Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Gadd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd D Price yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr  L. Bowen, B. Jones, D. Jones, A. McPherson, S. Najmi a G. Thomas yn ogystal â Mrs. E. Heyes (Rhiant-lywodraethwr Ardal Llanelli), Mrs. K. Hill (Rhiant-lywodraethwr Ardal Dinefwr), Mrs A. Pickles (Rhiant-lywodraethwr Ardal Caerfyrddin) a Mrs J. Voyle Williams (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru).

3.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

 

Mrs. V. Kenny

 

 

Rhif y Cofnod. 6

 

Ei merch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Cynghorydd E Morgan

 

 

Rhif Cofnod 6

 

 

Mae ei ferch yn nyrs staff

 

 

Y Cynghorydd K. Madge

 

 

Rhif y Cofnod. 6

 

Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mae ei wraig yn gweithio yn Ysbyty Dyffryn Aman.

 

 

Cynghorydd B.A.L. Roberts

 

 

Rhif Cofnod 6

 

Mae ei merch yn ymwelydd iechyd

 

 

 

 

4.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH EFFEITHIOLRWYDD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2016/17 pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K Madge, E Morgan and B.A.L. Roberts a Mrs. V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch effeithiolrwydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2016/17. Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd. Roedd yr adroddiad yn cyd-fynd â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol, ac Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Nododd y swyddogion ei fod yn adroddiad cadarnhaol yn gyffredinol a bod yr adroddiad yn cynnwys dyfyniadau drwyddi draw i gynrychioli safbwyntiau'r defnyddwyr gwasanaethau a'r sefydliadau am y gwasanaethau a ddarperir. Nodwyd bod rhai meysydd i'w gwella ac efallai y byddai'r Pwyllgor am eu hystyried wrth bennu ei flaenraglenni gwaith priodol.

 

Nodwyd bod yr Adran wedi rheoli gwasanaethau o fewn y gyllideb dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cyflawnwyd hyn yn rhannol drwy ddarparu mwy o becynnau gofal cynaliadwy. Roedd hyn yn cynnwys peidio â gordanysgrifio cymorth oherwydd gallai hyn gael effaith niweidiol ar allu unigolyn. Roedd hefyd systemau gwell a mwy cadarn ar gyfer gwaith ataliol gyda theuluoedd yn seiliedig ar y model signs of safety. Tynnwyd sylw at y ffaith y cafwyd gwell perfformiad y llynedd o ran sefydlogrwydd lleoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a byddai gwelliant parhaus yn flaenoriaeth ar gyfer y gwasanaeth. Roedd y meysydd eraill i'w gwella yn cynnwys lleoliadau Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl mewn cymunedau.

 

Nododd y swyddogion fod yr Adran wedi bod yn datblygu ei dull o weithredu strategaeth Llywodraeth Cymru 'Mwy na Geiriau' i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y gwasanaeth yn anelu at fynd y tu hwnt i fodloni'r ddyletswydd statudol hon a chydnabuwyd y pwysigrwydd o gynnig dewis iaith, yn enwedig o ran gwasanaethau megis gofal dementia.

 

Nododd y swyddogion fod galw cynyddol am wasanaethau ar gyfer pobl 85 oed a h?n a byddai'r galw yn y maes hwn yn parhau i dyfu. Yn anochel byddai'n rhaid cael cynyddu'r gwariant ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion er mwyn ymdopi â'r galw hwn yn y blynyddoedd i ddod. Nododd yr Aelodau y dylai fod mwy o bwyslais ar y twf yn y galw ar gyfer y demograffig hyn yn yr adroddiad, oherwydd bod y twf yn cael effaith fawr ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu. Cytunodd y swyddogion y gallai'r adroddiad gynnwys rhagor o wybodaeth am broffilio demograffeg y boblogaeth. Nodwyd bod y Gwasanaeth Gofalwyr yn wasanaeth da a oedd yn cynorthwyo i reoli'r galw gan alluogi pobl i aros yn y gymuned. Cydnabuwyd bod angen cefnogaeth ar ofalwyr a nodwyd y byddai adolygiadau o'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau