Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 86550338# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Jim Jones. Dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i'r Cynghorydd Jones ar ôl iddo dreulio cyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 24AIN MEHEFIN, 2020 pdf eicon PDF 320 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 24 Mehefin, 2020 yn gofnod cywir.

 

4.

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIADAU ARIANNOL 2019-20 pdf eicon PDF 406 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor Jason Garcia o Archwilio Cymru i'r cyfarfod a gyflwynodd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, gan fanylu ar y materion a oedd yn codi o'r archwiliad yr oedd angen eu hadrodd o dan Safon Ryngwladol ar Archwilio 260. 

 

Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2020, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi a byddai'r Pwyllgor Archwilio yn ystyried yr adroddiad terfynol maes o law.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2019–20 (ISA260).

 

5.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2020 - 30 MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 332 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2020/21. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 30 Mehefin 2020, yn rhagweld tanwariant o £3.2m o ran arian parod. O ran gwariant, roedd effaith net y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau allan yn dangos tanwariant o £1.5m. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cynnydd o 3% wrth bennu'r gyllideb ar gyfer pensiynwyr, y cynnydd gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn hyd yma oedd 1.5%. Roedd tanwariant o ran treuliau rheolwyr o £420k.

O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau i mewn yn dangos cynnydd o £1.3m, yn bennaf o ganlyniad i gynnydd o £1.5m mewn incwm buddsoddi. Yn gyffredinol, y cyfanswm gwariant oedd £99.1m a chyfanswm incwm amcangyfrifiedig o £102.3m gan arwain at sefyllfa llif arian parod cadarnhaol o £3.2m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020.

 

6.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Mehefin, 2020 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £20.9m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

7.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2020-2021 pdf eicon PDF 342 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer Rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·       na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·       bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

                 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Fodd bynnag, nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

8.

COFRESTR RISG 2020-2021 pdf eicon PDF 418 KB

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith sy'n tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Cafodd hyn ei adolygu ac ni chafwyd unrhyw newidiadau i'r Gofrestr Risg a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar 2 Mawrth 2020. Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y gofrestr risg ar gyfer 2020-2021 wedi'i hadolygu i sicrhau bod risgiau'n cael eu nodi a'u hasesu.

 

9.

DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 342 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) , ynghylch cynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol ynghyd â thaliadau'r gronfa, y diweddaraf o ran lansio'r gronfa a diweddariad corfforaethol ac ymgysylltiad LFS.

 

·       Tranche 3 - Incwm Sefydlog

·       Tranche 4 – Marchnadoedd Datblygol.

·       Tranche 5 - Marchnadoedd Preifat

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y wybodaeth ddiweddaraf am Bartneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei nodi.

 

 

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2020.

 

12.

BENTHYCA GWARANNAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a ddarparwyd gan Northern Trust ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru ynghylch benthyca gwarannau am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020 ac argymhellwyd cymeradwyo'r cais am fenthyca gwarannau yng Nghronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad benthyca gwarannau a chymeradwyo'r cais am fenthyca gwarannau yng Nghronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru.

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2020 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2020.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau