Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Cothi, - Canolfan Halliwell Centre, University of Wales Trinity St David, Carmarthen. SA31 3EP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Emlyn Dole (Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd Rob Stewart (Cyngor Dinas Abertawe), y Cynghorydd Rosemarie Harris (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd David Simpson (Cyngor Sir Penfro), Wendy Walters (Cyngor Sir Caerfyrddin), Ian Westley (Cyngor Sir Penfro), Andi Morgan (Rheolwr-gyfarwyddwr dros dro ERW) a Ruth Conway (Llywodraeth Cymru).

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

COFNODION - 15 GORFFENNAF 2019 pdf eicon PDF 375 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2019 gan eu bod yn gywir.

 

4.

TREFNIADAU LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi strwythur llywodraethu diwygiedig arfaethedig ar gyfer ERW yn dilyn rhoi ar waith y rhaglen adolygu a diwygio, a fyddai, pe bai'n cael ei chymeradwyo, yn galluogi'r swyddog monitro i ddarparu adroddiad pellach yn nodi unrhyw oblygiadau cyfreithiol a newidiadau sydd eu hangen ar gyfer Cytundeb Cyfreithiol ERW. Nodwyd y byddai angen cael barn y gwahanol Benaethiaid Cyfreithiol ar y trefniadau arfaethedig.

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gynigion a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Julie James AC, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru i sefydlu dull newydd o weithio ar y cyd sef 'cyd-bwyllgor corfforaethol' gyda'r nod o hwyluso cydweithio ymhlith awdurdodau lleol mewn meysydd penodol, cwestiynodd y cadeirydd a allai hyn effeithio ar strwythur ERW.

Mynegodd y Prif Weithredwr Arweiniol gefnogaeth i'r cynigion drafft mewn egwyddor, yn amodol ar fewnbwn cyfreithiol.

 

PENDERFYNWYD gohirio penderfyniad ffurfiol ar y trefniadau llywodraethu yn y dyfodol hyd nes i’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau gael ei gyhoeddi.

 

5.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau busnes eraill y dylid eu hystyried fel mater o frys.

 

6.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR PWYLLGOR AR Y CYD ERW FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFFAU 13 A 15 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

CYTUNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraffau 13 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

7.

STAFFIO/RECRIWTIO RHEOLWR GYFARWYDDWR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod Rhif 6 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat, gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn ymwneud ag ymgynghoriadau neu drafodaethau, neu unrhyw ddarpar ymgynghoriadau neu drafodaethau o ran unrhyw fater cysylltiadau llafur oedd yn codi rhwng yr awdurdod a gweithwyr yr awdurdod.

 

Roedd adroddiad wedi cael ei gylchredeg i'r Cyd-bwyllgor a oedd yn amlinellu cynigion ar gyfer recriwtio a dethol Rheolwr-gyfarwyddwr ERW. Fodd bynnag, wrth ystyried y gyllideb a'r ansicrwydd ynghylch 'ôl troed' ERW yn y dyfodol, a'r angen am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ar y mater o Gyd-bwyllgorau Corfforaethol aChraffu ar y cyd, roedd yr aelodau o'r farn na allent gadarnhau'r broses benodi hyd nes y ceir darlun cliriach o'r ffordd ymlaen. Mynegwyd pryder hefyd nad oedd pob parti wedi cael y wybodaeth lawn ynghylch y cytundeb a gafwyd gyda deiliad blaenorol y swydd.

 

CYTUNWYD

7.1 y dylid gohirio ystyried yr adroddiad a’i ystyried yn ystod cyfarfod ychwanegol o'r Cyd-bwyllgor i'w gynnal ddydd Llun 9 Rhagfyr 2019 am 10.00am a bod manylion y cytundeb a gafwyd gyda'r cyn Reolwr-gyfarwyddwr yn cael eu cylchredeg hefyd;

7.2  cynnwys adroddiad ar y gyllideb ar agenda y cyfarfod uchod.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau