio Manylach" (EPI) o fewn ei gronfeydd ecwiti.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

G. Caron

 

 

 

P. Lewis

 

C. Lloyd

 

M. Norris

 

E. Williams

 

Aelod o Gronfa Bensiynau Gwent Fwyaf;

Ei wraig yn aelod gohiriedig o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf;

Ei fab yng nghyfraith yn aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf;

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Powys;

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe;

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf;

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

[Noder:  Mae eithriad yng Nghod Ymddygiad yr Aelodau sy'n galluogi aelod sydd wedi'i benodi neu'i enwebu i gorff perthnasol gan ei awdurdod i ddatgan y buddiant hwnnw ond i aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]

 

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 MEDI 2020 pdf eicon PDF 286 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 11 Medi 2020 fel cofnod cywir.

4.

DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cydbwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â'r cynnydd a wnaed yn y meysydd allweddol a ganlyn:

 

-          Llywodraethu;

-          Sefydlu parhaus;

-          Gwasanaethau gweithredwr;

-          Cyfathrebu ac adrodd;

-          Hyfforddiant a chyfarfodydd; ac

-          Adnoddau, cyllideb a ffioedd.

 

Mewn ymateb i ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor fod trafodaethau cychwynnol ar adolygu contract y Gweithredwr wedi cael eu cynnal ac y byddai amserlen yn cael ei chyflwyno i'r cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Awdurdod Lletya.

5.

COFRESTR RISG Ch4 ADOLYGIAD 2020 pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar Adolygiad Cofrestr Risg Ch4.   Dywedwyd y cymeradwywyd y Gofrestr Risg cychwynnol gan y CBLl ar 17 Gorffennaf 2020 ac roedd is-gr?p Cofrestr Risg y Gweithgor Swyddogion yn adolygu'r Gofrestr Risg pob chwarter. Roedd y prif newidiadau a welwyd yn yr adolygiad cyntaf yn ymwneud yn bennaf â'r adran Buddsoddi a Pherfformiad.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar wasanaethau'r Gweithredwr (Risg G.12), hysbyswyd y Cydbwyllgor fod trafodaethau cychwynnol yn awgrymu nad oedd y risg yn berthnasol i PPC ac y byddai'r Cydbwyllgor yn derbyn mwy o ddiweddariadau. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r addasiadau i'r Gofrestr Risg.

6.

ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar Adolygiadau Polisi Blynyddol y Datganiad Credoau a'r Matrics Llywodraethu. Hysbyswyd y Cybwyllgor fod y Datganiad Credoau a'r Matrics Llywodraethu presennol wedi cael eu cymeradwyo ym mis Rhagfyr 2019. Roedd y Gweithgor Swyddogion (GS) wedi cynnal adolygiad blynyddol o'r polisïau hyn ac wedi gwneud addasiadau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo y Datganiad Credoau a'r Matrics Llywodraethu wedi’u diweddaru.

7.

ADOLYGU'R POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL A DIWEDDARIAD AR GYNNYDD pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar Adolygu'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol a Diweddariad Cynnydd Blynyddol. Dywedwyd fod y Polisi Buddsoddi Cyfrifol (BC) wedi cael ei gymeradwyo ym mis Medi 2019. Roedd y Gweithgor Swyddogion (GS) wedi cynnal adolygiad blynyddol o'r polisi BC ac wedi gwneud addasiadau i adlewyrchu'r datblygiadau yn y 12 mis diwethaf.  

 

Roedd diweddariad blynyddol ar gynnydd wedi'i gynnwys fel atodiad i'r Polisi BC, oedd yn rhoi asesiad manwl o'r cynnydd a gafwyd mewn sawl maes allweddol, yn cynnwys Hinsawdd Risg, Pleidleisio ac Ymgysylltu, Hyfforddiant ac Ymgynghori, ffurfio'r Is-gr?p BC a'r cynllun gwaith BC am y 12 mis nesaf.

 

Gwnaed awgrymiad y gallai fod yn fuddiol cael cynrychiolaeth wleidyddol ar yr Is-gr?p. Dywedodd Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor y gallai fod yn bosibl ystyried rhoi aelodau Arweiniol yn eu lle ar gyfer meysydd gwaith penodol y gellid ymgynghori â hwy ar feysydd gwasanaeth pwrpasol, ond byddai angen ystyried hyn ymhellach.

