Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGAN BUDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4YDD MAI, 2018 pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 4 Mai, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

MONITRO CYLLIDEB 1AF EBRLL 2017 - 31AIN MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed, a oedd yn cyflwyno'r union sefyllfa gyllidebol ar ddiwedd y flwyddyn fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018, mewn perthynas â 2017/18.

 

Dywedwyd, ar 31 Mawrth 2018, fod cyfanswm gwariant o £84.1m a chyfanswm incwm o £85.2m wedi arwain at lif arian cadarnhaol o £1.1m.

 

Datganodd yr adroddiad diwedd blwyddyn o ran gwariant, fod effaith net Buddion Taladwy a Throsglwyddiadau wedi arwain at orwariant o £1.4m, y dylanwadwyd arno'n bennaf gan natur afreoladwy'r cyfandaliadau a throsglwyddiadau allan o'r Gronfa.

 

Roedd Trosglwyddiadau, Cyfraniadau ac Incwm Buddsoddi wedi cyfrannu at danwariant o £0.9m.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch lefelau staffio presennol y tîm Buddsoddiadau Pensiwn, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, yn dilyn hysbysebu am Gyfrifydd Cynorthwyol, fod penodiad ar fin cael ei wneud a bod y Swyddog Buddsoddiadau Pensiwn yn dal i fod ar gyfnod salwch hirdymor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018.

 

 

 

5.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31AIN MAWRTH, 2018 pdf eicon PDF 57 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Nodwyd ar 31 Mawrth, 2018 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £4.9m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

6.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2017-2018 pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.

 

Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.  Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016.

 

O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·         na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·         bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau cyflogai/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion eraill.

 

 

8.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

9.

ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31AIN MAWRTH, 2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 8 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018.

 

 

10.

GWEITHREDU STRATEGAETH DDIWYGIEDIG (BLACK ROCK SAIF)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 8 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Weithredu'r Strategaeth Ddiwygiedig mewn perthynas â Chronfa Incwm Amgen Strategol (SAIF) Black Rock.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad ar ôl i'r Pwyllgor gymeradwyo'r strategaeth ddiwygiedig, a oedd yn ddetholiad o adroddiad Diwygio Dyraniad Asedau Strategol Cronfa Bensiwn Dyfed, a oedd yn fwy cynhwysfawr ac a ysgrifennwyd gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol ym mis Gorffennaf 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad ar Weithredu'r Strategaeth Ddiwygiedig (BlackRock SAIF).

 

 

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31AIN MAWRTH, 2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 8 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2008.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau