Agenda a Chofnodion

Cydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru - Dydd Mawrth, 25ain Medi, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, - Cyngor Sir Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Cydbwyllgor, y Cynghorydd Mark Norris, o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau hefyd gan Nigel Aurelius o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Philip Latham o Gyngor Sir y Fflint.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Cynghorydd

Natur y Buddiant Personol

G. Caron

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

 

Ei wraig yn Aelod Gohiriedig o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

D. Hughes

Aelod o Gronfa Bensiwn Clwyd;

P Lewis

Aelod o Gronfa Bensiwn Powys;

C. Lloyd

Aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe;

R. Smith

Aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf;

J. Pugh Roberts

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd;

E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed.

 

(Noder: Mae eithriad yng Nghod Ymddygiad Aelodau sy'n galluogi i aelod sydd wedi'i benodi neu'i enwebu i gorff perthnasol gan ei awdurdod ddatgan y budd hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod).

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 11EG MEHEFIN 2018 pdf eicon PDF 168 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod yna un cywiriad i'r cofnodion gan nad oedd y Cynghorydd C. Weaver yn aelod o Gronfa Bensiwn llywodraeth leol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Weaver fod hyn yn gywir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL llofnodi cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Mehefin fel rhai cywir, yn amodol ar yr addasiad uchod.

 

4.

CYFLWYNIAD GAN LINK AR CERRIG MILLTIR A DIWEDDARIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd Denise Jones - Pennaeth Rheoli Newid yn Link Asset Services gan y Cadeirydd a rhoddodd gyflwyniad ar y Prif Gerrig Milltir a'r cynnydd ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Darparodd Ms Jones restr lawn i'r Cydbwyllgor o'r dyddiadau posib ar gyfer y prif gerrig milltir, y cynnydd hyd yn hyn ar Gronfeydd Cychwynnol (Ecwiti Byd-eang) Tranche 2 (y DU ac Ecwiti Ewropeaidd) a'r camau nesaf.

 

Dywedodd Ms Jones fod Link ar hyn o bryd yn gweithio trwy'r templedi adrodd a bod y Gweithgor Swyddogion wedi ystyried pecyn sampl ym mis Gorffennaf, gobeithiwyd felly y byddai modd cytuno ar y pecyn cyn hir i fod yn barod ar gyfer lansiad y gronfa gyntaf.

 

Rhoddodd Ms Jones wybod i'r Cydbwyllgor fod Cytundebau'r Rheolwyr Buddsoddi ar y gweill a gobeithiwyd y byddai'r holl gytundebau wedi cael eu llofnodi erbyn diwedd mis Medi 2018. 

 

O ran yr Is-gronfa Ecwiti Byd-eang, roedd Link yn parhau i dargedu canol mis Tachwedd 2018 ar gyfer lansio'r ddwy gronfa gyntaf a gobeithiwyd y byddai modd llunio cytundeb o fewn Eitem 6 y Rhaglen ar gyfer cronfeydd Tranche 2 - Ecwiti'r DU ac Ewrop, a chymeradwyo ychwanegiadau atodlen 5 i brosbectws y gronfa erbyn 5 Hydref.

 

O ran Penodi Rheolwyr Trawsffurfio ar gyfer y ddwy gronfa gyntaf (Ecwiti Byd-eang), roedd pob bid wedi'i gyflwyno a'r broses werthuso gychwynnol wedi'i chynnal, roedd y swyddogion wedi'u hadolygu a disgwylid cymeradwyaeth terfynol yn yr wythnos nesaf.

 

O ran y cynnydd hyd yn hyn, rhoddwyd gwybod i'r Cydbwyllgor:-

 

·         Derbyniwyd cymeradwyaeth yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ar gyfer yr arian cychwynnol ar 24 Gorffennaf;

·         Cynhaliwyd diwrnod ymgysylltu Rheolwyr Cychwynnol ar 5 Medi gyda'r 3 Rheolwr Twf Byd-eang a'r 3 Rheolwr Cyfleoedd Byd-eang yn mynychu, byddai 4 rheolwr arall yn cyfarfod â'r Cydbwyllgor yn ddiweddarach y bore hwnnw

·         Roedd trafodaethau ynghylch contractau wedi dechrau gyda Northern Trust ar gyfer y cytundeb adneuo, yn unol â'r adroddiad ac roedd y copi gweithredu i fod i gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn yr wythnos.

·         Roedd Link wedi adolygu'r cytundeb Gweinyddol ac wedi bwydo sylwadau cychwynnol i Northern Trust.

·         Roedd llythyrau ymgysylltu yn eu lle ar gyfer ymgynghorwyr Archwilio, Cyfreithiol a Threthi.

 

O ran Tranche 2, roedd Link wedi ystyried ecwiti'r DU ac Ewrop, ac roedd y cynigion ar gyfer y gronfa wedi cael eu cytuno gydag awdurdodau lleol Caerdydd a Thorfaen, gydag ychwanegiadau atodlen 5 wedi'u cwblhau a'u cyflwyno i'r Swyddogion eu hadolygu ac yna i'w cymeradwyo ar gyfer eu cyflwyno i FCA gyda'r bwriad o'u lansio ganol mis Ionawr 2019.  Gobeithiwyd y byddai'r Rheolwyr Trawsnewid yn cael eu penodi erbyn 11 Hydref 2018.  Roedd gwaith hefyd wedi dechrau ar y cynigion incwm sefydlog a gobeithiwyd y byddant yn cael eu cytuno ym mis Tachwedd 2018 er mwyn i'r gwaith ddechrau ar drydydd cyflwyniad i'r FCA.

 

Cyfeiriwyd at y prif gerrig milltir a'r dyddiadau yn yr adroddiad, a gofynnwyd am eglurhad o ran y broses o benodi'r Rheolwr Trawsnewid. Dywedodd Swyddog A151 y Cydbwyllgor y byddai angen i bob awdurdod unigol benodi Rheolwr Trawsnewid, a phroses benodi yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'RMATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CYD-BWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 - gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod yr eitem a ganlyn gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.

 

6.

CYFLWYNIAD GAN LINK / RUSSELL AR IS-GRONFEYDD ECWITI Y DU A EWROPEAIDD

Cofnodion:

Yn dilyn y cais prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng nghofnod 5 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat ac y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar sail bod y wybodaeth a drafodir yn yr adroddiad yn cynnwys manylion cyfleoedd buddsoddi nad oedd wedi'u trafod yn llwyr na'u hail-negodi eto, ac y byddai datgelu'r cyflwyniad yn niweidio'r trafodaethau ac yn cael effaith ar gostau a dychweliadau'r Cronfeydd.

 

Croesawodd y Pwyllgor Peter Hugh Smith - Rheolwr Gyfarwyddwr Link Asset Services, a Sasha Mandich - Cyfarwyddwr, Russell Investments i'r cyfarfod.

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar strwythur y ddwy gronfa ecwiti ranbarthol sef UK ac Europe ex-UK, ac ystyriwyd argymhellion ar gyfer y cronfeydd hynny.

 

Cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau am y cronfeydd, gan gynnwys perfformiad y cronfeydd, arallgyfeirio ffurfiau buddsoddi, sut yr oedd y cyllid yn cael ei rannu rhwng y ddwy is-gronfa, newidiadau/trosiant staff y rheolwr cronfa, a'r broses ar gyfer buddsoddi / tynnu yn ôl.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

1.    Y byddai'r cyflwyniad yn cael ei nodi.

 

2.    Buddsoddi mewn dwy is-gronfa wahanol i gyflawni arallgyfeirio effeithiol, ac i gyflogi pum rheolwr arbenigol i bob cronfa, sef:-

 

·         UK – Majedie, Lazard Omega,  Baillie Gifford, Investec a Liontrust.

 

·         Europe ex-UK - Blackrock, Pzena, Invesco, SW Mitchell a Liontrust.

 

3.    Lleihau costau masnachu trwy ddefnyddio dull 'uwch weithredu', fyddai'n golygu gosod masnachau rheolwyr sy'n gorgyffwrdd yn erbyn ei gilydd yn hytrach na rhoi cyfarwyddyd i bob rheolwr fasnachu ar wahân gyda'u broceriaid eu hunain.