Agenda a Chofnodion

Pwyllgor ar y Cyd ERW (wedi'i disodli gan Y Partneriaeth) - Dydd Mercher, 3ydd Ebrill, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann  01267 224178

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Emlyn Dole (Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd Rosemarie Harris (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd Rob Stewart (Cyngor Abertawe), Mr. Phil Roberts (Cyngor Abertawe), Mark James (Cyngor Sir Caerfyrddin), a Mr. Mark Campion (ESTYN).

 

Croesawodd y Cadeirydd Ms Caroline Turner (Cyngor Sir Powys) i'r Cyd-bwyllgor.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

CYNLLUN BUSNES 2019-2020 pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor y Cynllun Busnes ar gyfer 2019-20, a oedd yn amlinellu'r rhaniad swyddogaethau rhwng y tair haen yn y system ranbarthol - Rhanbarth, Is-ranbarth/Awdurdod Lleol ac Ysgolion.

 

Cynghorwyd y Cyd-bwyllgor bod dwy brif ran i'r Cynllun Busnes. Roedd y tudalennau pinc yn amlinellu'r prif waith sy'n gysylltiedig â nodau ERW, gan gynnwys y cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru, sgiliau'r gweithlu, datblygu arweinwyr, ysgolion cryf a chynhwysol a chefnogi system sy'n gwella ei hun. Dilynwyd hyn gan gynlluniau gweithredol rhanbarthol/lleol manwl ar gyfer pob gweithgaredd yn ymwneud â nodau cyffredinol ERW. Byddai'r Cynllun Busnes yn cael ei ddiweddaru mewn ymateb i adborth gan arweinwyr Awdurdodau Lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun Busnes ar y sail y gellir ei ddiwygio/ei newid.

 

4.

ARIANNU 2019-2020 pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn trafod yr Adroddiad ar Gyllideb 2019-20, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

 

·         Cyllideb y Tîm Canolog 2018-19 a 2019-20

·         Cyfraniadau Awdurdodau Lleol

·         Dilyniant 2019-20

·         Grant 2019-20

·         Cyllideb a Ariennir gan Grant 2019-20

·         Risgiau

·         Cronfeydd wrth gefn

·         Argymhellion

 

Dywedodd y Cadeirydd fod copïau o ohebiaeth mewn perthynas â'r gyllideb wedi'u cylchredeg yn y cyfarfod. Roedd hyn yn cynnwys llythyr at y Gweinidog Addysg, dyddiedig 11 Chwefror 2019, yn gofyn i'r Gweinidog neilltuo oddeutu £790k o arian grant i gyflogi staff canolog, ac ymatebion y Gweinidog o 1 Mawrth 2019 a 2 Ebrill 2019. Roedd ymateb y Gweinidog ar 2 Ebrill yn nodi y gallai'r Cyd-bwyllgor godi hyd at £500k o'r cyllid grant presennol ar yr amod bod Awdurdodau Lleol yn mynd i'r afael â'r diffyg a bod cyfanswm yr arian yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru.

 

Roedd yr ohebiaeth hefyd yn cynnwys:

·         Llythyr gan Gyngor Sir Penfro, dyddiedig 20Mawrth, yn gofyn yn eu rôl fel Awdurdod Cyflogi a Deiliad Cyllideb am sicrwydd gan bob awdurdod yn y bartneriaeth;

·         Llythyr gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, dyddiedig 27 Mawrth 2019, yn rhoi hysbysiad o'u bwriad i adael ERW erbyn 31 Mawrth 2020 ond yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbysiad hwnnw yn ôl os gellid datrys problemau;

·         Datganiad y Cadeirydd i'r wasg mewn ymateb i hysbysiad Castell-nedd Port Talbot.

 

Cynghorwyd y Cyd-bwyllgor fod yr Adroddiad ar y Gyllideb yn union yr un fath â'r hyn a gafwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor gan mai dim ond neithiwr y cafwyd cadarnhad gan y Gweinidog ynghylch y defnydd o gyllid grant.

 

Roedd y cwestiynau a sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch Ysgolion sy'n Destun Pryder, cynghorwyd y Cyd-bwyllgor bod angen cynnydd yn y gyllideb er mwyn sefydlu model cynaliadwy ar gyfer ysgolion sy'n helpu ysgolion a bod hyn yn fusnes craidd i ERW. Roedd nifer yr ysgolion a ddosbarthwyd fel rhai ambr neu goch wedi gostwng o 165 i 87 o dan ERW ac roedd categoreiddio ysgolion yn ffordd o ddyrannu cymorth.

 

Gwnaed nifer o sylwadau yn mynegi pryder bod ymateb y Gweinidog yn gadael bwlch ariannu o £290k, y gallai fod yn rhaid ei gyfannu drwy gynyddu cyfraniadau'r Awdurdodau Lleol. Dywedodd Castell-nedd Port Talbot, er y byddent yn aros yn Aelodau o ERW tan 31 Mawrth 2020, na fyddent yn cefnogi cynnydd mewn cyfraniadau gan Awdurdodau Lleol. Cadarnhaodd Castell-nedd Port Talbot y byddent yn talu eu cyfraniadau sy'n ddyledus ar gyfer 2018-19 a'r rheiny ar gyfer 2019-20 ar yr un lefel.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyllid staff, dywedodd Mr Geraint Rees fod £2.5.m, o'r blaen, wedi cael ei ddefnyddio i secondio 56 o swyddi ERW cyfwerth ag amser llawn. Roedd y rhain yn cael eu rheoli'n lleol gyda thaliadau'n cael eu hanfonebu trwy ysgolion. Dywedodd y Swyddog Adran 151 nad oedd manylion am ffynhonnell yr arian wedi'u cynnwys yn yr adroddiad presennol ar y gyllideb, ond y gellid darparu manylion pellach ar gais  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFFAU 13 A 15 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 13 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

6.

GWYBODAETH ARIANNOL AR STAFFIO

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod am fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu enwau unigolion a gwybodaeth berthnasol i drafodaethau/ymgynghoriadau sy'n ymwneud â'r gweithlu.

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ar wybodaeth am staffio ariannol, a oedd yn darparu gwybodaeth am gyllid Staff Tîm Canolog posibl yn 2019-20. Roedd yr adroddiad yn cynnwys strwythur staffio posibl ERW o Ebrill 2019 a'r ymrwymiadau staffio presennol a fyddai'n treiglo i'r flwyddyn ariannol 2019-20.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

[Noder: ar ôl ystyried yr eitem uchod, aildderbyniwyd y cyhoedd i'r cyfarfod]

 

7.

APWYNTIO CYFARWYDDWR ARWEINIOL A'R PRIF WEITHREDWR ARWEINIOL DROS DO pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cyd-bwyllgor bod yr enwebiadau canlynol wedi dod i law:

 

·         Prif Weithredwr Arweiniol Dros Dro: Mr Eifion Evans (Cyngor Sir Ceredigion)

·         Cyfarwyddwr Arweiniol: Ms Kate Evan-Hughes (Cyngor Sir Penfro)

 

Cynghorwyd y Cyd-bwyllgor y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal mewn perthynas â dosrannu rolau a chyfrifoldebau yn y consortiwm.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod

7.1.        Mr Eifion Evans yn cael ei benodi'n Brif Weithredwr Arweiniol Dros Dro;

7.2.        Ms Kate Evan-Hughes yn cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr Arweiniol.

 

 

 

8.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau busnes eraill y dylid eu hystyried fel mater o frys.