Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD THE REPORT RELATING TO THE FOLLOWING ITEM IS NOT FOR PUBLICATION AS IT CONTAINS EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 12 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT, 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007. IF FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST THE PANEL RESOLVES PURSUANT TO THE ACT TO CONSIDER THIS ITEM IN PRIVATE, THE PUBLIC WILL BE EXCLUDED FROM THE MEETING DURING SUCH CONSIDERATION Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
YSTYRIED APÊL GAN YR YMGEISYDD CHM YN ERBYN Y PENDERFYNIAD GAN SWYDDOGION I BEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd. Er y byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, am fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd a'i deulu/a'i theulu.
Croesawodd y Cadeirydd swyddogion o wasanaethau'r Gyfraith, yr Amgylchedd ac Addysg a Gwasanaethau Plant i'r cyfarfod.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd mewn perthynas â phenderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod darparu cludiant am ddim i C.H.M i'r ysgol gan nad yr ysgol honno oedd yr un agosaf nac ychwaith ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer cyfeiriad y cartref, ac nad oedd felly'n cydymffurfio â'r meini prawf ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.
Ystyriodd y Panel sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos. Gofynnodd y Panel am eglurhad ynghylch lleoliad yr ysgol ddynodedig ac ysgol agosaf yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer cyfeiriad cartref C.H.M.
Ystyriodd y Panel sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos. Gofynnodd y Panel am eglurhad ynghylch elfennau o Bolisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol.
PENDERFYNWYDcadarnhau'r apêl oherwydd amgylchiadau eithriadol yr achos.
|