Agenda a Chofnodion

Cydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru - Dydd Gwener, 28ain Mehefin, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Committee Room 4, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff. CF10 4UW. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i benodi y Cynghorydd Peter Lewis yn Gadeirydd y Cydbwyllgor Llywodraethu am y flwyddyn galendr sydd i ddod.

 

Mynegodd y Cadeirydd, Aelodau a'r Swyddogion eu gwerthfawrogiad i'r Cyng, Mark Norris am ei waith yn ystod ei flwyddyn fel Cadeirydd. 

2.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i benodi y Cynghorydd Glyn Caron yn Is-gadeirydd y Cydbwyllgor Llywodraethu am y flwyddyn galendr sydd i ddod.

3.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Cyng. Aaron Shotton (Cyngor Sir y Fflint) a'r Cyng. Haydn Bateman (Cyngor Sir y Fflint, Eilydd).

4.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

G. Caron

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf;

 

Ei wraig yn Aelod Gohiriedig o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf;

Ei fab yng nghyfraith yn Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

P. Lewis

Aelod o Gronfa Bensiwn Powys;

C. Lloyd

Aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe;

Ei Dad yn aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe;

M. Norris

Aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf;

J Pughe Roberts

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd;

E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed.

 

5.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 27AIN MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i lofnodi cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 27ain o Fawrth, 2019 fel rhai cywir.

6.

DIWEDDARIAD AR YR AWDURDOD CYNNAL pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Mr Parnell ddiweddariad i'r Pwyllgor ar y meysydd allweddol isod.

 

Polisi Buddsoddi Cyfrifol (BC) - Dylai'r polisi BC drafft gael ei gymeradwyo gan bob pwyllgor pensiwn yn eu cyfarfodydd nesaf.  Roedd y polisi wedi ei lunio fel polisi cyffredinol oedd yn caniatáu i bob Pwyllgor Pensiwn i gael eu polisi BC lleol eu hunain. 

 

Llywodraethu - Cafwyd awgrymiad y gellid cyflawni nifer o'r amcanion yn yr adran llywodraethu drwy gynnal Gweithdai Credoau, Polisïau a Llywodraethu. Hysbysodd Mr Parnell y byddai'r rhain yn cael eu cynnal ym mis Medi 2019.

 

Gwefan - Dyfarnwyd y contract i greu a chynnal a chadw gwefan yn barhaus i gwmni lleol o Lanelli. Roedd disgwyl y byddai'r wefan yn weithredol erbyn dechrau Awst 2019.  Byddai'r costau oddeutu £5k am y flwyddyn gyntaf, ac yn sylweddol llai yn y blynyddoedd wedyn.

 

Cyfathrebu a Hyfforddiant - Yn ychwanegol at y gweithdai Credoau, Polisïau a Llywodraethu y soniwyd amdanynt uchod, byddai gweithdy Cyfathrebu yn cael ei gynnal ar ôl cyfarfod y Pwyllgor yma.  Roedd yr awdurdod lletya wedi cwrdd â'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol gan roi diweddariad ar gynnydd Partneriaeth Pensiynau Cymru (PPC).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn cyflwyniad yr awdurdod lletya.

7.

ADRODDIAD / ARCHWILIAD BLYNYDDOL 2018/19 pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 y Cydbwyllgor yr Adroddiad Blynyddol heb ei Archwilio am 2018/19 gan roi esboniad manwl ar y treuliau a nodwyd ynddo. Hysbysodd oherwydd bod gwerth trosiant y PPC yn dal i fod yn y cam datblygu, y cwbl oedd angen i'r PPC ei wneud oedd darparu Adroddiad Blynyddol am y flwyddyn ariannol hon ond roedd yn debygol iawn y byddai angen darparu Datganiad Cyfrifon llawn yn y dyfodol.   Byddai'r Adroddiad Blynyddol yma'n amodol i archwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru.   

 

Hysbyswyd y Cydbwyllgor ymhellach, bod angen fel arfer i roi cymeradwyaeth derfynol i'r Adroddiad Blynyddol wedi ei archwilio a'r Adroddiad Archwilio.  Er hynny, yr dyddiad cau i hyn oedd y 15fed o Fedi 2019 ac nid oedd hi wedi bod yn bosib dod a'r cyfarfod nesaf o'r Cydbwyllgor ymlaen, oedd wedi ei drefnu ar yr 20fed o Fedi 2019.  Felly, awgrymwyd y dylai'r dasg o gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol wedi'i archwilio a'r Adroddiad Archwilio 2018/19 yn derfynol yn cael ei ddirprwyo i Bwyllgor Archwilio'r awdurdod lletya ar gyfer 2018/19 yn unig. Bydd copi o'r Adroddiad Blynyddol wedi'i Archwilio yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cydbwyllgor ym mis Medi. Hysbyswyd y Cydbwyllgor y byddai dyddiadau y cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu trefnu gan roi ystyriaeth i'r amserlen archwilio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fel a ganlyn:

7.1.    Cymeradwyo'rAdroddiad Blynyddol heb ei Archwilio ar gyfer 2018/19;

7.2.    Dirprwyo'rdasg o gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol wedi'i Archwilio ac adroddiad Archwiliad 2018/19 yn derfynol i Bwyllgor Archwilio'r awdurdod lletya (Cyngor Sir Gâr) ar gyfer 2018/19 yn unig;

7.3.    Byddcopi o'r Adroddiad Blynyddol wedi'i Archwilio yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf y Cydbwyllgor ar ôl ei gymeradwyo.

8.

DIWEDDARIAD LINK / RUSSELL pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor Mr Duncan Lowman a Mr Eamonn Gough o Link, a rhoddwyd cyflwyniad ganddynt ar gynnydd y PPC a Phrotocol Ymgysylltu Link. 

 

Hysbysodd Mr Lowman fod cronfeydd y Gronfa Twf Ecwiti a'r Gronfa Cyfleoedd Byd-eang wedi cynyddu yn eu gwerth i £2.195bn a £2.111bn yn ôl eu trefn.   Hysbysodd Mr Gough fod strwythur Cyfran 2 (Ecwiti y DU ac Ewropeaidd) wedi ei gymeradwyo gan yr FCA ac mewn gwirionedd roedd yn barod i fynd unwaith fo'r dull trawsnewid wedi ei benderfynu.  Byddai cynnig manwl ar gyfer y strwythur rheoli a'r ffioedd mewn perthynas â Chyfran 3 (Incwm Sefydlog) yn cael ei gyflwyno yn nes ymlaen yng nghyfarfod heddiw er cymeradwyaeth.   O safbwynt Cyfran 4 (Marchnadoedd Preifat), byddai papur diweddaru yn manylu ar y camau nesaf yn cael ei ddarparu ar ôl y cyfarfod OWG nesaf.  

 

Hysbysodd Mr Lowman fod Protocol Ymgysylltu Link yn rhoi manylion ar ryngweithio Link gyda'r Cydbwyllgor, yr OWG, yr awdurdod lletya a'r swyddogion A.151.  Hysbysodd ymhellach fod Link wedi adolygu ei drefniadau gweithredu a byddai Mr Gough yn canolbwyntio yn llwyr ar waith PPC.  Esboniodd y bydd Link yn cynnal Diwrnod Blynyddol Cyfranddalwyr (dyddiad i'w gadarnhau) ac yn mynychu Pwyllgorau unigol y Gronfa Bensiwn yn nes ymlaen yn y flwyddyn. 

 

Diolchodd Swyddog A.151 y Cydbwyllgor i Link am bennu Mr Gough i'r PPC a hysbyswyd fod y baich gwaith yn gwarantu'r trefniant yma. 

 

Mewn ymateb i ymholiad ar bresenoldeb swyddog A.151 yn y cyfarfodydd Adolygu Perthynas Strategol, hysbyswyd y Pwyllgor y byddai dau swyddog A.151 yn mynychu bob cyfarfod ac y byddai'r rhain yn cael eu dyrannu yn dibynnu ar argaeledd.  

 

Mewn ymateb i ymholiad ar linell amser Cyfran 4, hysbyswyd y Pwyllgor fod y dyddiad a gynigwyd ym Mehefin 2019 i gytuno ar strwythur y gronfa yn anghywir.  Daeth i'r amlwg fod marchnadoedd preifat yn bwnc cymhleth ac roedd angen trafodaeth bellach drwy is-gr?p swyddogion ac felly byddai cynnig ar gyfer strwythur y gronfa yn cael ei gyflwyno yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn y cyflwyniad.

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU  BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR  AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyried yr eitemau a ganlyn gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.

10.

CYNNIG BENTHYCA GWARANNAU

Cofnodion:

Yndilyn y cais prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng nghofnod 9 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r cyflwyniad yn debygol o achosi niwed ariannol i Bartneriaeth Pensiwn Cymru drwy niweidio'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt a rhai yn y dyfodol.

 

Cafodd y Cydbwyllgor gynnig gan Northern Trust ar Fenthyca Gwarannau.  Hysbysodd Mr Parnell fod yr wyth cronfa yn PPC wedi cytuno ar eu gofynion benthyca stoc eu hunain yn eu cyfarfod pwyllgor perthnasol ac y gallai canran fach o'r arian gael ei gadw yn ôl rhag cael ei fenthyca i gadw hawliau pleidleisio. 

 

Awgrymwyd y gellid tynnu darn o'r cynnig allan oedd yn datgan na fyddai unrhyw gyfyngiadau benthyg na menthyca penodol.  Wrth ateb ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor y gellid adolygu'r rhestr o fenthycwyr ar y cyd gyda'r awdurdod lletya.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai'r cynnig Benthyca Gwarannau yn cael ei dderbyn.

11.

IS-GRONFEYDD INCWM SEFYDLOG

Cofnodion:

Yndilyn y cais prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng nghofnod 9 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r cyflwyniad yn debygol o achosi niwed ariannol i Bartneriaeth Pensiwn Cymru drwy niweidio'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt a rhai yn y dyfodol.

 

Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad gan Link/Russell mewn perthynas â'r strwythur rheoli terfynol a ffioedd yr Is-gronfeydd Incwm Sefydlog a ganlyn: 

-        Cronfa Credyd Byd-Eang;

-        Cronfa Bondiau Llywodraeth Byd-Eang;

-        Cronfa Bondiau Enillion Absoliwt;

-        Cronfa Credyd Aml-ased. 

 

Hysbysodd Mr Sasha Mandich fod atodiad i'r adroddiad wedi ei ddosbarthu i roi gwybod i Aelodau'r Cydbwyllgor fod un rheolwr arfaethedig yn un o'r is-gronfeydd wedi newid.  Dywedodd fod penderfyniadau i newid rheolwyr bob amser yn cael eu gwneud yng ngoleuni costau trawsnewid.  Awgrymwyd y gallai protocol oedd yn hwyluso gweithredu sydyn o ran newid rheolwr helpu i leihau costau trawsnewid tra'n sicrhau bod cyfathrebu priodol. 

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Mr Lowman y byddai cynllun trawsnewid yn cael ei ddarparu i'r OWG ym mis Awst ac roedd dyddiad cyflwyno tua Medi/Hydref 2019 yn bosib.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fel a ganlyn:

11.1     I gymeradwyo'r strwythur rheoli terfynol a'r ffioedd i'r is-gronfeydd Incwm Sefydlog a ganlyn:

-        CronfaCredyd Byd-Eang;

-        CronfaBondiau Llywodraeth Byd-Eang;

-        CronfaBondiau Enillion Absoliwt;

-        CronfaCredyd Aml-ased. 

11.2     Bydd protocol newid rheolwr yn cael ei ddatblygu a'i gyflwyno i'r Cydbwyllgor er cymeradwyaeth.

12.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD AR 31 MAWRTH 2019

Cofnodion:

Yndilyn y cais prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng nghofnod 9 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r cyflwyniad yn debygol o achosi niwed ariannol i Bartneriaeth Pensiwn Cymru drwy niweidio'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt a rhai yn y dyfodol.

 

Derbyniodd y Cydbwyllgor gyflwyniad gan Link/Russell mewn perthynas gyda pherfformiad yr is-gronfeydd isod ar 31ain Mawrth 2019:

-        Cronfa Dwf Byd-eang;

-        Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i nodi adroddiadau perfformiad mewn perthynas â'r Gronfa Dwf Byd-eang a'r Gronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang.