Agenda a Chofnodion

Cyd-Gyfarfod o'r Pwyllgorau Craffu Addysg & Phlant a Gofal Cymdeithasol & Iechyd - Dydd Mercher, 25ain Ionawr, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Gadd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd G. Thomas yn gadeirydd y cyfarfod.

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.D. James, K. Madge a J. Owen yn ogystal â Mrs. E. Heyes (Rhiant-lywodraethwr Ardal Llanelli), Mrs. K. Hill (Rhiant-lywodraethwr Ardal Dinefwr) a Mrs J. Voyle Williams (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru).

3.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd A. James

 

 

Cofnod rhif 6

 

Mae'n defnyddio'r Gwasanaeth Gofalwyr ac mae ei ferch yn nyrs

 

 

Y Cynghorydd J. Lewis

 

 

Cofnod Rhif 6

 

Mae'n aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned

 

 

Y Cynghorydd E. Morgan

 

 

Cofnod rhif 6

 

 

Mae ei ferch yn nyrs staff

 

 

Y Cynghorydd D.W.H. Richards

 

 

Cofnod rhif 6

 

Mae'n defnyddio'r Gwasanaeth Gofalwyr

 

Y Cynghorydd B.A.L. Roberts

 

 

Rhif Cofnod 6

 

Mae ei merch yn ymwelydd iechyd ac mae'n aelod cyfetholedig o'r Cyngor Iechyd Cymuned.

 

 

Y Cynghorydd G.Thomas

 

Rhif Cofnod 6

 

 

Mae ei g?r yn gyrru ar gyfer Ceir Cefn Gwlad

 

 

Y Cynghorydd J. Williams

 

Rhif Cofnod 6

 

Mae'n ofalwr di-dâl i'w g?r

 

 

4.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

Y TREFNIADAU PARTNERIAETH SYDD WEDI'I SEFYDLU YNG NGORLLEWIN CYMRU O DAN RAN 9 O DDEDDF GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A LLESIANT (CYMRU) 2014 AC ASESIAD POBLOGAETH GORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch y trefniadau partneriaeth sydd wedi'u sefydlu yng Ngorllewin Cymru o dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac Asesiad Poblogaeth Gorllewin Cymru cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi golwg gyffredinol ar y trefniadau partneriaeth sydd wedi'u sefydlu yng Ngorllewin Cymru i fodloni gofynion Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a oedd yn cynnwys sefydlu Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol statudol. Nodwyd bod Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru ar waith ers Mehefin 2016 a bod y Cylch Gwaith i fod i gael ei adolygu ym mis Rhagfyr 2016. Fodd bynnag, eglurodd y swyddogion y cytunwyd i ohirio cynnal adolygiad llawn o'r Cylch Gwaith tan fis Mawrth 2017. Pwysleisiwyd bod blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol, gan gynnwys: comisiynu integredig, cronfeydd ar y cyd, ailfodelu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gwybodaeth, cyngor, cymorth/atal a gweithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am y gwaith a wnaed ar ran y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol i gwblhau Asesiad Poblogaeth cychwynnol. Roedd yr Asesiad wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd ac roedd yn rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y partneriaid statudol, cyn ei gyhoeddi erbyn 31 Mawrth 2017. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Asesiad yn nodi'r anghenion am ofal a chymorth yn y rhanbarth, y gofal a chymorth a ddarperir ar hyn o bryd a'r meysydd y mae angen eu gwella a'u datblygu. Pwysleisiwyd bod llawer o ddata wedi cael ei gasglu ar gyfer yr Asesiad a bod yr ymateb i'r arolygon yn galonogol. Un o brif negeseuon yr Asesiad oedd y twf disgwyliedig yn y galw am wasanaethau yn y degawdau nesaf, ac yn benodol ar gyfer pobl h?n. Eglurodd y swyddogion y byddai gofal cymunedol ataliol lefel isel yn rhan bwysig o roi sylw i'r angen hwn. Maes arall yr oedd angen rhoi sylw iddo oedd sicrhau bod y gwasanaethau ar gael yn Gymraeg. Roedd y Pwyllgor yn falch bod sylw wedi cael ei roi i bwysigrwydd datblygu defnydd y Gymraeg yn y sector iechyd a gofal. Eglurodd y swyddogion fod angen i'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol ddatblygu cynllun ardal, yn sgil cyhoeddi'r Asesiad Poblogaeth, i roi sylw i'r anghenion a nodwyd.

 

Nododd y Pwyllgor fod un Aelod Etholedig o bob Awdurdod Lleol ar y Bwrdd a holwyd a oedd diffyg democrataidd. Awgrymwyd y byddai'n ddefnyddiol cynyddu nifer yr Aelodau Etholedig ac iddynt fod yn gynrychioladol o'r gymuned. Dywedodd y swyddogion fod y gofynion statudol lleiaf yn cael eu bodloni ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd y Bwrdd o'r farn y gellid cymryd camau pellach o ran y mater hwn a byddai'n cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad o'r Cylch Gwaith ym mis Mawrth. Nodwyd bod gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu cynrychioli ar y Bwrdd. Pwysleisiodd y Pwyllgor yr opsiwn i gyfethol aelodau ar y Bwrdd ac roedd o'r farn y gallai hyn fod yn fuddiol i helpu'r rhain mewn meysydd a dangynrychiolir,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.