 

PENDERFYNWYD

7.1.        Cymeradwyo'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol sydd wedi'i ddiweddaru;

7.2.        Nodi'r Diweddariad Cynnydd Blynyddol, yn cynnwys sefydlu Is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol PPC.

8.

POLISI HYFFORDDIANT pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar Adolygu'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol a Diweddariad Cynnydd Blynyddol. Dywedwyd fod y Polisi Buddsoddi Cyfrifol (BC) wedi cael ei gymeradwyo ym mis Medi 2019. Roedd y Gweithgor Swyddogion (GS) wedi cynnal adolygiad blynyddol o'r polisi BC ac wedi gwneud addasiadau i adlewyrchu'r datblygiadau yn y 12 mis diwethaf.  

 

Roedd diweddariad blynyddol ar gynnydd wedi'i gynnwys fel atodiad i'r Polisi BC, oedd yn rhoi asesiad manwl o'r cynnydd a gafwyd mewn sawl maes allweddol, yn cynnwys Hinsawdd Risg, Pleidleisio ac Ymgysylltu, Hyfforddiant ac Ymgynghori, ffurfio'r Is-gr?p BC a'r cynllun gwaith BC am y 12 mis nesaf.

 

Wrth ateb ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor y gellid ystyried cynrychiolaeth wleidyddol ar is-grwpiau BC, er enghraifft, wrth enwebu Aelodau Arweiniol Cydbwyllgor ar bynciau penodol.

 

PENDERFYNWYD

7.1.        Cymeradwyo'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol sydd wedi'i ddiweddaru;

7.2.        Nodi'r Diweddariad Cynnydd Blynyddol, yn cynnwys sefydlu Is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol PPC.

9.

POLISI PLEIDLEISIO pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar y Polisi Pleidleisio. Hysbyswyd y Cydbwyllgor fod Robeco wedi cael ei benodi i ddarparu’r Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu'r Bartneriaeth ym mis Mawrth 2020. Wedi iddo gael ei fabwysiadu gan y Cydbwyllgor, byddai modd datblygu polisi pleidleisio Robeco a'i deilwra'n benodol i'r PPC a'i Awdurdodau Cyfansoddol dros y 12 mis nesaf.

 

Mewn ymateb i ymholiad am wrthdaro posib gyda rhybuddion pleidleisio LAPFF, cynghorwyd yr Aelodau fod yr is-gr?p BC wedi nodi'r potensial am wrthdaro mewn amgylchiadau cyfyng iawn ac y byddai Robeco yn dwyn unrhyw wahaniaethau i sylw'r PPC.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Pleidleisio.

10.

CYNRYCHIOLAETH AELODAU'R CYNLLUN pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cydbwyllgor adroddiad ar Gynrychiolaeth Aelodau'r Cynllun.  Hysbyswyd y Cydbwyllgor ei fod yn gydbwyllgor oedd wedi’i gyfansoddi dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac felly ni allai Cynrychiolwyr Aelodau ond ymuno â'r Cydbwyllgor fel Aelodau Cyfetholedig heb yr hawl i bleidleisio. Er mwyn i hyn fedru digwydd, byddai angen addasu'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau (IAA) a byddai angen mynd â'r addasiadau i bob un o'r wyth awdurdod cyfansoddol am gymeradwyaeth. Byddai'r GS yn medru paratoi manylion y person a'r broses ddethol i sicrhau bod gan y person enwebedig y wybodaeth a'r profiad priodol i ymgymryd â'r rôl.

 

PENDERFYNWYD

10.1.          Cymeradwyo bod darpariaeth ar gyfer cynrychiolydd aelod o gynllun y bwrdd pensiwn (heb bleidlais) ar y Cydbwyllgor Llywodraethu (CBLl);

10.2.          Cymeradwyo gofyn i bob Awdurdod Cyfansoddol gadarnhau cynnwys cynrychiolydd aelodau cyfetholedig ar y CBLl ac y gwneir y diwygiadau angenrheidiol i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau (IAA);

10.3.          Cytuno bod yr GS yn paratoi manyleb person a phroses ddethol i'w cyflwyno i gyfarfod o'r CBLl yn y dyfodol i'w cymeradwy'n ffurfiol. 

11.

DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar gynnydd Partneriaeth Pensiynau Cymru yn y meysydd allweddol a ganlyn:

 

-       Daliannau Presennol y Gronfa;

-       Y Cynnydd ar Lansio Cronfeydd;

-       Ymgysylltu Corfforaethol a Rhannu'r Wybodaeth Ddiweddaraf

 

Nododd y Cydbwyllgor fod lansiad yr Is-gr?p Incwm Sefydlog wedi'i gwblhau. O ran yr is-gronfa Marchnadoedd Datblygol, disgwyliwyd i'r dyddiad lansio gael ei ohirio tan fis Gorffennaf 2021 yn sgil gwaith manwl gan y Depositary ar y model troshaen carbon.

 

PENDERFYNWYD derbyn Diweddariad y Gweithredwr.

12.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD AR 30 MEDI 2020 pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel ar 30 Medi 2020.  Nodwyd cywiriad i'r Crynodeb Gweithredol cyhoeddedig (t.112-113), oedd yn dangos tanberfformiad i Gronfa Cyfleoedd y DU. Dylid tynnu'r cromfachau o amgylch y ffigwr Gwarged Adenillion, oedd yn arwain at berfformiad gwell o 1.33% gros a 0.95% net.

 

Roedd is-gronfeydd eraill wedi perfformio'n well / perfformio’n waeth na’u meincnodau, fel a ganlyn:

·         Roedd Cyfleoedd Byd-eang wedi perfformio 0.43% gros / 0.06% net yn well na’r meincnod;

·         Roedd Twf Byd-eang wedi perfformio 0.22% (gros) yn well na'r meincnod / 0.22% yn waeth na'r meincnod;

·         Bondiau Llywodraeth Byd-eang wedi perfformio 0.33% gros / 0.30% net yn waeth na'r meincnod;

·         Roedd Credyd Byd-eang wedi perfformio 0.01% gros / 0.03% net yn waeth na'r meincnod;

·         Roedd Credyd Aml-ased wedi perfformio 0.77% gros / 0.83% net yn waeth na'r meincnod;

·         Roedd Credyd y DU wedi perfformio 2.77% gros / 2.79% net yn waeth na'r meincnod;

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd a ganlyn fel ar 30 Medi 2020:

12.1.        Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang:

12.2.        Cronfa Twf Byd-eang:

12.3.        Cronfa Cyfleoedd Ecwiti'r DU:

12.4.        Cronfa Bondiau Llywodraeth Byd-Eang;

12.5.        Cronfa Credyd Byd-Eang;

12.6.        Cronfa Credyd Aml-ased;

12.7.        Cronfa Credyd y DU.

13.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyried yr eitem a ganlyn gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o'r Ddeddf.

14.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 30 MEDI 2020

Cofnodion:

Ar sail prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng Nghofnod 13 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o achosi niwed i Bartneriaeth Pensiynau Cymru drwy amharu ar drafodaethau.

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar Fenthyca Gwarannau Byd-eang.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-eang fel ar 30 Medi 2020.

15.

DARPARWR GWASANAETHAU CYFREITHIOL

Cofnodion:

Ar sail prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng Nghofnod 13 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o achosi niwed i Bartneriaeth Pensiynau Cymru drwy danseilio’r broses gaffael cyn i’r contract gael ei gyflwyno’n ffurfiol ar ôl y cyfnod segur statudol.

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar y Contract Ymgynghorydd Cyfreithiol.

 

PENDERFYNWYD penodi bidiwr 1 fel y bidiwr dewisol ar gyfer Darparwr Gwasanaethau Cyfreithiol Partneriaethau Pensiwn Cymru, yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur a chwblhau'n derfynol y Contract Darparwr Gwasanaethau Cyfreithiol.

16.

ADRODDIAD DADANSODDIAD ÔL-BONTIO - INCWM SEFYDLOG

Cofnodion:

Ar sail prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng Nghofnod 13 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o achosi niwed i Bartneriaeth Pensiynau Cymru drwy danseilio sefyllfa fasnachol rheolwyr cronfeydd.

 

Ystyriodd y Cydbwyllgor adroddiad ar Ôl-bontio Masnach Incwm Sefydlog.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Ôl-bontio Incwm Sefydlog.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau