Agenda a Chofnodion

Cydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru - Dydd Gwener, 20fed Medi, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Council Chamber - Torfaen Council, Civic Centre, Hanbury Road, Pontypool. NP4 6YB.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Cynghorydd Aaron Shotton (Cyngor Sir y Fflint) i'r cyfarfod.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd Gronfa Bensiwn Dyfed a Chronfa Bensiwn Dinas a Chyngor Abertawe am ennill gwobrau yn y Gwobrau Buddsoddi LAPF 2019 ar 19 Medi 2019.  Yn ogystal, llongyfarchodd y Cadeirydd bawb oedd wedi bod ynghlwm â Phartneriaeth Pensiynau Cymru (PPC) gan y cafodd y Gronfa Cydfuddsoddi ganmoliaeth uchel ar gyfer y wobr 'Pool of the Year'.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

G. Caron

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf;

 

Ei wraig yn Aelod Gohiriedig o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf;

Ei fab yng nghyfraith yn Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

P. Lewis

Aelod o Gronfa Bensiwn Powys;

C. Lloyd

Aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe;

Ei Dad yn aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe;

M. Norris

Aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf;

J. Pugh Roberts

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd;

A. Shotton

Aelod o Gronfa Bensiwn Clwyd;

Ei wraig yn aelod o Gronfa Bensiwn Clwyd;

E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed.

 

(Noder: Mae eithriad yng Nghod Ymddygiad Aelodau sy'n galluogi i aelod sydd wedi'i benodi neu'i enwebu i gorff perthnasol gan ei awdurdod ddatgan y budd hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod).

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 28AIN MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2019, fel cofnod cywir.

4.

DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Mr Parnell ddiweddariad i'r Pwyllgor ar y meysydd allweddol isod:

 

Llywodraethu - Byddai gweithdy Credoau, Polisïau a Llywodraethu ar ôl y cyfarfod heddiw.

 

Adrodd ar-lein - roedd porth adrodd ar-lein bellach wedi cael ei lansio, lle gallai awdurdodau cyfansoddol gael mynediad i'w hadroddiadau misol ar eu cronfa unigol.

 

Rheoli Trawsnewid Incwm Sefydlog - Penodwyd Hymans yn Ymgynghorydd Goruchwylio Rheoli Trawsnewid Incwm Sefydlog. Roedd Hymans yn gweithio ar y cyd â Link a'r Awdurdod Lletya ar benodi Rheolwr Trawsnewid Incwm Sefydlog ac roedd disgwyl i'r broses gael ei chwblhau cyn y Nadolig.

 

Gwefan - Roedd gwefan Partneriaeth Pensiynau Cymru ddwyieithog yn gwbl weithredol a byddai arddangosiad ohoni yn cael ei gynnal ar ôl y cyfarfod heddiw.  Yna, byddai'r wefan yn mynd yn fyw yn ystod yr wythnos ddilynol.

 

Cyfathrebu a hyfforddiant - Roedd polisi cyfathrebu yn cael ei ddatblygu ar y cyd â Hymans. Byddai rhagor o wybodaeth ar gael yn ystod cyfarfod nesaf y Cydbwyllgor Llywodraethu ym mis Rhagfyr. 

 

Diweddariad MHCLG - roedd yr Awdurdod Lletya wrthi'n drafftio ymateb.

 

Cynllun Gwaith - roedd y cynllun gwaith yn cael ei adolygu bob chwarter. 

 

PENDERFYNWYD i dderbyn cyflwyniad yr awdurdod lletya.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL WEDI'I ARCHWILIO AC ADRODDIAD ARCHWILIAD 2018/19 pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cydbwyllgor yr Adroddiad Blynyddol wedi'i Archwilio ac Adroddiad Archwiliad 2018/19.  Nododd Swyddog Adran 151 y Cydbwyllgor bod y Cydbwyllgor wedi ystyried y Datganiad heb ei archwilio yn ystod ei gyfarfod blaenorol ym mis Mehefin a'i fod wedi dirprwyo cymeradwyaeth ffurfiol y Datganiad wedi'i Archwilio i Bwyllgor Archwilio Cyngor Sir Gâr ar gyfer 2018/19.  Roedd yr adroddiad wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio ac fe'i cyflwynwyd i'r Cydbwyllgor er gwybodaeth yn unig.  Roedd disgwyl y byddai angen darparu Datganiad Cyfrifon llawn y flwyddyn nesaf a byddai hwn yn cael ei gyflwyno gerbron y  Cydbwyllgor am gymeradwyaeth ffurfiol.

 

Wrth ateb ymholiad, dywedodd y Swyddog Adran 151 bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi argymell y dylid datgelu'r costau trawsnewid mewn dull cyson ar draws cyfrifon cronfeydd pensiwn unigol ac fe argymhellwyd y dylai'r Gweithgor Swyddogion fynd i'r afael â hyn.  Nododd y Swyddog Adran 151 y byddai hyn yn cael ei gynnwys ar raglen y Gweithgor Swyddogion er mwyn sicrhau dull cyson o arferion cyfrifo ar draws Cymru gyfan. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Blynyddol wedi'i Archwilio a'r Adroddiad Archwiliad.

6.

POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar Bolisi Buddsoddi Cyfrifol PPC.   Dywedwyd wrth y Cydbwyllgor y datblygwyd y Polisi mewn ymgynghoriad â'r Awdurdodau Cyfansoddol ar sail yr egwyddorion buddsoddi cyfrifol a gymeradwywyd yng nghyfarfod y Cydbwyllgor ym mis Mehefin.  Canfuwyd bod y Polisi yn gwbl weithredadwy ac y byddai'n cael ei adolygu bob blwyddyn.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch penodi darparwr ymgysylltu sengl ac asiant pleidleisio drwy ddirprwy, cafodd y Cydbwyllgor wybod y byddai'r cynnig yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod nesaf y Gweithgor Swyddogion ac y byddai polisi pleidleisio yn cael ei ddatblygu ar y cyd â'r ymgynghorydd asiant pleidleisio drwy ddirprwy. 

 

Wrth ateb ymholiad ynghylch cyfathrebiadau, cafodd y Cydbwyllgor wybod y byddai'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol yn cael ei gyhoeddi'n ddwyieithog ar wefan PPC.  Awgrymwyd y gellid hyrwyddo'r Polisi drwy ddatganiad i'r wasg.

 

PENDERFYNWYD 

6.1.    Cymeradwyo'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol;

6.2.    Y byddai'r Awdurdod Lletya'n paratoi datganiad i'r wasg ar y Polisi Buddsoddi Cyfrifol.

7.

YMGYSYLLTU Â CHADEIRYDDION Y BWRDD PENSIWN pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cydbwyllgor gynnig ar ymgysylltu â chadeiryddion y byrddau pensiwn.  Yn dilyn Diwrnod Ymgysylltu â Chadeiryddion y Bwrdd Pensiwn cadarnhaol ar 2 Ebrill 2019, cafwyd awgrym y gallai cynnal Diwrnodau Ymgysylltu â Chadeiryddion y Bwrdd Pensiwn bob chwe mis gynnig fforwm effeithiol ar gyfer hwyluso deialog â'r cadeiryddion ac aelodaeth ehangach yr wyth bwrdd pensiwn lleol.  Gallai'r cynnig gyflwyno dewis amgen i gynrychiolaeth aelod y cynllun ar y Cydbwyllgor ac, yn amodol ar gymeradwyaeth, fe allai ffurfio rhan o strwythur llywodraethu PPC.  Awgrymwyd ymhellach y gallai cadeiryddion byrddau pensiwn neu eilyddion enwebedig fynychu'r diwrnodau ymgysylltu, fel yn briodol. 

 

Wrth ateb ymholiad ynghylch cynrychiolaeth undebau / gweithwyr ar y Cydbwyllgor, cafodd y Cydbwyllgor wybod bod y Cytundeb Rhwng Awdurdodau yn cyfyngu aelodaeth y Cydbwyllgor ar hyn o bryd i un aelod etholedig o bob awdurdod cyfansoddol.   Gallai'r Cydbwyllgor drafod cynrychiolaeth aelodau cyfetholedig; fodd bynnag, ni fyddai modd addasu'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau heb gael cytundeb gan bob un o'r wyth awdurdod cyfansoddol.  Yn ogystal, byddai angen gwirio p'un a oedd deddfwriaeth yn caniatáu iddynt fod yn aelod â phleidlais ar y pwyllgor.  Hysbyswyd y Cydbwyllgor ymhellach bod y perthnasau gwaith cyfredol â byrddau pensiwn yn gadarnhaol a bod modd i gynrychiolwyr undeb fynychu'r cyfarfodydd Ymgysylltu â Chadeiryddion Byrddau Pensiwn, fel cynrychiolwyr ar y bwrdd.

 

Hysbysodd cynrychiolwyr Hymans ymhellach bod Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun wedi penodi Hymans i gynnal adolygiad o strwythurau llywodraethu yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gynharach eleni - The Good Governance Project.  Bu i'r adolygiad nodi dyhead ymysg budd-ddeiliaid gwahanol am fwy o gynrychiolaeth gan weithwyr; fodd bynnag, roedd yr adolygiad wedi'i deilwra ar gyfer cronfeydd pensiwn lleol, yn hytrach na chronfeydd cydfuddsoddi.

 

Awgrymwyd fod y pwnc cynrychiolaeth aelodau cynllun yn dychwelyd i'r Cydbwyllgor yn gynnar yn ystod y flwyddyn newydd, ar ôl gweld canlyniadau'r arolwg Good Governance, derbyn cyngor gan Fwrdd Ymgynghorol y Cynllun ac wedi i'r cronfeydd unigol roi ystyriaeth i hyn.

 

PENDERFYNWYD 

7.1.    Mabwysiadu Diwrnodau Ymgysylltu â Chadeiryddion y Bwrdd Pensiwn bob chwe mis, fel rhan o strwythur llywodraethu PPC;

7.2.    Ailymweld â'r pwnc cynrychiolaeth cyfetholedig ar y Cydbwyllgor yn ystod un o gyfarfodydd y Cydbwyllgor yn y flwyddyn newydd. 

8.

DIWEDDARIAD LINK / RUSSELL pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad gan Link a Russell ar gynnydd Partneriaeth Pensiynau Cymru. Cynghorwyd y Cydbwyllgor bod yr asedau dan gronfeydd Cyfleoedd Byd-eang a Thwf Byd-eang (Tranche 1) a lansiwyd ym mis Ionawr 2019, yn parhau i dyfu ac y byddai'r gronfa Cyfleoedd yn y DU (Tranche 2) yn cael ei lansio ar 23 Medi 2019.  Roedd cynlluniau i lansio'r is-gronfa Ecwiti Ewropeaidd wedi'u rhoi o'r neilltu am y tro yn sgil newid yn y strategaeth.  O ran Incwm Sefydlog (Tranche 3), byddai'r gronfa Credyd DU ychwanegol yn cael ei hystyried er cymeradwyaeth gan y Cydbwyllgor yn ystod y cyfarfod heddiw.  Penodwyd Hymans yn Ymgynghorydd Rheoli Trawsnewid ac roeddynt yn gweithio'n agos â Link i ddod i gytundeb ar yr RFP fyddai'n cael ei anfon i bum Rheolwr Trawsnewid posib.  Cafodd lansiad y pum is-gronfa ei dargedu ar gyfer mis Rhagfyr 2019; fodd bynnag, roedd hyn yn ddibynnol ar gyflwyno'r prosbectws i'r FCA erbyn 24 Hydref 2019.  Roedd is-gr?p o'r Gweithgor Swyddogion yn datblygu cynnig ynghylch Marchnadoedd Preifat (Tranche 4).

 

O ran y Protocol Ymgysylltu, roedd y digwyddiadau allweddol diweddar yn cynnwys y Diwrnod Rhan-ddeiliaid Blynyddol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddoe, oedd yn rhoi cyfle i gynnal deialog â rheolwyr buddsoddi'r gronfa Ecwiti Byd-eang.  Roedd cynrychiolwyr o Link a Russell wedi mynychu Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn gynharach yr wythnos hon ac fe fyddant yn ymweld â nifer o bwyllgorau pensiwn unigol eraill dros y misoedd nesaf. 

 

PENDERFYNWYD derbyn diweddariad Link / Russell.

9.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD AR 30 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar yr adroddiadau perfformiad ar gyfer y Gronfa Twf Byd-eang a'r Gronfa Cyfleoedd Byd-eang fel ar 30 Mehefin 2019.  Cynghorwyd y Cydbwyllgor bod y Gronfa Twf Byd-eang, dros y chwarter diwethaf, wedi cynyddu mewn gwerth o oddeutu 6% o £2.08bn i £2.2bn a'r Gronfa Cyfleoedd Byd-eang oddeutu 7% o £1.97bn i £2.11bn.  O gymharu â'r meincnodau perthnasol, roedd y Gronfa Twf Byd-eang wedi tanberfformio mymryn, a'r Gronfa Cyfleoedd Byd-eang wedi perfformio'n well na'r twf a ragwelwyd yn y gwerth ar y farchnad dros y chwarter diwethaf.

 

Wrth ateb ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor mai dim ond dylanwad cyfyngedig oedd cyfnewidiadau'r raddfa gyfnewid yn ei gael ar berfformiad, o gymharu â'r meincnod, ond fe allai gael effaith mwy arwyddocaol ar gyfanswm yr enillion.  Byddai dadansoddiad mwy manwl o gyfraniad cyfnewidiadau'r raddfa gyfnewid yn cael ei gylchredeg i aelodau'r Cydbwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad ar berfformiad y Gronfa Twf Byd-eang a'r Gronfa Cyfleoedd Byd-eang.

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU  BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR  AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyried yr eitem a ganlyn gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.

11.

IS-GRONFA INCWM SEFYDLOG UK CREDIT

Cofnodion:

Yn dilyn y cais prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng Nghofnod 10 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r cyflwyniad yn debygol o achosi niwed ariannol i Bartneriaeth Pensiynau Cymru.

 

Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar Is-gronfa Incwm Sefydlog UK Credit. 

 

PENDERFYNWYD

11.1   Cymeradwyo lansio is-gronfa UK Credit gweithredol;

11.2   Mabwysiadu iBOXX £ Non-Gilts All Maturities fel meincnod yr is-gronfa

11.3   Cymeradwyo Fidelity Investments fel rheolwr yr is-gronfa;

11.4   Y ffi a godir gan y rheolwr am reoli'r asedau yn effeithiol fydd 0.09% bob blwyddyn.