Agenda a chofnodion drafft

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Llun, 19eg Tachwedd, 2018 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION

3.1

17EG MEDI 2018 (2:00 P.M.); pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2018 (2.00y.p.) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

3.2

17EG MEDI 2018 (2:15 P.M.); pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2018 (2.15y.p.) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

3.3

17EG MEDI 2018 (2:30 P.M.); pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2018 (2.30y.p.) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

3.4

17EG MEDI 2018 (2:45 P.M.); pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2018 (2.45y.p.) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

3.5

17EG MEDI 2018 (3:00 P.M.). pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2018 (3.00y.p.) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y

CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

5.

I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD CM YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd. Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

Croesawodd y Cadeirydd swyddogion o wasanaethau'r Gyfraith, yr Amgylchedd ac Addysg a Gwasanaethau Plant i'r cyfarfod. Bu'r Pwyllgor yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd mewn perthynas â phenderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod darparu cludiant am ddim i C.M. i ysgol ddynodedig agosaf yr Awdurdod Addysg Lleol a oedd o fewn y pellter cerdded statudol, ac nad oedd felly'n cydymffurfio â'r meini prawf ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos a'r asesiad o'r llwybr cerdded posibl o gyfeiriad cartref C.M i'r ysgol ddynodedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr apêl a gyflwynwyd gan C.M am gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol yn cael ei chadarnhau.