Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau personol.

 

 

 

3.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R

MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH

EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4

O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I

DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS

BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN

PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER

HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y

CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

4.

TO CONSIDER AN APPEAL BY APPLICANT G.J.S.D. AGAINST A DECISION BY OFFICERS FOR THE NON-PROVISION OF FREE SCHOOL TRANSPORT.

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd. Er y byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

Bu'r Panel yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd o ran penderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod darparu cludiant ysgol am ddim i G.J.S.D. i ysgol ddynodedig agosaf yr AALl a oedd o fewn y pellter cerdded statudol, ac nad oedd felly'n cydymffurfio â'r meini prawf ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Bu'r Panel yn ystyried sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos. Gofynnodd y Panel hefyd am eglurhad ynghylch elfennau o Bolisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol mewn perthynas â'r broses o asesu'r llwybr cerdded posibl o gartref G.J.S.D i'r ysgol ddynodedig.

 

PENDERFYNWYD oherwydd yr amgylchiadau fod yr apêl a gyflwynwyd gan G.J.S.D. am gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol yn cael ei chadarnhau.

 

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau