Agenda a Chofnodion

Cydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru - Dydd Llun, 11eg Mehefin, 2018 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 4, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Caron (Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen) a C. Lloyd (Dinas a Sir Abertawe)

2.

PENODI CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN GALENDAR NESAF.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i benodi'r Cynghorydd M. Norris yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.

 

Mynegodd y Cadeirydd, yr Aelodau a'r swyddogion eu gwerthfawrogiad i'r Cynghorydd Churchman am ei flwyddyn fel Cadeirydd.

3.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i benodi'r Cynghorydd P.Lewis yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.

4.

DATGANIADAU O FUDDIANT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Datgan Buddiannau Personol

S. Churchman

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd;

D. Hughes

Aelod o Gronfa Bensiwn Clwyd;

T. Lewis

Aelod o Gronfa Bensiwn Powys;

P. Downing

Aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe;

M. Norris

Aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf;

E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed.

C. Weaver

Aelod o Gronfa Bensiwn Caerdydd;

 

(Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod).

5.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 28AIN MAWRTH, 2018. pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 28 Mawrth 2018 gan eu bod yn gywir.

6.

CYFLWYNIAD GAN LINK A'R AWDURDOD CYNNAL AR GERRIG MILLTIR A DIWEDDARIAD CYNNYDD. pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd Denise Jones sef Pennaeth Rheoli Newid Link Fund Solutions gan y Cadeirydd i'r cyfarfod a rhoddodd gyflwyniad ar y cerrig milltir allweddol a'r cynnydd o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Rhoddodd Ms Jones restr i'r Pwyllgor o'r dyddiadau dros dro ar gyfer y cerrig milltir allweddol, y cynnydd hyd yma a'r camau nesaf. O ran y cerrig milltir allweddol, roedd yr elfen bwysicaf yn ymwneud â chymeradwyo prosbectws y Gronfa er mwyn ei gyflwyno i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Cafodd y Prosbectws hwnnw ei osod ar agenda'r Cyd-bwyllgor y diwrnod hwnnw er mwyn ei ystyried, ac os byddai'n cael ei gymeradwyo, y bwriad oedd ei gyflwyno ar 15 Mehefin, 2018. Os caiff ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, byddai'r is-gronfeydd yn cael eu lansio ar 15 Hydref, 2018

 

Dywedodd Ms Jones fod y cerrig milltir allweddol eraill yn cynnwys:-

Ø  Cytundebau'r Rheolwyr Buddsoddi. Roeddent wedi cael eu cyflwyno i'r holl reolwyr buddsoddi ar gyfer y set gyntaf o is-gronfeydd a dechreuwyd ar y trafodaethau yn dilyn hyn.

Ø  Byddai gweithgor swyddogion yn cael ei gynnal ar 27 Mehefin i drafod y pecyn adroddiadau arfaethedig er mwyn dechrau ar y gwaith o'i ddatblygu.

Ø  Byddai ail ran yr is-gronfeydd yn cael ei hystyried gan y gweithgor swyddogion ar 27 Mehefin er mwyn ei chyflwyno i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol erbyn 27 Medi, a'i lansio yn Ionawr, 2019.

 

Cyfeiriwyd at y cytundebau pleidleisio arfaethedig a dywedwyd wrth y Pwyllgor er iddynt gael eu cyflwyno i'r swyddogion, byddent yn cael eu hystyried ymhellach yn ystod y Gweithgor Swyddogion ar 27 Mehefin. 

 

Rhoddodd Mr Anthony Parnell y wybodaeth ddiweddaraf ganlynol i'r Pwyllgor o ran cyfrifoldebau'r awdurdod cynnal:-

·        Staffio – roedd y swyddog S151 yn ystyried cefnogi'r prinder presennol o ran staffio yn yr awdurdod cynnal ac roedd gwaith yn cael ei ailddosbarthu lle bo'n bosibl.

·        Cyfathrebu –roedd y  gwaith o ran datblygu'r wefan a'r llythyr newyddion wedi cael ei oedi oherwydd y pwyslais a roddwyd ar baratoi prosbectws y Gronfa. Byddai'r gwaith o ran hynny yn cael ei gyflawni dros yr haf.

·        Llywodraethu – roedd y trefniadau yn gweithio'n dda ar hyn o bryd o ran y Cyd-bwyllgor a'r swyddogion.

·        Adrodd – byddai pecynnau'n cael eu cyflwyno i'r gweithgor swyddogion ar 27 Mehefin gyda golwg ar sicrhau cysondeb yn yr adroddiadau â'r cronfeydd eraill. Roedd trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal â'r gr?p adrodd CIPFA o ran ei ddisgwyliadau ynghylch darparu adroddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariadau.

7.

NODIADAU CYFARFODYDD Y GWEITHGOR SWYDDOGION A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.

9FED MAWRTH, 2018; pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn nodiadau'r Gweithgor Swyddogion a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018.

9.

20FED EBRILL, 2018. pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn nodiadau'r Gweithgor Swyddogion a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2018.

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD.

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD  SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

11.

PROSBECTWS YR AWDURDOD YMDDYGIAD ARIANNOL PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat, gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad yn cynnwys manylion am y cyfleoedd buddsoddi a oedd eto i'w trafod yn llawn neu'u haildrafod a byddai datgelu'r cyflwyniad yn tanseilio'r trafodaethau hynny ac yn effeithio ar gostau ac enillion y Gronfa.

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Mr James Wilson o Link Fund Solutions a roddodd drosolwg o'r prosbectws Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w gyflwyno i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar gyfer yr Is-gronfeydd a fyddai'n cael eu gweithredu a'u rheoli gan Link Fund Solutions .

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau'r Pwyllgor ofyn cwestiynau am y prosbectws, yn dilyn hyn gadawodd cynrychiolwyr Link Fund Solutions y cyfarfod er mwyn i'r Pwyllgor gael cyngor cyfreithiol gan Burges Salmon ynghylch y Prosbectws a'r Llythyr Ategol. Gwnaed sylwadau mewn perthynas â'r llythyr ategol, yn dilyn hyn derbyniwyd ei fod yn briodol.

 

Cafodd cynrychiolwyr Link Fund Solutions eu galw yn ôl i'r cyfarfod a rhoddwyd gwybod iddynt am y pryderon a'r sylwadau  a fynegwyd ynghylch y llythyr ategol. Cadarnhaodd y cynrychiolwyr fod eu cynghorwyr cyfreithiol yn cytuno â chynnwys y llythyr ategol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

11.1

Bod y prosbectws ar gyfer ei gyflwyno i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn cael ei gymeradwyo;

11.2

Bod bob awdurdod gweinyddu yn llofnodi ac yn selio'r Llythyr Cytundeb Ategol  dyddiedig 12 Mehefin 2018 ac yn ei ddychwelyd at yr awdurdod cynnal.