Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann 

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried enwebiadau a ddaeth i law ar gyfer penodiadau i rôl y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd

 

PENDERFYNWYD:

1.1

bod y Cynghorydd Emlyn Dole (Cyngor Sir Caerfyrddin) yn cael ei benodi'n Gadeirydd Cyd-bwyllgor ERW

1.2

bod y Cynghorydd Rosemarie Harris (Cyngor Sir Powys) yn cael ei phenodi'n Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor ERW

 

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr Yan James (Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ERW)

 

3.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

4.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9 RHAGFYR 2019. pdf eicon PDF 150 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019 gan eu bod yn gofnod cywir.

 

5.

MATERION YN CODI O'R COFNODION.

Cofnodion:

Codwyd y materion canlynol:

 

Cofnod Rhif 4 – Materion yn Codi - Nodwyd bod yr eitem ar drefniadau llywodraethu ERW wedi'i hychwanegu at yr agenda o dan eitem rhif 15 er gwybodaeth yn unig.

 

Cofnod Rhif 8 – Y Gofrestr Risg – Nodwyd nad oedd bwriad ar hyn o bryd i benodi Swyddog Diogelu Data ac y byddai trefniadau ar gyfer yr agwedd honno ar waith ERW yn rhan o drafodaeth ehangach ynghylch Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn agenda ôl-troed ERW

 

Cofnod 13 – Adroddiad Arweinwyr Dysgu – Nodwyd bod yr argymhellion a godwyd yn yr adroddiad wedi cael eu cynnwys yn Adroddiad yr Archwiliad Mewnol (eitem 18 ar yr agenda er gwybodaeth)

 

Cofnod 15 – Model Ariannol ac Ariannu ERW ar gyfer 2021-21 – Nodwyd bod pob un o bedwar argymhelliad yr adroddiad wedi'u cynnwys yn yr agenda ar gyfer y cyfarfod a bod y rolau y cyfeiriwyd atynt ym mhwyntiau 'b-e' o dan argymhelliad 15.4 wedi'u dileu. Gofynnwyd i'r Cyd-bwyllgor gadarnhau ei gefnogaeth am secondiad parhaus Pennaeth Diwygio'r Cwricwlwm ac Arloesedd ar sail amser llawn hyd at 31 Mawrth 2021, gan fod y rôl yn amhrisiadwy i ddarpariaeth gwasanaeth ac yn rhoi lefel uwch o ddiogelwch a chysondeb i'r tîm a'r secondai.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyd-bwyllgor yn cadarnhau ei gefnogaeth am secondiad parhaus Pennaeth Diwygio'r Cwricwlwm ac Arloesedd ar sail amser llawn hyd at 31 Mawrth 2021

 

Cofnod 17 – Penodi Rheolwr-gyfarwyddwr ERW – Nodwyd, yn unol â'r adroddiad, y cynhaliwyd ymarfer recriwtio aflwyddiannus yn ystod tymor y gwanwyn 2020 ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor o dan eitem agenda rhif 8.

 

6.

GOHEBIAETH. pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar ohebiaeth a dderbyniwyd gan ERW ynghyd â'r ymatebion a gyflwynwyd iddi gan y Cadeirydd Dros Dro, (lle y bo'n briodol) fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr ohebiaeth a nodi'r ymatebion iddi.

 

7.

APWYNTIO'R CYFARWYDDWR ARWEINIOL. pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor y byddai angen penodi Cyfarwyddwr Arweiniol newydd ar ôl i'w Gyfarwyddwr Arweiniol blaenorol adael ei swydd yng Nghyngor Sir Penfro.

 

PENDERFYNWYD penodi Mr Gareth Morgans (Cyngor Sir Caerfyrddin) yn Gyfarwyddwr Arweiniol ERW.

 

8.

PRIF SWYDDOG DROS-DRO ERW. pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Arweiniol wybod i'r Cyd-bwyllgor fod penderfyniad wedi'i wneud i beidio â phenodi swyddog unigol i'r swydd yn dilyn gweithdrefn recriwtio a dethol Prif Swyddog Dros Dro ERW, ond i'w gwneud yn rôl a rennir ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Medi 2020 a 31 Mawrth 2021. Y ddau ymgeisydd llwyddiannus a benodwyd i'r swyddi hynny oedd Mr Greg Morgan a Mr Ian Altman. Gofynnwyd i'r Cyd-bwyllgor gymeradwyo'r penodiadau

 

Dywedodd ymhellach, pe bai'r penodiadau'n cael eu cymeradwyo, y gallai fod angen gwneud trefniadau i sicrhau bod lefelau priodol o adnoddau staff yn cael eu darparu fel ôl-lenwi i gefnogi'r model diwygiedig yn effeithiol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r camau gweithredu a gymerwyd i ddiwygio swydd Prif Swyddog Dros Dro ERW i swydd a rennir a phenodiadau Mr Greg Morgan a Mr Ian Altman i'r swydd honno ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Medi 2020 a 31 Mawrth 2021.

 

9.

DIWEDDARIAD CYLLID 2019-20. pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 hyd at 31 Rhagfyr 2019, a nododd fod gwaith yn cael ei wneud i gwblhau'r adroddiad hyd at ddiwedd y flwyddyn. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth fanwl benodol mewn perthynas â'r canlynol:

 

·         Cyllideb 2019-120 y Tîm Canolog

·         Cytundebau Lefel Gwasanaeth

·         Dyraniadau Grant 2019-20

·         Grantiau 2019-20, (gan gynnwys dadansoddiad yn Atodiad A o'r cyllid ar gyfer strwythur staffio newydd ERW (grant a chyllid craidd)

·         Risgiau

·         Cronfeydd wrth gefn

 

Tynnwyd sylw'r Cyd-bwyllgor at dudalen 3 yr adroddiad a oedd yn cyfeirio at y £59k ychwanegol mewn costau dileu swyddi o ganlyniad i wasanaeth parhaus oedd wedi'i hepgor o'r cyfrifiad gwreiddiol o £19k, a gymeradwywyd ar 9 Rhagfyr 2019, gan gynyddu'r gost gyffredinol i £78k.  Dywedwyd, er nad oedd y gost ychwanegol wedi'i chynnwys yng nghanlyniad rhagamcanol Tîm Canolog ar gyfer 2019-20 ac na ellid ei hariannu o'r grant oherwydd ei thelerau ac amodau penodol, ei bod wedi'i hariannu a'i bod yn cael ei thalu o'r cronfeydd wrth gefn erbyn hyn.

 

Tynnwyd sylw'r Cyd-bwyllgor hefyd at ddatblygu chwe gr?p strategol (321) ERW a throsglwyddo £32.5 miliwn iddo a oedd angen ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD 

9.1

Nodi sefyllfa ariannol ERW wedi'i diweddaru fel yr oedd ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2019-20 a'r sefyllfa alldro ddrafft ar gyfer 2019-20

9.2

Cymeradwyo trosglwyddo arian i'r chwe gr?p strategol (321)

9.3

Nodi bod y £59k ychwanegol mewn costau statudol o ganlyniad i wasanaeth parhaus swydd yr Arweinydd Cymorth Uwchradd wedi'i ariannu ac na fyddai'n cael ei dalu o'r cronfeydd wrth gefn erbyn hyn

 

 

10.

CYLLIDEB AMLINELLOL 2020-21. pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor y Gyllideb Amlinellol ar gyfer y cyfnod 2020-2021 i'w hystyried, sy'n cwmpasu'r agweddau canlynol:

 

·         Rhagdybiaethau

·         Cynigion Cyllideb Cymeradwy 2020-21 (Cyfarfod y Cyd-gyfarfod a gynhaliwyd ar 9Rhagfyr 2019)

·         Cyllideb 2020-21 y Tîm Canolog

·         Dyraniadau Grant Dangosol 2020-21

·         Risgiau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor, er bod y gyllideb wedi cael ei pharatoi ar sail y cyfraniadau disgwyliedig gan bum awdurdod a'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion 19, fod elfen o ansicrwydd ynghylch a fyddai Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo taliad hyblygrwydd ychwanegol o £500k i ERW y gellid ei ddefnyddio i ariannu'r golled o £91k o gyfraniad Castell-nedd Port Talbot, yn dilyn penderfyniad yr awdurdod hwnnw i adael ERW. Pe na bai'r cyllid hwnnw ar gael, byddai angen i'r Cyd-bwyllgor benderfynu sut y dylid talu am y diffyg. Gallai hynny fod naill ai drwy gyllid Cyngor y Gweithlu Addysg sydd heb ei defnyddio ac sydd wedi'i chario ymlaen, neu drwy gynyddu cyfraniad y pum awdurdod arall.

 

Tynnwyd sylw'r Cyd-bwyllgor hefyd at yr elfen o'r gyllideb sy'n ymwneud â'r gostyngiad a gymeradwywyd mewn costau craidd o £54k o 1 Ebrill 2020 gyda'r rhagdybiaeth y byddai pob awdurdod yn rhoi Cytundeb Lefel Gwasanaeth cyfredol wedi'i gostio ar sail cost lai neu dim cost. Fodd bynnag, gan nad oedd yr un o awdurdodau lleol ERW wedi ymateb i'r ymagwedd honno, ac os na chytunir i leihau costau craidd, byddai angen £54k o gyllid ychwanegol ar Gyllideb y Tîm Canolog. Felly byddai angen i'r Pwyllgor ystyried ffynhonnell y cyllid hwnnw, y gellid ei chael o gronfeydd CGA sydd heb eu defnyddio ac sydd wedi'u cario ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

10.1

Bod y golled o £91,785 o gyfraniad Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2020-21 yn cael ei hariannu o gyllid CGA sydd heb ei defnyddio ac sydd wedi'i chario ymlaen

10.2

Nad yw'r arbedion o £54,000 ar Gytundebau Lefel Gwasanaeth ar gyfer 2020-21 yn cael eu gorfodi a bod y gost honno'n cael ei thalu o gyllid CGA sydd heb ei defnyddio ac sydd wedi'i chario ymlaen

10.3

Bod Cyllideb y Tîm Canolog a chyfraniadau o £480,355 ar gyfer 2020-21 yn seiliedig ar bum awdurdod a Chyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion 19 yn cael eu cymeradwyo

10.4

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Swyddog Adran 151 i ddiwygio Cyllideb y Tîm Canolog a chyfraniadau awdurdod pe bai Llywodraeth Cymru yn cadarnhau unrhyw hyblygrwydd trosiannol ychwanegol o fewn Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol ar gyfer 2020-21

10.5

Bod dyraniadau dangosol Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol ar gyfer 2020-21 yn cael eu nodi

10.6

Bod y risgiau a amlygir yn yr adroddiad yn cael eu nodi.

 

 

11.

DIWEDDARIAD RHG DROS DRO. pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad diweddaru y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn tynnu sylw at weithgareddau yn dilyn ei gyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019 ynghyd ag adroddiad gweithgarwch yn sgil Dechrau Covid-19 ar gyfer y cyfnod rhwng 20 Mawrth a 22 Mehefin 2020.

 

Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:-

 

·         Adran 1 – Strwythur Tîm ERW

·         Adran 2 – Gweithgarwch Tîm ERW

·         Adran 3 – Cynllunio Busnes a Darpariaeth Gwasanaeth ERW

·         Adran 4 – Atodiadau

·         Adran 5 – Diweddariad ynghylch Strwythur Tîm ERW (Mehefin 2020)

·         Adran 6 – Gweithgareddau a Chyfraniadau Covid-19 (20/3 – 22/6.20)

·         Adran 7 – Atodiadau Diwygiedig (22/6/20)

·         Adran 8 – Adroddiad Gweithgarwch Covid 19 ERW

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

12.

CYTUNO I DDARPARU GWASANAETHAU A CHYLLID Y CYTUNWYD ARNYNT I YSGOLION CASTELL-NEDD PORT TALBOT YN YSTOD 2020-21, AC I DDIWYGIO'R CYTUNDEB CYFREITHIOL DROS DRO ER MWYN ADLEWYRCHU'R NEWIDIADAU HYN pdf eicon PDF 158 KB

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ar ddarparu gwasanaethau a chyllid y cytunwyd arnynt i ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn ystod 2020/21 ac ar y diwygiad dros dro i Gytundeb Cyfreithiol ERW i weithredu'r newidiadau

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Arweiniol i'r Pwyllgor y trafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth Cymru a Chastell-nedd Port Talbot ynghylch y ddarpariaeth a'r mynediad at raglenni cenedlaethol gan ERW i'r awdurdod hwnnw ar gyfer 2020/21 yn dilyn ei benderfyniad i adael ERW. Dywedodd pe bai'r Pwyllgor yn cytuno i ddarparu'r gwasanaethau hynny, y byddai angen iddo hefyd ddiwygio ei gytundeb cyfreithiol rhwng ei awdurdodau cyfansoddol yn unol â hynny. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, pe bai'n cytuno i'r diwygiad hwnnw mewn egwyddor, y byddai angen ei gyfeirio at bob un o'r awdurdodau i gael eu cymeradwyaeth unigol.

 

Cafwyd nifer o gyfeiriadau at y gost o ddarparu gwasanaethau i Gastell-nedd Port Talbot ac a fyddai hynny'n gyfrifoldeb i ERW. Cadarnhawyd pe byddai ERW yn cytuno i ddarparu'r gwasanaethau hynny, y byddai tâl gweinyddol ynghlwm wrtho ac y byddai hynny'n cael ei dalu drwy leihau'r arian i Gastell-nedd Port Talbot ac na fyddai'r costau yn gyfrifoldeb i ERW

 

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, er mai'r awdurdod hwnnw fyddai'n gyfrifol am ddiwygio'r cytundeb cyfreithiol, y byddai modd adennill y costau mewn cysylltiad â hyn.

 

PENDERFYNWYD

12.1

Bod ERW yn darparu gwasanaethau a chyllid y cytunwyd arnynt i ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn ystod 2020/21, fel y nodir yn yr adroddiad, yn amodol ar sicrwydd na fydd unrhyw gostau'n gyfrifoldeb i ERW (ac eithrio costau cyfreithiol wrth ddiwygio'r cytundeb cyfreithiol).

12.2

Bod nodau ac amcanion craidd ERW (fel y'u nodir yn y Cytundeb Cyfreithiol) yn cael eu hymestyn dros dro i gynnwys darparu gwasanaethau a chyllid i ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn ystod 2020/21

12.3

Wrth ymgynghori â'r Bwrdd Gweithredol, bod y broses o adolygu/amrywio dros dro Gytundeb Cyfreithiol ERW i adlewyrchu'r newidiadau uchod yn cael ei chymeradwyo mewn egwyddor, yn amodol ar gymeradwyaeth pob un o'i awdurdodau lleol

 

 

13.

MAE'R EITEMAU CANLYNOL AM WYBODAETH YN UNIG (trafodaethau pellach i ddilyn yn ystod Tymor yr Hydref)

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod eitem rhif 14-18 wedi'u cynnwys ar yr agenda er gwybodaeth ac y byddai trafodaeth bellach ar y cynnwys yn cael ei chynnal yn ystod ei gyfarfod yn yr Hydref. Roedd y penderfyniad hwnnw wedi'i wneud oherwydd yr her o ymdrin â nifer fawr o faterion mewn 'amgylchedd rhithwir'. Fodd bynnag, yn amodol ar anfon yr agenda ar gyfer y cyfarfod, byddai Eitem 18 ar yr agenda bellach yn cael ei hystyried.

 

NODWYD

 

14.

ÔL-TROED ERW. pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor yr adroddiad uchod yn amlinellu ystod o opsiynau a chynigion er mwyn ceisio cael ôl troed y cytunir arno i ERW ar gyfer y dyfodol. Dywedwyd, o ystyried dyfnder a manylder y mater hwn, y byddai'r gwaith yn cael ei ddatblygu drwy gyfres o 'gyfarfodydd ôl troed' penodol o fewn rhestr o 'gerrig milltir' i sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau'n llwyddiannus.

 

Dywedwyd bod Cyngor Sir Penfro bellach wedi dangos ffafriaeth i Ôl-troed Bargen Ddinesig Abertawe a'i fod yn gweithio gyda Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn bennaf.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Cadeirydd wedi gofyn i'r Prif Weithredwr Arweiniol a'r Cyfarwyddwr Arweiniol lunio llinell amser prosiect ar gyfer y gwaith ac y byddai'r Cyfarwyddwyr yn cyfarfod dros yr haf i fwrw ymlaen â'r gwaith.

 

NODWYD

 

15.

TREFNIADAU LLYWODRAETHU. pdf eicon PDF 370 KB

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor yr adroddiad ar drefniadau llywodraethu a nododd, er bod y papur wedi cael ei gyflwyno a'i ohirio yn flaenorol, bod ei gynnwys yn ganolog i'r 'Drafodaeth Ôl Troed' ac felly cynigiwyd y dylid bwrw ymlaen ag ef o dan y 'cyfarfodydd ôl troed’

 

NODWYD

 

16.

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor yr adroddiad ar y Gofrestr Risg a oedd yn eitem sefydlog ar yr agenda, a rhoddwyd gwybod bod angen diwygio ei gynnwys oherwydd y canlynol:

 

·         goblygiadau Covid-19 ar waith ERW

·         Castell-nedd Port Talbot yn gadael

·         Canlyniadau Archwiliad Mewnol ERW

·         Goblygiadau'r drafodaeth 'ôl troed' barhaus

 

Dywedwyd bod bwriad i adnewyddu cynnwys y cofrestrau a chyflwyno cofrestr risg ddiwygiedig yng nghyfarfod yr Hydref.

 

NODWYD

 

17.

PROTOCOL AM DROSOLWG Y GRWP CRAFFU DROS PENDERFYNIADAU'R CYDBWYLLGOR. pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor yr adroddiad uchod a luniwyd mewn ymateb i gais Gr?p Cynghorwyr Craffu ERW i roi ' protocol cyn penderfynu' ar waith, fel y nodir yn yr adroddiad. Nodwyd, o ystyried effaith Covid-19 ar yr holl arferion gweithio a thrafodaethau ôl troed parhaus ERW, y byddai'r adroddiad yn cael ei ohirio am y tro.

 

NODWYD

 

18.

ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL CONSORTIWM ERW 2019-20. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor Adroddiad Archwiliad Mewnol 2019-20 ERW a oedd, er ei fod yn derbyn barn sicrwydd cyfyngedig, wedi rhoi crynodeb o wendidau allweddol, fel y nodir yng nghrynodeb gweithredol yr adroddiad. Dywedwyd bod Uwch Swyddogion ERW wedi cydweithio ar ymatebion rheolwyr i'r archwiliad ac y byddai gwaith bellach yn cael ei wneud, gan roi diweddariad yng nghyfarfod Hydref y Pwyllgor. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at yr adroddiad a dywedodd fod Atodlen Dirprwyo ddiwygiedig wedi'i llunio yn unol ag argymhelliad LOL R2 yn adroddiad yr archwiliad, fel y nodir yn Atodiad 2, a bod angen cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor ar gyfer yr Atodlen ddiwygiedig

 

PENDERFYNWYD

18.1

Nodi y byddai adroddiad yr Archwiliad Mewnol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Hydref y Pwyllgor

18.2

Bod y Cynllun Dirprwyo Diwygiedig a nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

 

19.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

20.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR PWYLLGOR AR Y CYD ERW FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFFAU 12, 13,14 A 15 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

CYTUNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraffau 12,13, 14 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

21.

ADRODDIAD AD.

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 20 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol, sensitif a chyfrinachol yn ymwneud â gweithiwr.

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ar ddyfarnu taliad dileu swyddi statudol.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar y taliad dileu swyddi statudol.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau