Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C.J. Harris.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD LS YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd. Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, fodd bynnag, wrth ystyried pob dim, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, am fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd a'i deulu/a'i theulu.
Dywedodd y Cadeirydd fod yr Aelod Lleol, y Cynghorydd C.J.Harris, wedi ymddiheuro nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw. Roedd wedi gofyn a fyddai modd gohirio ystyried yr apêl tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle iddo ddod i'r cyfarfod.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried yr apêl a gyflwynwyd gan L.S tan y cyfarfod nesaf.
|