Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith fod Cronfa Bensiwn Dyfed wedi ennill y gwobrau canlynol yng Ngwobrau Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol yn ddiweddar:

 

- Gwobr am Weinyddu Cynllun

- Cronfa'r Flwyddyn o blith y Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol

 

Cafodd y Cynllun ei roi ar y rhestr fer hefyd ar gyfer gwobr y Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol – Perfformiad y Flwyddyn o ran Buddsoddiad.

 

Llongyfarchodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yr holl staff sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Cronfa Bensiwn Dyfed a thynnodd sylw at y ffaith mai Cronfa Bensiwn Dyfed oedd yr unig un i ennill dwy wobr.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PANEL A GYNHALIWYD AR 9FED MAWRTH, 2017. pdf eicon PDF 225 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 9fed Mawrth, 2017.

 

4.

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIADAU ARIANNOL 2016-17AUDIT (ISA 260). pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.  Rhoddodd yr adroddiad sylw i'r materion a oedd yn codi o'r archwiliad ac yr oedd angen adrodd yn eu cylch o dan Safon Ryngwladol ar Archwilio (ISA) 260.

 

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31ain Mawrth 2017, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno.

 

Nodwyd mai bwriad yr Archwilydd Cyffredinol oedd cyflwyno adroddiad archwilio diamod ar y datganiad ariannol ac nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi a oedd yn dal heb eu cywiro.

 

PENDERFYNWYD nodi adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2016–17.

 

5.

DATGANIADAU ARIANNOL CRONFA BENSIWN DYFED 2016-17. pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried datganiadau Ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2016/17.

 

Yn ôl sefyllfa'r gronfa ar 31ain Mawrth 2017 roedd cyfanswm gwerth yr asedau yn £2,343m, sef cynnydd o £443m o gymharu â 31ain Mawrth 2016.

 

Caiff £2,335m o asedau eu rheoli gan ein Rheolwyr Buddsoddi ac £8m yw'r hyn sy'n weddill o'r asedau a'r rhwymedigaethau presennol oddi mewn i Gyngor Sir Caerfyrddin.

 

Dyma werth yr asedau a reolir gan ein Rheolwyr Buddsoddi:

 

BlackRock                         £1,593m

Schroders                         £   185m

Partners Group                 £    37m

Baillie Gifford                    £   271m

Columbia Threadneedle     £   249m

CYFANSWM                      £2,335 miliwn

 

Roedd y ffioedd ar gyfer Rheoli Buddsoddiadau yn 2016/17 yn dod i gyfanswm o £5.9m a oedd yn cyfateb i 0.25% o gyfanswm yr asedau a fuddsoddwyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn Datganiadau Ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed ar 31ain Mawrth 2017.

 

6.

MONITRO'R CYLLIDEB HYD AT 31AIN AWST 2017. pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed i'w ystyried; rhoddai hwn y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf mewn perthynas â 2017/18.

 

Mae'r sefyllfa bresennol ar 31ain Awst 2017 yn rhagweld tanwariant o £66.8m ar gyfer 2017/18.  Yn y ffigwr hwn roedd tanwariant o £1.0m yn gysylltiedig ag eitemau arian parod a oedd yn cael yr effaith fwyaf ar lif arian dyddiol y Gronfa.  Roedd y tanwariant sy'n weddill o £65.8m yn perthyn i eitemau nad ydynt yn rhai arian parod.

 

Eitemau Arian Parod

Ar sail gweithgareddau cyfredol hyd yma, amcangyfrifwyd y byddai'r Buddion Taladwy a Throsglwyddiadau yn cael eu tanwario gan £4.3m.  Dylanwadwyd yn bennaf ar hyn gan y ffaith na ellir rheoli cyfandaliadau a throsglwyddiadau o'r Gronfa, wrth eu natur. Cyfrannodd cyfraniadau ac incwm buddsoddi at £3.6 miliwn pellach o danwariant. Roedd hyn oherwydd bod angen incwm buddsoddi ychwanegol i gadw llif arian cadarnhaol er mwyn sicrhau bod £6.9 miliwn ar gael i dalu'r Rheolwyr Buddsoddi am yr ymrwymiadau buddsoddi. Arweiniodd y tanwariant o £7.9 miliwn, namyn £6.9 miliwn o daliad i'r Rheolwyr Buddsoddi, at amcangyfrif o £1.0m o danwariant am y flwyddyn.

 

Eitemau nad ydynt yn rhai arian parod

Roedd £62.8m o'r tanwariant o £65.8m yn deillio o gynnydd yng ngwerth yr enillion a gafwyd. Digwyddodd hyn yn sgil trosglwyddo ecwiti goddefol, ar wahân ym mis Ebrill 2017 fel rhan o waith caffael ar y cyd Partneriaeth Pensiwn Cymru.  Nid yw'r eitemau nad ydynt yn rhai arian parod yn cael effaith ar lif arian dyddiol y gronfa.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

7.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31AIN GORFFENNAF 2017. pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Ar 31ain Gorffennaf, 2017 cadwai Cyngor Sir Caerfyrddin £11.3 miliwn o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion uniongyrchol o ran llif arian i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

8.

ADRODDIAD TORRI AMODAU. pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.

 

Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.  Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016.

 

O dan y polisi, mae'n ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·       na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·       bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau cyflogai/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

9.

GWEITHREDU'R GYFARWYDDEB MARCHNADOEDD MEWN OFFERYNNAU ARIANNOL (MiFID II). pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Awdurdodau Lleol, o dan y drefn sydd ohoni yn y DU, yn cael eu categoreiddio'n awtomatig fel cleientiaid proffesiynol o ran busnes nad yw'n ymwneud â MiFID (Cyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offeryn Ariannol) ac fe'u categoreiddir fel cleientiaid proffesiynol o ran busnes MiFID os ydynt yn bodloni prawf Mentrau Mawrion MiFID.  Gall Awdurdodau Lleol nad ydynt yn bodloni'r prawf Mentrau Mawrion ddewis uwchraddio i statws dewisol cleient proffesiynol os ydynt yn bodloni meini prawf penodol o ran uwchraddio.

 

Ar ôl cyflwyno MiFID II (Cyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offeryn Ariannol 2014/15) ar 3 Ionawr 2018 ni fydd modd i gwmnïau gategoreiddio awdurdod neu fwrdeistref gyhoeddus leol nad yw'n rheoli dyledion cyhoeddus (awdurdod lleol) fel cleient proffesiynol neu fan buddsoddi cymwys, dewisol, yn ei hanfod, at ddibenion busnes MiFID neu fusnes nad yw'n ymwneud â MiFID. Yn hytrach, rhaid i bob awdurdod lleol gael ei ddiffinio fel cleientiaid adwerthu oni bai ei fod yn cael ei uwchraddio gan gwmnïau i statws dewisol cleientiaid proffesiynol.

 

Ar ben hynny, mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi arfer ei ddisgresiwn i fabwysiadu meini prawf euraid o ran uwchraddio at ddibenion y meini prawf meintiol o ran uwchraddio y mae'n rhaid i awdurdodau lleol sy'n gleientiaid eu bodloni er mwyn i gwmnïau eu hailddosbarthu fel cleient proffesiynol dewisol.

 

Gofynnwyd a fyddai'r FCA yn rhoi caniatâd dros dro pe na bai'r ail-ddiffinio wedi'i gwblhau erbyn 3 Ionawr, 2018. Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r FCA dros y 12 mis diwethaf a bod y gwaith paratoi yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth erbyn y dyddiad cau.

 

PENDERFYNWYD

 

9.1     derbyn yr adroddiad a nodi'r effaith bosibl y bydd bod yn gleient       adwerthu yn ei chael ar y strategaeth fuddsoddi, o 3 Ionawr 2018 ymlaen;

9.2     bod ceisiadau am statws dewisol cleientiaid proffesiynol yn cychwyn ar unwaith gyda'r holl sefydliadau perthnasol er mwyn sicrhau y gellir gweithredu strategaeth fuddsoddi effeithiol;

9.3    cydnabod a chytuno y bydd y mesurau diogelu sydd ar gael i gleientiaid proffesiynol yn cael eu colli os dewisir statws cleient proffesiynol, fel y nodir yn atodiad 1 yr adroddiad;

9.4     bod y cymeradwyaethau priodol at ddibenion cwblhau'r ceisiadau a phenderfynu ar sail briodol ar y cais yn cael eu dirprwyo i'r Swyddog Adran 151.

 

 

 

 

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim eitemau brys i'w hystyried.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau