Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Ellen ap Gwynne (Cyngor Sir Ceredigion), y Cynghorydd Rosemarie Harris (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd Rob Jones (Cyngor Castell-nedd Port Talbot), Caroline Turner (Cyngor Sir Powys), Wendy Walters (Cyngor Sir Caerfyrddin), Jo Hendy (Cyngor Sir Penfro) a Dr. Chris Llewelyn (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru).

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

COFNODION - 8 TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 225 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 8 Tachwedd 2019 gan eu bod yn gywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION

Cofnodion:

Eitem 4 – Trefniadau Llywodraethu - Nodwyd bod y ddogfen Trefniadau Llywodraethu arfaethedig (Medi 2019) wedi'i gohirio o hyd.

5.

GOHEBIAETH pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor lythyr dyddiedig 22 Hydref, 2019, gan y Cynghorydd Endaf Edwards, Cadeirydd Gr?p Cynghorwyr Craffu ERW, yn gofyn yn benodol am ymatebion i'r argymhellion canlynol:

 

  • Ymchwilio i'r posibilrwydd o gynnwys arbenigwr o'r gymuned fusnes ar Fwrdd Cynghori ERW;
  • Bod cynllun dirprwyo yn cael ei lunio sy'n cefnogi'r strwythur llywodraethu newydd;
  • Bod ERW yn sicrhau bod Llywodraethwyr yn cael gwybod eu bod yn gallu mynychu'r sesiynau a gynllunnir ar gyfer Cwricwlwm Cymru;
  • Rhaid i ERW weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gan y gweithlu'r sgiliau, y seilwaith, y cysylltedd a'r gefnogaeth angenrheidiol i alluogi dysgu digidol ar draws y rhanbarth.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro y byddai'n llunio llythyr ymateb addas i'r pwyntiau a godwyd ar ran y Cyd-bwyllgor.

 

NODWYD.

 

6.

DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN ADOLYGU A DIWYGIO pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad cynnydd ar weithgaredd adolygu a diwygio ERW ac, yn benodol, gwella'r tîm canolog yn dilyn y recriwtio diweddar. Roedd hefyd yn manylu ar waith y Tîm yn ystod Tymor yr Hydref 2019 gan gynnwys cyflwyno'r Cynllun Busnes a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Mewn ymateb i gwestiwn, cytunodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro i ddosbarthu manylion aelodaeth pob un o 6 Gr?p Strategaeth ERW. Dywedodd Swyddog Monitro ERW fod dal angen eglurder o ran statws y Grwpiau Strategaeth gan fod penderfyniad ffurfiol ar drefniadau llywodraethu ERW wedi cael ei ohirio gan y Cyd-bwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac, wrth nodi statws presennol y ddogfen Trefniadau Llywodraethu Arfaethedig (Medi 2019), i gymeradwyo sefydlu Grwpiau Strategaeth ERW mewn egwyddor, gan aros i'r strwythur llywodraethu arfaethedig gael ei gymeradwyo yn unol â'r ddogfen Cynigion Llywodraethu (sy'n parhau i fod wedi'i gohirio).

7.

DIWEDDARIAD AR GYLLID 2019-20 pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod yr eitem hon wedi'i thynnu oddi ar yr agenda.]

 

8.

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried y Gofrestr Risg Adolygu a Diwygio [Bygythiadau] 2019-20 a'r Gofrestr Risg Gorfforaethol (Bygythiadau) 2019-20 a oedd yn manylu ar y lefelau systemig cyfredol o ran y risg yn ERW. Nodwyd nad oedd gan ERW Swyddog Diogelu Data pendant ar hyn o bryd, fel sy'n ofynnol gan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.

 

PENDERFYNWYD

8.1 bod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo;

8.2 bod y cyfrifoldeb dros Ddiogelu Data yn cael ei ymgorffori yng nghylch gwaith y Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro hyd nes y penodir Swyddog Diogelu Data.

 

9.

PERFFORMIAD CA4 A NEWID POLISI pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad yn manylu ar newidiadau polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â mesurau perfformiad dros dro CA4 a throsolwg o berfformiad ysgolion ar gyfer 2019 o ran rhanbarth ERW.

Cytunodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro, mewn ymateb i ymholiad, i gylchredeg manylion perfformiad ERW a fesurwyd yn erbyn rhanbarthau eraill Cymru.

O ran y 'Mesur Capio 9', mynegwyd pryder ynghylch y gorbwyslais ar arholiadau ffurfiol a hynny ar draul datblygu sgiliau.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

10.

CYMORTH UWCHRADD AC YSGOLION SY'N CAEL CYMORTH YCHWANEGOL pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar Gymorth Uwchradd ac ysgolion sy'n derbyn cymorth ychwanegol drwy amrywiaeth o strategaethau, gan roi pwyslais sylweddol ar ymgysylltu a chydweithio rhwng swyddogion canolog ERW ac Uwch-ymgynghorwyr Her, Ymgynghorwyr Her lleol a swyddogion yr Awdurdod Lleol.

Cyfeiriwyd at fater ysgolion sy'n peri pryder a dywedwyd na fyddai'r holl achosion o fewn cylch gwaith ERW.

Nodwyd bod gan ERW rôl glir i'w chwarae o ran sicrhau ffin rhwng ei waith a chyfrifoldebau'r awdurdodau lleol er mwyn osgoi dyblygu.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

11.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO MEWNOL 2019-20 pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ary rhaglen waith archwilio mewnol ar gyfer 2019-20 a oedd wedi'i pharatoi yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhaglen waith Archwilio Mewnol ar gyfer 2019/20.

 

12.

ADBORTH GAN Y SESIWN GWERTHUSO A GWELLA RANBARTHOL pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r Sesiwn Gwerthuso a Gwella a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar 21 Tachwedd 2019 a arweiniwyd gan Kirsty Williams, y Gweinidog dros Addysg. Mynegodd y Prif Weithredwr Arweiniol y farn fod yr ymatebion a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru i waith ERW wedi bod yn gadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

13.

ADRODDIAD YR YMCHWILIAD ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 4 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2019 bu'r Cyd-bwyllgor  yn ystyried adroddiad yn manylu ar ganfyddiadau ymchwiliad Archwilio Mewnol i'r ffrydiau ariannu a'r trefniadau llywodraethu i gefnogi'r gwariant a oedd yn gysylltiedig â'r Rhaglen Arweinwyr Dysgu. Un o'r materion y tynnwyd sylw ato oedd diffyg monitro'r rhaglen gan y Cyd-bwyllgor ar ôl iddi gael ei chymeradwyo. Ystyriwyd hefyd bod angen symleiddio'r strwythur cyfrifo ac y dylid dysgu'r gwersi, ac adlewyrchu hyn yng Nghynllun Busnes y flwyddyn nesaf.   Roedd yr argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad wedi cael eu derbyn gan y swyddogion cyfrifol ac yn cael sylw.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi'r adroddiad ac y dylid cyflwyno adroddiad cynnydd o ran rhoi'r argymhellion ar waith yn y cyfarfod nesaf.

 

14.

UNRHYW FATER ARALL

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau busnes eraill y dylid eu hystyried fel mater o frys.

 

15.

DIWEDDARIAD AR GYLLID 2020-21

Cofnodion:

Cynghorodd Swyddog Monitro ERW er ei bod, fel y nodwyd yn yr adroddiad, wedi cadarnhau'n wreiddiol y dylai'r eitem hon gael ei heithrio rhag cael ei chyhoeddi roedd hyn, mewn gwirionedd, yn berthnasol i gynigion a - e yn unig[Tudalen 196] a gellid ystyried y gweddill gyda'r cyhoedd yn bresennol.

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ar ganlyniad trafodaethau'r Cyfarwyddwyr Addysg ar Fodel Ariannu a Chyllido ERW ar gyfer 2020-21. Er bod Cyfarwyddwyr Addysg Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe wedi cytuno â'r cynigion a'r cynnydd yn y cyfraniadau ar gyfer 2020-21 fel y nodir yn yr adroddiad, roedd Cyfarwyddwr Addysg Castell-nedd Port Talbot wedi cytuno â'r cynigion ond ni allai gefnogi'r cynnydd net yn y cyfraniad o £26,177.00 ar gyfer 2020-21.

Mynegwyd pryderon ynghylch y ffaith pe bai Castell-nedd Port Talbot yn gwrthod cymeradwyo'r cynnydd yn ei gyfraniad y byddai'n rhaid i'r pum awdurdod arall fodloni'r diffyg ar ben y cyfraniadau ychwanegol a oedd yn ofynnol gan bob un.

Nodwyd y dylai Model Ariannu a Chyllido ERW ar gyfer 2020-21 fod yn seiliedig ar bum awdurdod, gan adlewyrchu'r ffaith fod Castell-nedd Port Talbot am dynnu'n ôl o ERW ym mis Mawrth 2020.

Mynegwyd cydymdeimlad â safbwynt Castell-nedd Port Talbot ac ategwyd y pryderon a godwyd yn y cyfarfod diwethaf ynghylch yr angen am eglurder o ran dyfodol 'ôl troed' ERW, e.e. y posibilrwydd o raniad 4/2. Awgrymwyd y byddai'n ddefnyddiol cael adroddiad yn nodi arfarniad opsiynau o ran unrhyw drefniant o ERW yn y dyfodol gan ystyried effaith ymadawiad Castell-nedd Port Talbot ar ERW ac unrhyw gynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Dywedwyd wrth yr Aelodau am yr effaith yr oedd ansicrwydd ynghylch dyfodol ERW yn ei chael ar forâl y staff a goblygiadau ariannol unrhyw ailstrwythuro yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD

15.1   cymeradwyo'r cynigion a wnaed gan y Cyfarwyddwyr Addysg mewn perthynas â Model Ariannu a Chyllido ERW ar gyfer 2020-21yn seiliedig ar bum awdurdod (ac eithrio Castell-nedd Port Talbot);

15.2   canfod a fyddai Llywodraeth Cymru yn caniatáu hyblygrwydd trosiannol ychwanegol o fewn y Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol gan Lywodraeth Cymru yn 2020-21, yn debyg i 2019-20;

15.3   bod adroddiad yn nodi arfarniad opsiynau ar gyfer unrhyw drefniant tebygol o ERW yn y dyfodol yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf;

15.4y dylid dileu'r rolau y cyfeirir atynt yn b - e yn yr adroddiad [t. 196.]

 

16.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR PWYLLGOR AR Y CYD ERW FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFFAU 12, 13 A 15 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

Cofnodion:

CYTUNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraffau 12,13 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

17.

PENODI RHEOLWR GYFARWYDDWR

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod Rhif 16 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat, gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig oedd yn ymwneud ag unrhyw ymgynghoriadau neu drafodaethau, neu unrhyw ddarpar ymgynghoriadau neu drafodaethau o ran unrhyw fater cysylltiadau llafur oedd yn codi rhwng yr awdurdod a gweithwyr yr awdurdod.

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i ddechrau ar y broses recriwtio o ran secondiad i rôl y Cyfarwyddwr Rheoli.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo penodi Rheolwr Gyfarwyddwr drwy gyfrwng secondiad blwyddyn.

 

18.

YMCHWILIAD ARCHWILIO MEWNOL ERW I RAGLEN YR ARWEINWYR DYSGU (NODIADAU O'R CYFARFODYDD)

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 16 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth a allai nodi unigolion.

 

Gan gyfeirio at gofnod 13 uchod, cafodd y Cyd-bwyllgor nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd â swyddogion perthnasol fel rhan o'r ymchwiliad i'r Rhaglen Arweinwyr Dysgu i gryfhau trefniadau llywodraethu, rheolaeth fewnol a threfniadau rheoli o fewn y Consortiwm.

 

NODWYD.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau