Agenda a Chofnodion

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Iau, 16eg Awst, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

COFNODION

Llofnodi yn Cyfnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

3.1

12 MEHEFIN (10.00 A.M.); pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 12 Mehefin 2018 am 10:00 o'r gloch y bore gan eu bod yn gywir.

 

 

3.2

12 MEHEFIN 2018 (10.15 A.M.); pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 12 Mehefin 2018 am 10:15 o'r gloch y bore gan eu bod yn gywir.

 

 

3.3

12 MEHEFIN 2018 (10.45 A.M.); pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 12 Mehefin 2018 am 10:45 o'r gloch y bore gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

5.

I YSTYRIED APÊL GAN YR YMGEISYDD A.M.M YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD I BEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 7 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd. Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad ond, ar y cyfan, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, am fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd a'i deulu/a'i theulu.

 

Croesawodd y Cadeirydd swyddogion o wasanaethau'r Gyfraith, yr Amgylchedd ac Addysg a Gwasanaethau Plant i'r cyfarfod. Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau ysgrifenedig yr apelydd o ran gwrthod Cam 1 y Panel Adolygu i ganiatáu trafnidiaeth ysgol am ddim i A.M.M. i'r ysgol agosaf a dynodedig gan yr AALl a oedd wedi'i lleoli o fewn pellter cerdded statudol, ac felly nid oedd yn cydymffurfio â'r meini prawf a amlinellwyd ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos. Hefyd gofynnodd y Panel am eglurhad ynghylch elfennau o Bolisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref o'r Ysgol, argaeledd cludiant cyhoeddus o gyfeiriad cartref A.M.M. i'r ysgol ddynodedig a hefyd asesiad o'r llwybr cerdded i'r ysgol a gynhaliwyd yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD oherwydd yr amgylchiadau unigol dan sylw, bod yr apêl a gyflwynwyd gan A.M.M.ar gyfer cludiant rhad ac am ddim o'r cartref i'r ysgol yn cael ei chadarnhau.