Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 27AIN TACHWEDD 2017 pdf eicon PDF 235 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017, gan eu bod yn gywir.

 

4.

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - CYFLWYNIAD LINK/RUSSELL pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr Link Asset Services a Russell Investments i'r cyfarfod a'u gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru, ac yn benodol gweithredu asedau'r gronfa.

 

Yn hynny o beth rhoddodd y cynrychiolwyr trosolwg o weithrediad, buddsoddiadau ac arbenigedd y ddau gwmni ar sail fyd-eang ynghyd â dull i'w fabwysiadu wrth sefydlu Is-gronfeydd, penodi rheolwyr yr Is-gronfeydd, Cronfa Bensiwn Dyfed fel y mae ar hyn o bryd a'r effaith bosibl ar y cronfeydd ar y cyd.

 

Nododd y Pwyllgor fod y gwaith o sefydlu strwythur cyfuno yn mynd yn ei flaen, gyda golwg, dros y misoedd nesaf i gofrestru'r dull cyfuno gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Fel rhan o'r broses honno, byddai Link Asset Services yn llunio prosbectysau gydag adroddiadau yn cael eu cyflwyno i Gydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w gymeradwyo.

 

Rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor ofyn cwestiynau ar y cyflwyniad, ac yn dilyn hyn diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr am eu presenoldeb.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad.

 

 

5.

CYNLLUN ARCHWILIO 2018 pdf eicon PDF 56 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynllun Archwilio 2018 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a nodwyd y byddai'n cael ei gyflwyno i'w mabwysiadu'n ffurfiol gan y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ar 23 Mawrth 2018.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y cynllun yn dilyn yr un fformat, yn yr un modd â'r blynyddoedd blaenorol, gyda dau eithriad. Roedd y cyntaf yn ymwneud â sefydlu Partneriaeth Pensiwn Cymru a'r trefniadau ar gyfer archwilio ei chyfrifon. Roedd yr ail yn ymwneud â chyflwyno Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio newydd. Yn ôl y rheoliadau presennol roedd yn ofynnol i Archwiliadau'r Cyngor a'r Gronfa Bensiwn gael eu cwblhau yn un ddogfen gyda'r Swyddfa Archwilio yn cyhoeddi un llythyr barn. Mae'r Rheoliadau newydd yn nodi ei bod yn ofynnol archwilio'r cyfrifon ar wahân gyda Swyddfa Archwilio yn cyhoeddi dau lythyr barn.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol o dan y rheoliadau newydd y gallai'r Cyngor rannu'r cyfrifon gan gyhoeddi ei gyfrifon erbyn 30 Medi a chyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed erbyn 31 Rhagfyr, drwy gyfrwng Adroddiad Blynyddol y Gronfa. Fodd bynnag, gan nad oedd unrhyw fudd oedi cyn cyhoeddi cyfrifon y Gronfa y tu hwnt i 30Medi, ei fwriad oedd parhau gyda'r trefniant hwnnw, a'r unig wahaniaeth oedd y byddai angen cynhyrchu adroddiadau ar wahân a byddai angen i Swyddfa Archwilio gyhoeddi dau lythyr barn.

 

Cyfeiriwyd at y Ffioedd Archwilio, a chafwyd cadarnhad na fyddai sefydlu Partneriaeth Pensiwn Cymru yn effeithio ar y lefel y ffioedd oherwydd byddai'r archwiliad hwnnw yn cael ei gwblhau ar wahân. Nid oedd penderfyniad wedi cael ei wneud eto yngl?n â ffi'r Bartneriaeth, byddai hyn yn dod i law pan fyddai gwell dealltwriaeth ynghylch lefel y gwaith y byddai'n rhaid ymgymryd ag ef i gynnal yr archwiliad, gyda'r gost yn cael ei rhannu gan yr 8 Cronfa.  

 

PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Archwilio 2018.

 

6.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2017 - 28 CHWEFROR 2018 pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed i'w ystyried; rhoddai hwn y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf mewn perthynas â 2017/18.

 

Mae'r sefyllfa bresennol ar 28 Chwefror 2018 yn rhagweld tanwariant o £79.4m ar gyfer 2017/18. Yn rhan o'r ffigwr hwn roedd gorwariant o £1.7m yn gysylltiedig ag eitemau arian parod a gafodd yr effaith fwyaf ar y llif arian parod dyddiol. Roedd hyn yn galluogi'r gronfa i gynnal sefyllfa niwtral yn ariannol gan ddefnyddio incwm a gynhyrchwyd o fuddsoddiadau i dalu am y gwariant. Roedd y tanwariant sy'n weddill sef £81.1m yn perthyn i eitemau nad ydynt yn rhai arian parod.

 

O ran eitemau arian parod, ac ar sail y gweithgarwch presennol hyd yn hyn, amcangyfrifwyd y byddai Buddion Taladwy a Throsglwyddiadau yn tanwario o £1.6m, dylanwadwyd ar y rhain yn bennaf gan natur cyfandaliadau a throsglwyddiadau o'r Gronfa. Roedd y cyfraniadau a'r incwm buddsoddi wedi cyfrannu £4.7m o danwariant pellach o ganlyniad i'r incwm buddsoddiad ychwanegol sy'n ofynnol i gadw llif arian parod cadarnhaol i dalu taliad o £6.9m i'r Rheolwyr Buddsoddi i fodloni ymrwymiadau buddsoddi. Byddai'r tanwariant o £5.2 miliwn, namyn £6.9 miliwn o daliad i'r Rheolwyr Buddsoddi, yn arwain at amcangyfrif o £1.7m o danwariant am y flwyddyn wrth gymharu â'r gyllideb. Mewn termau arian parod, amcangyfrifwyd bod cyfanswm y gwariant yn £88.1m yn erbyn cyfanswm incwm amcangyfrifedig o £88.2m, gan arwain at sefyllfa llif arian parod cadarnhaol o £0.1m

 

O ran eitemau nad ydynt yn rhai arian parod, roedd y tanwariant o £81.1m yn cael ei briodoli i'r cynnydd yng ngwerth yr enillion a gafwyd yn sgil trosglwyddo'r ecwitïau ar wahân a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2017 fel rhan o ymarfer caffael ar y cyd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nodwyd nad oedd yr eitemau nad ydynt yn rhai arian parod wedi cael unrhyw effaith ar lif arian parod dyddiol y Gronfa. 

 

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol at incwm y Gronfa gan nodi yn dilyn penderfyniad diweddar y Cyngor i sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ar gyfer Careline –  a fyddai'n masnachu fel Llesiant Delta Wellbeing Ltd (cofnod 10.2 o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2018) roedd y cwmni newydd yn y broses o wneud cais am statws derbyniedig i Gronfa Bensiwn Dyfed o dan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau a Diogelu Cyflogaeth. Nodwyd er nad oedd yn ofynnol cael cymeradwyaeth y Pwyllgor o ran y statws derbyniadau, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'w gyfarfod nesaf yn cadarnhau bod y cytundeb derbyn priodol wedi'i lofnodi a bod 'Llesiant Delta Wellbeing Ltd' wedi dod yn gorff derbyniedig i Gronfa Bensiwn Dyfed.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1

 derbyn adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed.

6.2

nodi bod Llesiant Delta Wellbeing Ltd yn cyflwyno cais i ddod yn gorff derbyniedig ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

 

7.

CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED 2018 - 2019 pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2018/19. Nodwyd bod y gwariant arian parod cysylltiedig ar gyfer 2018/19 a oedd wedi'i bennu ar £86.5m yn erbyn incwm arian parod cysylltiedig o £86.5m wedi arwain at gyllideb net o £0 a oedd yn rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion llif arian.

 

Nododd y Pwyllgor o ran lefelau gwariant fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £76.7m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 3% yn y pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr mis Medi, ynghyd ag effaith net o 2.5% ar gyfer aelodau newydd y pensiwn. Amcangyfrifwyd bod treuliau rheoli yn £7.2m, ac o blith hwn roedd £5.2m wedi cael ei glustnodi ar gyfer ffioedd rheolwyr buddsoddi.

 

Nodwyd ymhellach bod cyfraniadau incwm wedi cael eu hamcangyfrif yn £69.2m a oedd yn cynnwys £50.5m gan y cyflogwr a £18.7m yn gyfraniadau gan y gweithwyr, roedd y cyfraddau hynny ar sail prisiad 2016 ac roedd yn cynnwys 2% ar gyfer codiadau cyflog yn 2018/19. Amcangyfrifwyd bod incwm buddsoddi yn £15.8m a oedd felly yn cynnal cyllideb niwtral yn ariannol a sicrhau nad oedd yn Gronfa yn cadw arian dros ben y byddai modd ei fuddsoddi.

 

Roedd y gyllideb gysylltiedig ar gyfer eitemau nad ydynt yn rhai arian parod  wedi'i gosod ar £50m ar sail amcangyfrif yr enillion a'r colledion a gafwyd o ran portffolios rheolwyr unigol a gwerthiannau a phryniannau o fewn y portffolios eiddo.

 

Nododd y Pwyllgor er bod y gyllideb wedi cael ei hamcangyfrif ar sail ffactorau hysbys, gallai fod yn amodol ar nifer o amrywiadau yn ystod y flwyddyn er enghraifft marchnadoedd ariannol yn methu â sicrhau cynnydd o 5% drwy gydol y flwyddyn, nifer y staff sy'n gadael yn uwch na'r amcangyfrif a dyfarniad cyflog yn fwy na'r 2% a gafodd ei gyllidebu.

 

PENDERFYNWYD derbyn Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2018/19.

 

8.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 IONAWR 2018 pdf eicon PDF 57 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Nodwyd ar 31 Ionawr, 2018 roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £5.3m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

9.

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.

 

Noddodd y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.  Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016.

 

O dan y polisi, mae'n ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·         na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·         bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau cyflogai/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd adroddiad wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

10.

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gofrestr Risg, a oedd yn cynnwys yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried.

 

Roedd y gofrestr a oedd yn cael ei monitro a'i hadolygu yn rheolaidd yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

 

·         Manylion yr holl risgiau a nodwyd

·         Asesiad o'r effaith bosibl, tebygolrwydd a sgorio risg

·         Mesurau rheoli risg sydd ar waith

·         Y swyddog cyfrifol

·         Dyddiad targed (os yw'n berthnasol)

 

Nododd yr Aelodau fod rhai mân newidiadau wedi'u gwneud yn dilyn adolygiad o'r gofrestr a gafodd ei gynnal ers y cyfarfod diwethaf ym mis Medi 2017, er enghraifft,  cynnwys Partneriaeth Pensiwn Cymru. Byddai'r risgiau'n cael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw risgiau a nodwyd yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Gofrestr Risg.

 

 

11.

POLISI LLYWODRAETHU A DATGANIAD CYDYMFFURFIO 2018 pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar adolygiad a gynhaliwyd o Bolisi Llywodraethu Cronfeydd Pensiwn Dyfed a'r Datganiad Cydymffurfiaeth ar gyfer 2018 y gwnaed mân newidiadau iddynt i adlewyrchu'r newidiadau cyfansoddiadol gan gynnwys ei ailenwi yn Bwyllgor yn hytrach na Phanel.

 

Cyfeiriwyd at Aelodaeth y Pwyllgor, ac a dylid ymestyn y rhestr o swyddogion a enwir i gynnwys y Rheolwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Polisi Llywodraethu Cronfa Bensiwn Dyfed a Datganiad Cydymffurfiaeth 2018 yn amodol ar ymestyn yr aelodaeth i gynnwys y Rheolwr Pensiynau.

 

 

12.

DIWEDDARIAD Y GYFARWYDDEB MARCHNADOEDD MEWN OFFERYNNAU ARIANNOL (MIFID II) pdf eicon PDF 55 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad y Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol (MIFID II). 

 

Dangosodd y nodyn briffio wedi'i ddiweddaru fod ceisiadau, ers cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 21ain Medi 2017, wedi'u cyflwyno gan Gyngor Sir Caerfyrddin fel awdurdod gweinyddu ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed i uwchraddio i statws Cleient Proffesiynol at ddibenion MIFID II.

 

Nododd y Pwyllgor bod yr 'uwchraddio' wedi cael ei gwblhau gan wyth o'r sefydliadau rhestredig, roedd y ddau gais sy'n weddill mewn perthynas â Standard Life (drwy Schroders) a Russell Investment yn aros i gael eu cwblhau ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD nodi diweddariad y Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol (MIFID II).

 

 

13.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

14.

ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL RHAGFYR 2017

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 13 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol a oedd yn cynnwys gwybodaeth o ran perfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Medi 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ym mis Rhagfyr 2017.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau