Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Iau, 28ain Tachwedd, 2019 9.30 yb

Lleoliad: Y Crochan, - Theatr y Ffwrnes, Llanelli. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann  01267 224178

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

[Nodyn: Er mwyn cael cworwm ar gyfer y Pwyllgor, gohiriwyd amser dechrau'r cyfarfod ar gais y Cadeirydd.]

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Rob Evans.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Y Math o Fuddiant

D.E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

T.J. Jones

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

D. Thomas

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 18 MEDI 2019 pdf eicon PDF 335 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Medi 2019, gan eu bod yn gywir.

 

4.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2019 - 30 MEDI 2019 pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2019/20. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 30 Medi 2019, yn rhagweld tanwariant o £0.2m o ran arian parod. O ran gwariant, roedd effaith net y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau yn orwariant o £1,148k, achoswyd hyn yn bennaf gan gynnydd yn y pensiwn a oedd yn uwch na'r disgwyl yn sgil cyfandaliadau pensiynwyr gohiriedig. Roedd gorwariant o ran treuliau rheolwyr o £2,253k. O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau i mewn yn cynrychioli cynnydd mewn incwm o £3.6m. Yn gyffredinol, rhagwelwyd cyfanswm gwariant o £91.2m a chyfanswm incwm o £91.4m sy'n cynrychioli sefyllfa llif arian cadarnhaol o £0.2m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

5.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEDI 2019 pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Medi, 2019 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £7.3m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y ffigur presennol yn rhannol oherwydd bod Cyngor Sir Penfro yn talu cyfraniadau cyflogwr ymlaen llaw ar gyfer y flwyddyn gyfan a bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu talu ymlaen llaw bob chwe mis. Roedd disgwyl felly i'r ffigur ostwng yn unol â hynny dros y misoedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

6.

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer Rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oedd achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·         na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·         bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

                     

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau. Nododd y Pwyllgor hefyd fod ad-daliadau awtomatig wedi'u cynnwys ar y gofrestr torri amodau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

7.

Y DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU LINK A RUSSELL pdf eicon PDF 411 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad diweddaraf gan Link a Russell ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru (WPP), gan gynnwys taliadau'r gronfa, y diweddaraf o ran lansio'r gronfa a Phrotocol Ymgysylltu Link / Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â darparu gwasanaeth, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y modd y caiff gwasanaeth Link ei ddarparu wedi gwella ar ôl trafodaethau diweddar â nhw, fodd bynnag doedden nhw dal ddim yn cyrraedd y safonau gofynnol. Roedd y gwasanaeth a ddarperir yn cael ei fonitro mewn cyfarfodydd adolygu bob chwe mis i sicrhau y cydymffurfir â'r cytundeb gweithredwr. Mynychodd cynrychiolwyr o gronfeydd WPP y cyfarfodydd hyn.

 

Penderfynwyd derbyn diweddariad Link a Russell ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

8.

Y DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU YR AWDURDOD LLETYOL pdf eicon PDF 414 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch y cerrig milltir a'r cynnydd o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Ymhlith y meysydd allweddol o ran gwybodaeth oedd gweithdai llywodraethu WPP, lansio porth adroddiadau ar-lein ar gyfer awdurdodau cyfansoddol, penodi Hymans yn Ymgynghorydd Goruchwyliaeth Rheoli Trosglwyddo Incwm Sefydlog, lansio gwefan Partneriaeth Pensiwn Cymru, datblygu cynllun cyfathrebu a hyfforddi a chyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd MHCLG y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr adroddiad ynghlwm wrth gynllun gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru, a fyddai'n cael ei adolygu'n chwarterol.

 

PENDERFYNWYD bod y newyddion diweddaraf am Awdurdod Cynnal ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei nodi.

 

 

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU  BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR  AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi 2019.

 

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2019 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2019.