Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

 

Cofnodion:

UNANIMOUSLY RESOLVED pursuant to the Local Government Act 1972, as amended by the Local Government (Access to Information)(Variation)(Wales) Order 2007 that the following item was not for publication as the report contained exempt information as defined in Paragraph 12 of Part 4 of Schedule 12A to the Act.

 

4.

YSTYRIED APÊL GAN YR YMGEISYDD D.W. YN ERBYN Y PENDERFYNIAD GAN SWYDDOGION I BEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd. Er y byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, am fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd a'i deulu/a'i theulu.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd mewn perthynas â phenderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod darparu cludiant am ddim i D.W. i ysgol ddynodedig agosaf yr Awdurdod Addysg Lleol a oedd o fewn y pellter cerdded statudol, ac nad oedd felly'n cydymffurfio â'r meini prawf ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Ystyriodd y Panel sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos. Hefyd gofynnodd y Panel am eglurhad ynghylch elfennau o Bolisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, argaeledd bws talu a theithio, nad oedd ar gael at ddefnydd y cyhoedd, o gyfeiriad cartref D.W. i'r ysgol ddynodedig.

 

PENDERFYNWYD yn unol â Pholisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, wrthod yr apêl ar y sail bod gan D.W. yr opsiwn i deithio o gyfeiriad cyfredol y cartref i'r ysgol ddynodedig ar fws talu a theithio, nad oedd ar gael at ddefnydd y cyhoedd a bod gan D.W. yr opsiwn i gyflwyno cais am sedd wag o'r cyfeiriad newydd i'r ysgol ddynodedig.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau