Agenda a Chofnodion

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Llun, 17eg Medi, 2018 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau personol.

 

 

3.

COFNODION

3.1

18 GORFFENNAF 2018 (2:15 P.M.) pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2018 (2.15pm) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

4.

18 GORFFENNAF 2018 (2.30 P.M.) pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2018 (2.30pm) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

5.

18 GORFFENNAF 2018 (2:45 P.M.) pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2018 (2.45pm) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

5.1

18 GORFFENNAF 2018 (3.00 P.M.) pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2018 (3.00pm) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

6.

16 AWST 2018 (10.00 A.M.) pdf eicon PDF 120 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Awst 2018 (10.00am) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

7.

16 AWST 2018 (10.15 A.M.) pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Awst 2018 (10.15am) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

8.

16 AWST 2018 (10:30 A.M.) pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Awst 2018 (10.30am) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

9.

16 AWST 2018 (10.45 A.M.) pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Awst 2018 (10.45am) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R

MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH

EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4

O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I

DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS

BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN

PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER

HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y

CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

11.

I YSTYRIED APÊL GAN YR YMGEISYDD C.M. YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD I BEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd. Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

Croesawodd y Cadeirydd swyddogion o wasanaethau'r Gyfraith, yr Amgylchedd ac Addysg a Gwasanaethau Plant i'r cyfarfod. Bu'r Pwyllgor yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd mewn perthynas â phenderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod darparu cludiant am ddim i C.M i ysgol ddynodedig agosaf yr Awdurdod Addysg Lleol a oedd o fewn y pellter cerdded statudol, ac nad oedd felly'n cydymffurfio â'r meini prawf ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Panel bod gwybodaeth newydd wedi dod i law mewn perthynas â'r apêl i roi cludiant ysgol am ddim i C.M. ers i Banel Adolygu Cam 1 wrthod ei ddarparu ac ers i agenda'r cyfarfod hwn gael ei gyhoeddi.

 

PENDERFYNWYD, o ystyried y wybodaeth newydd ac yn unol â Gweithdrefn yr Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, fod yr apêl i roi cludiant ysgol am ddim i C.M. yn cael ei hatgyfeirio'n ôl i Banel Adolygu Cam 1 er mwyn ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael.

 

 

11.1

18 GORFFENNAF 2018 (2:00 P.M.) pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2018 (2.00pm) gan eu bod yn gofnod cywir.