Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 14 MAWRTH 2018 PDF 215 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2018, gan eu bod yn gywir.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R FATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y FATER YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST FEL YR OEDD AR 28 CHWEFROR 2018 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 28 Chwefror 2018 a oedd yn nodi’r risg o ran buddsoddi, dadansoddiad o'r perfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i’r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 28 Chwefror 2018.
|
|
ADRODDIADAU IS-GRONFA ECWITI BYD-EANG Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y ffaith fod wynebddalen Saesneg yr adroddiad ar gyfer yr eitem hon yn gopi o Eitem 5 ar yr Agenda. Cafodd y Pwyllgor yr wynebddalen gywir ar gyfer Eitem 6 ar yr Agenda, a oedd yn cynnwys yr argymhellion/penderfyniadau allweddol yr oedd angen eu gwneud.
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiadau’r Is-gronfa Ecwiti Byd-eang a oedd yn rhoi manylion llawn am y cyfle buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, gan gynnwys:-
· Yr elw disgwyliedig ar y buddsoddiadau; · Y buddsoddiadau arfaethedig i'w defnyddio; · Dyraniad arfaethedig yr is-gronfa i reolwyr; · Ffioedd rheoli buddsoddiadau a dargedwyd; · Y costau trosiannol disgwyliedig; · Y buddsoddiad posibl a oedd yn cael ei rannu rhwng cronfeydd; · Yr arbedion cost posibl.
Yn dilyn cyfarfod y Gweithgor Swyddogion ar 9 Mawrth 2018 roedd dadansoddiad a chasgliadau pellach wedi cael eu dogfennu. Roedd y Cydbwyllgor Llywodraethu wedi cymeradwyo'r adroddiad mewn egwyddor ar 28 Mawrth 2018. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiwygiedig am y ddau strwythur portffolio alpha-uchel ecwiti byd-eang (portffolios 1 a 2) a dadansoddiad costau/buddion llawn yn seiliedig ar yr arwyddion o ddiddordeb yn y ddwy gronfa alpha-uchel ecwiti byd-eang.
Rhoddwyd neges e-bost i'r Pwyllgor oddi wrth yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol a nododd y Pwyllgor gynnwys y neges e-bost hon.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
6.1 derbyn adroddiadau'r Is-gronfa Ecwiti Byd-eang a'r daenlen arbedion cost; 6.2 bod Cronfa Bensiwn Dyfed yn buddsoddi yn strwythur Portffolio 1.
|