Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr- Cyngor Abertawe, Guildhall, Abertawe, SA1 4PE.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Natur y Buddiant Personol

G. Caron

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

 

Ei wraig yn Aelod Gohiriedig o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

D. Hughes

Aelod o Gronfa Bensiwn Clwyd;

P. Lewis

Aelod o Gronfa Bensiwn Powys;

C. Lloyd

Aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe;

M. Norris

Aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf;

J. Pugh Roberts

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd;

D.E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed.

 

(Noder: Mae eithriad yng Nghod Ymddygiad Aelodau sy'n galluogi i aelod sydd wedi'i benodi neu'i enwebu i gorff perthnasol gan ei awdurdod ddatgan y budd hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod).

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 25AIN MEDI 2018 pdf eicon PDF 425 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O ran y broses benodi ar gyfer Rheolwyr Trosglwyddo (gweler Cofnod Eitem 4 cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu ar 25 Medi 2018), hysbyswyd y Pwyllgor bod Aelod o'r Bwrdd Pensiwn wedi cyfeirio at hyn fel enghraifft yn dangos y gellir gwella'r trefniadau llywodraethu yn y Cydbwyllgor Llywodraethu.   Awgrymwyd fod y mater hwn wedi'i godi gan sawl Bwrdd Pensiwn ond nad oedd yn fater llywodraethu. Yn hytrach roedd yn fater cyfathrebu yn ymwneud â natur esblygol y perthnasau â'r gweithredwr. Cynghorwyd y Pwyllgor bod cyfathrebu ar raglen cyfarfod Cadeiryddion y Byrddau Pensiwn fyddai'n cael ei gynnal yr wythnos nesaf.  Byddai nifer o Swyddogion Adran 151 yn bresennol yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i lofnodi cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Medi fel rhai cywir.

4.

CYFLWYNIAD GAN LINK AR CERRIG MILLTIR A DIWEDDARIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Denise Jones - Pennaeth Rheoli Newid yn Link Fund Solutions, a oedd am roi cyflwyniad ar y Prif Gerrig Milltir a'r cynnydd mewn perthynas â Phartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Darparodd Ms Jones restr lawn i'r Cydbwyllgor o'r dyddiadau posib ar gyfer y prif gerrig milltir, y cynnydd hyd yn hyn ar Gronfeydd Cychwynnol (Ecwiti Byd-eang) Tranche 2 (y DU ac Ecwiti Ewropeaidd), Tranche 3 (Incwm Sefydlog) a'r camau nesaf.

 

Dywedodd Ms Jones bod Tranche 1 wedi'i lansio'n llwyddiannus ym mis Ionawr a bod yr adroddiadau wedi'r masnachu wedi'u cyhoeddi. Roedd Tranche 2 wedi'i gymeradwyo ac roedd dyddiad ar gyfer y lansio wrthi'n cael ei gytuno. O ran Tranche 3, byddai cynnig ar gyfer strwythur terfynol y gronfa yn cael ei ddarparu yn ddiweddarach yn y cyfarfod (gweler Eitem 11).  Byddai'r pecyn adrodd misol cyntaf yn cael ei gylchredeg y mis hwn.  Y camau allweddol nesaf fyddai cytuno ar strwythurau'r gronfa ar gyfer Tranche 3, cytuno ar reolwyr a chael cytundeb ar fenthyca stoc a oedd yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan yr holl awdurdodau cyfansawdd. 

 

Rhoddodd Mr Anthony Parnell y diweddariad a ganlyn i'r Pwyllgor ar gyfrifoldebau'r awdurdod lletya:

 

·         Staffio - penodwyd Tracey Williams fel Uwch Swyddog y Gwasanaethau Ariannol ym mis Chwefror 2019.  Dywedodd Mr Parnell bod ail rôl Swyddog yr Awdurdod Lletya wedi cael ei chynnwys fel darpariaeth yn y gyllideb. Byddai'n dod yn eglur p'un a fyddai angen y rôl honno wrth i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ddatblygu dros y 12 mis nesaf. 

·         Cyfathrebu - Roedd polisi cyfathrebu wedi'i ddrafftio â Hymans a byddai'r wefan ar gyfer Partneriaeth Pensiynau Cymru yn weithredol yn gynnar yn yr haf.  Roedd y Gweithgor Swyddogion yn parhau i fod mewn cyswllt rheolaidd.

·         Llywodraethu - Byddai Cadeiryddion y Byrddau Pensiwn yn derbyn adroddiad ar lywodraethu yn ystod y cyfarfod yr wythnos nesaf a hynny er mwyn egluro cyfrifoldebau'r Cydbwyllgor Llywodraethu, y Gweithgor Swyddogion, LINK, Russell Investments a'r Awdurdod Lletya.

·         Adrodd - Disgwyliwyd adroddiadau gan LINK yn fuan.  Dywedodd Mr Parnell y byddai eitem ar adrodd yn cael ei rhoi ar raglen y Cydbwyllgor Llywodraethu ar gyfer y cyfarfod nesaf.  

 

Yn ogystal, dywedodd Mr Parnell bod cyfarfod cychwynnol wedi'i gynnal â Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Archwiliad Partneriaeth Pensiynau Cymru.   Byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn cysylltu â'r wyth archwiliwr cronfa a byddai cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf. Byddai'r Cydbwyllgor Llywodraethu'n cael diweddariad ar hyn yn y dyfodol agos.

 

Gwnaed sylw yn croesawu'r cynlluniau ar gyfer gwefan i Bartneriaeth Pensiynau Cymru ac fe awgrymwyd y dylid cwblhau hyn cyn gynted ag y bo modd er mwyn cefnogi cyfathrebu a thryloywder.

 

Gwnaed ymholiad ynghylch rhan yr undebau llafur ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru, ynghyd â'u cynrychiolaeth ar y Cydbwyllgor Llywodraethu.  Awgrymwyd y dylid clustnodi'r pwnc hwn ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol er mwyn i'r Cydbwyllgor ei ystyried a gwneud penderfyniad ffurfiol arno.  Awgrymodd Aelod o'r Panel bod y swyddogaethau craffu a chynghori oedd gan Fyrddau Pensiwn yn gorwedd ar lefel pob Pwyllgor Cronfa Bensiwn unigol a'u cynrychiolwyr ar y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYLLIDEB 2019-20 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cydbwyllgor Llywodraethu adroddiad Cyllideb Partneriaeth Pensiynau Cymru, oedd yn darparu diweddariad ar sefyllfa gyfredol y gyllideb ar gyfer 2018-19, y cyllidebau diwygiedig ar gyfer 2019-20 a 2020-21, a'r gyllideb ar gyfer 2021-22.

 

O ran Ymgynghorwyr Allanol, dywedodd Mr Parnell bod y gyllideb gychwynnol wedi bod yn seiliedig ar amcangyfrifon cynnar iawn o'r gwaith angenrheidiol. Yn ddiweddarach, daeth yn amlwg bod angen cefnogaeth bellach gan ymgynghorwyr buddsoddi allanol a chyfreithiol.  Roedd y gwaith a wnaed hyd yma wedi bod yn gadarn iawn.  Er bod disgwyl i'r angen am gyngor gan ymgynghorwyr cyfreithiol leihau yn y dyfodol, cytunwyd y byddai contract am ymgynghorydd buddsoddi yn mynd allan i dendr yn ystod 2019-20 a bod y gyllideb wedi'i chynyddu'n unol â hynny.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Mr Parnell y byddai angen cefnogaeth gan ymgynghorwyr buddsoddi yn rheolaidd, i gynorthwyo i reoli a monitro cynnydd Partneriaeth Pensiynau Cymru. Roedd disgwyl i'r angen am gyngor gan ymgynghorwyr ariannol leihau.

 

Gwnaed sylw yn diolch i'r Awdurdod Lletya am ei waith ac am y cynnydd da hyd yma yn sgil yr amserlen uchelgeisiol a osodwyd gan y Llywodraeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch datganiadau ariannol, nododd Mr Chris Moore bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi mewn cyfarfod diweddar y byddai adenillion blynyddol yn ddigonol am eleni. Awgrymodd y byddai'r adenillion blynyddol yn cael ei ddarparu i'r Cydbwyllgor Llywodraethu ac y byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn cael gwahoddiad i fynychu'r cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fel a ganlyn:

5.1.Nodi sefyllfa gyfredol y gyllideb ar gyfer 2018-19;

5.2.Cymeradwyo'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer 2019-20 a 2020-21;

5.3.Cymeradwyo cyllideb 2021-2022.

6.

CYNLLUN GWAITH 2019-20 pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y cynllun gwaith ar gyfer Partneriaeth Pensiynau Cymru ar gyfer 2019-20, a roddai fanylion ynghylch tasgau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod yn y meysydd a ganlyn:

           Llywodraethu

           Sefydlu parhaus

           Gwasanaethau gweithredwr

           Cyfathrebu ac adrodd

           Hyfforddiant a chyfarfodydd

           Adnoddau, cyllideb a ffioedd

 

Nododd hefyd:

           i bwy yr aseinwyd y gweithgareddau

           pwy sydd angen cadarnhau/rhoi llofnod terfynol ar dasgau unigol

           pa rwymedigaethau contract y mae'n rhan ohonynt (os o gwbl), ac

           yr amserlen ar gyfer cwblhau'r dasg

 

Nododd y Pwyllgor fod y cynllun gwaith yn ddogfen weithio y gellid ei haddasu fel bo'r angen wrth i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ddatblygu. 

 

Gwnaed sylw yn awgrymu y dylai'r Cydbwyllgor Llywodraethu gael cyfle i roi mewnbwn i'r dasg o lunio amcanion a chredoau Partneriaeth Pensiynau Cymru.  Nododd Mr Parnell y byddai gan y Cydbwyllgor Llywodraethu gyfle i ystyried y ddogfen yn ei gyfarfod nesaf ym mis Mehefin ac y gallai naill ai ei gadarnhau neu gynnig addasiadau. Byddai modd cadarnhau fersiwn ddiwygiedig, os byddai angen, yn ystod cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo Cynllun Gwaith Partneriaeth Pensiynau Cymru ar gyfer 2019-20.

7.

BUDDSODDIAD CYFRIFOL - DATBLYGU POLISI pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cydbwyllgor Llywodraethu Mr Williams Marshall o Hymans, a roddodd gyflwyniad ar ddatblygu Polisi Buddsoddi Cyfrifol. Roedd y ddogfen Polisi Buddsoddi Cyfrifol yn cynnwys gwerthusiad o'r ymatebion i'r holiadur, egwyddorion polisi Buddsoddi Cyfrifol drafft, cymhariaeth o bolisïau pleidleisio a'r camau nesaf.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor, pe byddai'r egwyddorion yn cael eu cymeradwyo, y byddai Polisi Buddsoddi Cyfrifol yn cael ei baratoi a'i gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cydbwyllgor Llywodraethu ym mis Mehefin, er mwyn ei gymeradwyo'n derfynol.

 

Nododd y Cadeirydd, er y byddai gan Bwyllgor pob Cronfa unigol gyfle i drafod y Polisi ac awgrymu addasiadau, y Cydbwyllgor Llywodraethu fyddai'n cadarnhau'r Polisi yn ei gyfanrwydd yn y pen draw.

 

Gwnaed nifer o sylwadau yn awgrymu y gallai'r amserlen ar gyfer cwblhau'r Polisi drafft erbyn mis Mehefin fod braidd yn uchelgeisiol, fodd bynnag, gwnaed sylwadau hefyd yn nodi y gallai unrhyw oedi o ran datblygu'r Polisi arwain at broblemau mewn perthynas â datblygiadau'r is-gronfeydd. Awgrymwyd y dylid mynd â'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol drafft i'r cyfarfod Gweithgor Swyddogion ym mis Ebrill 2019 ac yna mynd ag ef i bob awdurdod cyfansawdd er ystyriaeth.  Yna, byddai'r drafft yn dod yn ôl gerbron y Cydbwyllgor Llywodraethu er mwyn ei gymeradwyo / ei adolygu.

 

Gwnaed sylw yn awgrymu ei bod yn bwysig darparu hyfforddiant priodol i holl Aelodau'r Pwyllgor fel bod modd cytuno ar dargedau cyrraeddadwy.

 

Awgrymwyd y dylai'r Polisi ystyried cyflogaeth foesegol. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo'r Egwyddorion ar gyfer Polisi Buddsoddi Cyfrifol Partneriaeth Pensiynau Cymru.

8.

PROTOCOL YMGYSYLLTU LINK pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Brotocol Ymgysylltu, a ddatblygwyd gan Link a'r Awdurdod Lletya, a oedd yn rhoi sylw i'r pum prif faes ymgysylltu:

 

·         Adolygiad o'r Berthynas Strategol 

·         Ymgysylltu â'r Cydbwyllgor Llywodraethu

·         Ymgysylltu â'r Gweithgor Swyddogion

·         Diwrnod Blynyddol i Ran-ddeiliaid

·         Cyfarfodydd y Pwyllgorau Cronfeydd Pensiwn Unigol

 

Gwnaed sylw yn awgrymu y dylai'r Protocol Ymgysylltu hefyd ddarparu canllawiau ynghylch adrodd, gan gynnwys ffurf yr adroddiadau a'r amlder y'i darperir i'r Cydbwyllgor Llywodraethu a'r Pwyllgorau a'r Byrddau Cronfeydd Pensiwn unigol.  Awgrymwyd y gallai'r Gweithgor Swyddogion ddatblygu templed adrodd ar gyfer y cyfarfod Cydbwyllgor Llywodraethu ym mis Mehefin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo'r Protocol Ymgysylltu.

9.

WEINYDDIAETH TAI, CYMUNEDAU A LLYWODRAETH LEOL (MHCLG) YMGYNGHORI AR Y CANLLAWIAU STATUDOL DRAFFT AMGAEEDIG AR PWLIO ASEDAU YN Y CYNLLUN PENSIWN LLYWODRAETH LEOL (CPLIL) pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ymgynghoriad yr MHCLG ar y canllawiau statudol drafft ar b?lio asedau yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a atodwyd gydag ymateb drafft a ysgrifennwyd ar ran Partneriaeth Pensiynau Cymru. Cynghorwyd y Pwyllgor bod yr ymgynghoriad yn cau ar y diwrnod wedyn (28 Mawrth 2019).

 

Cynghorwyd y Cydbwyllgor Llywodraethu y byddai wedi'i rwymo i'r canllawiau statudol unwaith y cawsant eu gwneud yn derfynol ac y gallai pob Pwyllgor Cronfa Bensiwn unigol ymateb i'r ymgynghoriad, ynghyd â'r Cydbwyllgor Llywodraethu.  Lluniwyd yr ymateb drafft o drafodaethau a gafwyd yn y Gr?p Cydweithio Traws-P?l.  Awgrymwyd y gellid gwella'r canllawiau statudol drafft mewn meysydd megis rheoli risg a buddsoddi cyfrifol. Roedd sawl Pwyllgor Cronfa Bensiwn wedi gwneud sylwadau ar y drafft ac fe groesawyd sylwadau gan y rhai nad oeddynt wedi ymateb hyd yma. 

 

Gwnaed sylw yn croesawu'r ymateb, yn enwedig o ran buddsoddi cyfrifol.  Awgrymwyd y byddai buddsoddi cyfrifol yn arwain at gostau ychwanegol ac y dylid adlewyrchu hyn yn y canllawiau statudol.

 

Croesawodd aelodau'r awgrym a wnaed y dylai'r canllawiau statudol gydnabod yr amrywiaeth o strwythurau p?l, yn enwedig gan y gallai strwythur cymharol fain "oddi ar y silff" Partneriaeth Pensiynau Cymru fod yn fwy cost-effeithiol na'r model y cyfeiriwyd ato yn y canllawiau drafft.

 

Gwnaed sylw yn awgrymu y dylai'r Pwyllgorau Cronfa Bensiwn unigol dderbyn copi o ymateb terfynol y Cydbwyllgor Llywodraethu i gyfleu negeseuon o gefnogaeth cyn dyddiad cau'r ymgynghoriad.   Dywedodd Mr Parnell y byddai'r ymateb yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu sylwadau diweddar ac y byddai drafft terfynol yn cael ei gylchredeg i'r Cydbwyllgor Llywodraethu y bore wedyn.   Dywedodd mai'r dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad oedd diwedd y dydd y diwrnod wedyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fel a ganlyn: 

9.1.    cymeradwyo ymateb y P?l i ymgynghoriad MHCLG;

9.2.    cylchredeg copi o'r ymateb terfynol i'r Cydbwyllgor Llywodraethu erbyn canol dydd y diwrnod wedyn (28 Mawrth 2019).  

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN Ei FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 - gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod yr eitem a ganlyn gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.

11.

CYFLWYNIAD GAN LINK / RUSSELL AR IS-GRONFEYDD INCWM SEFYDLOG

Cofnodion:

Cafodd y Cydbwyllgor Llywodraethu gyflwyniad gan Link/Russell mewn perthynas â'r Is-gronfeydd Incwm Sefydlog a ganlyn a'u Strwythur Rheoli: 

-        Cronfa Credyd Byd-Eang;

-        Cronfa Bondiau Llywodraeth Byd-Eang;

-        Cronfa Bondiau Enillion Absoliwt;

-        Cronfa Credyd Aml-ased. 

 

Nododd Mr Sasha Mandich y byddai Cronfa arall yn cael ei chreu ar gyfer Asedau Sefydlog y DU a hynny yn dilyn cais gan RCT.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo'r is-gronfeydd Incwm Sefydlog a ganlyn, yn cynnwys y strwythurau portffolio rheoli:

-        Cronfa Credyd Byd-Eang;

-        Cronfa Bondiau Llywodraeth Byd-Eang;

-        Cronfa Bondiau Enillion Absoliwt;

-        Cronfa Credyd Aml-ased. 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau