Agenda a Chofnodion

from 05/02/2021, Pwyllgor ar y Cyd ERW (wedi'i disodli gan Y Partneriaeth) - Dydd Mawrth, 9fed Chwefror, 2021 2.00 yp, WEDI SYMUD

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann 

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 69053407# (For call charges contact your service provider). 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Wendy Walters (Cyngor Sir Caerfyrddin), Gareth Morgans (Cyngor Sir Caerfyrddin) a Joanne Hendy (Cyngor Sir Penfro – Archwilio ERW).</AI1>

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.</AI2>

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 456 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor ERW a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2020 gan eu bod yn gywir.

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion yn y cyfarfod.

5.

GOHEBIAETH pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor yr ohebiaeth ganlynol:

·         Llythyr gan Estyn, dyddiedig Ionawr 2021, yn ymwneud â gwaith ERW rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020;

·         Llythyr gan Gadeirydd y Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW at Gadeirydd y Cyd-bwyllgor yn ystyried sylwadau yn dilyn cyfarfod diwethaf y Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW ar 26 Tachwedd 2020;

·         Ymateb drafft gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor i'r llythyr uchod gan Gadeirydd y Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW.

 

PENDERFYNWYD

5.1.    Derbyn yr ohebiaeth;

5.2.    Cymeradwyo llythyr ymateb drafft y Cadeirydd mewn ymateb i'r llythyr gan Gadeirydd y Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW.</AI5>

6.

DIWEDDARIAD ERW pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad diweddaru ynghylch y meysydd allweddol canlynol:

 

·              Grwpiau Strategaeth ERW

·              Adroddiad Thematig ESTYN

·              Cynnig Dysgu Proffesiynol ERW

·              Cwricwlwm i Gymru

·              Cymorth Cwricwlwm Uwchradd

·              Dysgu ac Ymchwil Proffesiynol

·              Tegwch a Llesiant

·              Arweinyddiaeth

·              Sgiliau Digidol

·              Cymraeg

 

Gwnaed sawl sylw yn diolch i ERW am ei waith gwerthfawr yn cefnogi ysgolion yn ystod y pandemig.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai lefel yr ymgysylltu ag adnoddau byw ac adnoddau ar gais yn cael ei monitro.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad diweddaru.</AI6>

7.

DATBLYGIADAU CONSORTIWM pdf eicon PDF 291 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad cynnydd ar Ddatblygiadau Consortiwm.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod Cyfarwyddwyr wedi cytuno ar ddatganiad cenhadaeth drafft gan gynnwys egwyddorion allweddol, nodau craidd a gwerthoedd ar gyfer model newydd ERW fel y nodir yn yr adroddiad. Roedd swyddogion cyfreithiol yn llunio cytundeb cyfreithiol drafft ar gyfer trefniadau yn y dyfodol.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Arweiniol wedi gofyn i bob Awdurdod Lleol gadarnhau pa wasanaethau fyddai eu hangen ar lefel leol, a oedd yr Awdurdod Lleol yn bwriadu ymuno â'r Consortiwm newydd a pha wasanaethau a gomisiynwyd fyddai eu hangen pe na bai’n dymuno ymuno â'r Consortiwm newydd. Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor nad oedd ymateb gan Gastell-nedd Port Talbot wedi dod i law eto. Ar ôl derbyn hwn, gellid datblygu'r cytundeb cyfreithiol drafft a llunio strwythur costau ar gyfer y model newydd. Roedd cyngor cyfreithiol annibynnol yn cael ei geisio gan arbenigwyr caffael cyhoeddus mewn perthynas â chomisiynu a'r goblygiadau posibl o ran cyfrifoldebau statudol ar gyfer gwelliannau i ysgolion.

 

Dywedwyd na fyddai Cyngor Sir Ceredigion yn ymuno â'r model newydd ond ei fod yn bwriadu comisiynu gwasanaethau yn y dyfodol. Byddai Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Abertawe yn dad-wneud dros dro eu hysbysiad ynghylch gadael y Consortiwm er mwyn hwyluso ymestyn y dyddiad gweithredu newydd tan 31 Awst 2021.

 

Gwnaed sawl sylw yn croesawu ymestyn y dyddiad gweithredu tan 31 Awst 2021 i leihau risgiau ariannol a darparu sefydlogrwydd yn ystod y pandemig.

 

PENDERFYNWYD y dylid ymestyn y dyddiad ar gyfer diddymu / terfynu ERW a gweithredu model Consortiwm newydd tan 31 Awst 2021. </AI7>

8.

DIWEDDARIAD AR GYLLIDEB 2020-21 pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar Ddiweddariad Ariannol ERW 2020-21 fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020, yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

·         Cyllideb y Tîm Canolog

·         Cytundebau Lefel Gwasanaeth

·         Cyfraniadau Awdurdodau Lleol

·         Dyraniadau Grant

·         Grant Datblygu Disgyblion

·         Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol

·         Grantiau -  Blaenoriaethau Cynllun Busnes

·         Risgiau

·         Cronfeydd wrth gefn

·         Argymhellion

 

Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor nad oedd y Cytundebau Lefel Gwasanaeth wedi newid a bod holl gyfraniadau Awdurdodau Lleol ar gyfer 2020/21 wedi dod i law.

 

Nid oedd dyraniadau grant wedi newid fawr ac eithrio llythyr amrywio a oedd yn darparu swm ychwanegol o £35k ar gyfer Cefnogi Dysgwyr Mabwysiedig a Chyllid y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (PYPC). Yr alldro a ragwelir yw tanwariant o £229k, yn bennaf oherwydd swyddi gwag a ffyrdd newydd o weithio yn ystod y pandemig.

 

Roedd £10k wedi'i ychwanegu at y gyllideb i dalu costau cyfreithiol y newidiadau arfaethedig i ERW, yn seiliedig ar amcangyfrif a roddwyd i'r Cyfarwyddwr Addysg Arweiniol. Cafodd y gost hon ei chyllido drwy arbedion a wnaed mewn rhannau eraill o'r gyllideb cyllid craidd.

 

O ran Gwariant wedi'i Gyllidebu ar gyfer Gwella Ysgolion, roedd grwpiau strategaeth ar y trywydd iawn i wario'r gyllideb oedd yn weddill yn unol â blaenoriaethau y cytunwyd arnynt. Roedd risgiau yn parhau i gael eu nodi o ran dibyniaeth ar grantiau, ôl troed ERW yn y dyfodol a chronfeydd wrth gefn sy'n lleihau.

 

PENDERFYNWYD

 8.1.       Nodi sefyllfa ariannol ERW wedi'i diweddaru fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020;

 8.2.       Cymeradwyo'r diwygiadau i gyllideb y Tîm Canolog ar gyfer 2020-21, sef y costau cyfreithiol ar gyfer y newidiadau a ragwelir i ERW.</AI8>

9.

COFRESTR RISGIAU ERW pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor y Gofrestr Risg yn manylu ar y prif risgiau busnes strategol i amcanion ERW. Dywedwyd bod y risgiau mewn perthynas â chymwysterau 2021 wedi'u diweddaru i adlewyrchu cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD

9.1.      Nodi'r newid yn y proffil risg;

9.2.      Derbyn y gofrestr risg.

10.

CYNLLUN GWAITH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar y Rhaglen Waith Archwilio Mewnol ar gyfer 2020/21.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y Rhaglen wedi'i pharatoi yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus a'i bod wedi'i datblygu mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr Arweiniol, Cyfarwyddwr Arweiniol, Swyddog Adran 151, Swyddog Monitro a Phrif Swyddogion Dros Dro.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhaglen Archwilio Mewnol ar gyfer 2020/21.</AI10>

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.