Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PANEL  AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

4.

I YSTRIED APEL GAN YR YMGEISYDD CMMF YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO A DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd. Er y byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, am fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd a'i deulu/a'i theulu.

 

Croesawodd y Cadeirydd swyddogion o wasanaethau'r Gyfraith, yr Amgylchedd ac Addysg a Gwasanaethau Plant i'r cyfarfod.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd mewn perthynas â phenderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod darparu cludiant am ddim i C.M.M.F i'r ysgol gan nad yr ysgol honno oedd yr un agosaf nac ychwaith ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer cyfeiriad y cartref, ac nad oedd felly'n cydymffurfio â'r meini prawf ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Ystyriodd y Panel sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos. Hefyd gofynnodd y Panel am eglurhad ynghylch elfennau o Bolisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, argaeledd pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol ac argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus o gyfeiriad y cartref i'r ysgol ddewisedig. 

 

PENDERFYNWYD yn unol â Pholisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, wrthod yr apêl am nad oedd C.M.M.F yn mynychu'r ysgol agosaf nac ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer cyfeiriad y cartref, a hynny oherwydd dewis y rhieni.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau