Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Cothi, - Canolfan Halliwell Centre, University of Wales Trinity St David, Carmarthen. SA31 3EP.. Cyfarwyddiadau

Nodyn: Parking available at Y Llwyfan 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Emlyn Dole (Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd Rob Jones (Cyngor Castell-nedd Port Talbot), y Cynghorydd Myfanwy Alexander (Cyngor Sir Powys), Wendy Walters (Cyngor Sir Caerfyrddin), Eifion Evans (Cyngor Sir Ceredigion), Steven Phillips (Cyngor Castell-nedd Port Talbot), Ian Westley (Cyngor Sir Penfro) a Chris Llewelyn (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru).

 

2.

ETHOL CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD. CADARNHAU PRIF WEITHREDWR ARWEINIOL pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Cafwyd enwebiadau ar gyfer penodi'r Cynghorydd Ellen ap Gwynn yn Gadeirydd a'r Cynghorydd Emlyn Dole yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai angen i'r Cyd-bwyllgor ailbenodi Mr Phil Roberts yn Brif Weithredwr Arweiniol yn ffurfiol ar ôl iddo ddychwelyd, ac nad oedd y cytundeb cyfreithiol yn nodi cyfnod yn y swydd ar gyfer y rôl hon.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Eifion Evans am ei waith yn ystod absenoldeb Mr Roberts.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

2.1.    Benodi'r Cynghorydd Ellen ap Gwynn yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor am y ddwy flynedd sydd i ddod;

2.2.    Penodi'r Cynghorydd Emlyn Dole yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor am y ddwy flynedd sydd i ddod;

2.3.    Cadarnhau Mr Phil Roberts yn Brif Weithredwr Arweiniol.

 

3.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod ffurflenni datgan buddiant personol wedi'u dosbarthu yn y cyfarfod i Aelodau eu llenwi a'u dychwelyd.

 

4.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 MAI 2019 pdf eicon PDF 392 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mai 2019 gan eu bod yn gywir, yn amodol ar y newid canlynol:

 

1.    Ymddiheuriadau am Absenoldeb - Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Rob Stewart.

 

Roedd y Cynghorydd Rob Stewart wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

 

5.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Cofnodion:

Cofnod Rhif 5 - Diweddariad ynghylch Recriwtio ERW

Mewn ymateb i ymholiad, cafodd y Cyd-bwyllgor wybod nad oedd gweithdy mewn perthynas â recriwtio a'r gofyniad o ran yr iaith Gymraeg wedi'i gynnal eto. Gofynnodd y Pwyllgor i'r gweithdy gael ei drefnu'n fuan.

 

6.

GOHEBIAETH pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

ESTYN

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried dau lythyr a gyflwynwyd gan ESTYN. Nododd y llythyr cyntaf, dyddiedig 12 Mehefin 2019, yn dilyn y diweddariad ynghylch sefyllfa ERW, yr hoffai cynrychiolwyr ESTYN ymweld ag ERW a chyfarfod â nifer o gynrychiolwyr y Cyd-bwyllgor, ERW, yr Awdurdodau Lleol, y Gr?p Craffu a'r Bwrdd Penaethiaid. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y cyfarfodydd wedi'u cynnal ar 24 a 25 Mehefin 2019 a bod ESTYN wedi anfon ail lythyr mewn ymateb, dyddiedig 28 Mehefin 2019. Roedd y llythyr yn cydnabod cyflawniadau o ran y strwythur staffio newydd ac yn cydnabod bod gwaith pellach yn mynd rhagddo mewn perthynas â threfniadau recriwtio, llywodraethu a rheoli perfformiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith gydag ESTYN am eu cyfraniadau. Diolchodd hi hefyd i Mr Geraint Rees am ei arweinyddiaeth a'i waith mewn perthynas â diwygio ERW.

 

Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried llythyr gan Gadeirydd y Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW, dyddiedig 24 Mehefin 2019. Dywedodd Cadeirydd y Cyd-bwyllgor y byddai llythyr ymateb yn cael ei anfon ar ôl y cyfarfod heddiw.

 

PENDERFYNWYD

6.1.    Nodi'r llythyrau gan ESTYN a'r Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW;

6.2.    Gwneud trefniadau i anfon llythyr ymateb at y Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW.

 

7.

PAPURAU CYLLID AC AWDIT

7.1

CYNLLUN AWDIT ERW GAN SWYDDFA AWDIT CYMRU AM 2018-19 pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Cynllun Swyddfa Archwilio Cymru ERW ar gyfer 2018-19, a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru i gyflawni ei dyletswyddau statudol.

 

PENDERFYNWYD

7.1.1.   Cymeradwyo Cynllun Archwilio 2018-19 Swyddfa Archwilio Cymru;

7.1.2.   Cymeradwyo'r ffi archwilio, sef £13,000;

7.1.3.   Cytuno ar yr amserlen a nodwyd yn yr adroddiad;

7.1.4.   Cytuno ar gyfrifoldebau priodol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

7.2

ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL CONSORTIWM ERW 2018-19 pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar ganfyddiadau adolygiad archwilio mewnol o Gonsortiwm ERW 2018-19. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod yr adroddiad yn rhoi sicrwydd mewn perthynas ag effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu, rheolaeth fewnol, rheoli risg a rheolaeth ariannol sydd ar waith ar gyfer Consortiwm ERW. Roedd yr adroddiad yn cydnabod y gwelliannau a wnaed ac yn nodi meysydd ar gyfer gwaith pellach. Ynghlwm wrth yr adroddiad yr oedd cynllun gweithredu a oedd yn manylu ar sut y byddid yn mynd i'r afael â'r meysydd hyn.

 

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad Archwilio Mewnol 2018-19.

 

7.3

BARN SICRWYDD FLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL CONSORTIWM ERW AR GYFER 2018-19 pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar Farn Sicrwydd Flynyddol Pennaeth Archwilio Mewnol 2018-19 ynghylch effeithlonrwydd trefniadau llywodraethu, rheoli mewnol, rheoli risgiau a rheolaeth ariannol ERW.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod yr adroddiad wedi'i lunio yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

7.4

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL 2018-19 pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ynghylch canfyddiadau'r adolygiad blynyddol o drefniadau llywodraethu ar gyfer Consortiwm ERW 2018-19. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod yr adolygiad wedi nodi dau Fater Llywodraethu Sylweddol mewn perthynas ag adolygu a diweddaru Cytundeb Cyfreithiol ERW a'r model cyllido diwygiedig, a 6 blaenoriaeth ar gyfer gwella.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor ei bod yn dderbyniol i Aelodau anfon dirprwyon. Awgrymwyd y gallai adolygiad o'r Cytundeb Cyfreithiol ystyried a ddylai cynrychiolwyr Awdurdod Lleol, heblaw am Arweinwyr, megis deiliaid portffolios, gael eu hystyried yn Aelodau'r Cyd-bwyllgor. Fodd bynnag, byddai angen canllawiau gan Lywodraeth Cymru ynghylch hyn. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried aelodaeth y Cyd-bwyllgor mewn darn rhagarweiniol o waith, ond y byddai'n well aros i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ynghylch gwaith rhanbarthol yn y dyfodol a chyfansoddiad Cyd-bwyllgorau statudol gael ei gyhoeddi yn yr hydref.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Llywodraeth Blynyddol ar gyfer 2018/19.

 

7.5

DATGANIAD O GYFRIFON ERW AR GYFER 2018-19 pdf eicon PDF 260 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon ERW ar gyfer 2018-19 a oedd ynghlwm wrth Archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru o Ddatganiadau Ariannol Safon Ryngwladol ar Archwilio (ISA) 260. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y Datganiad Cyfrifon wedi'i gyhoeddi'n ddrafft ar 30 Mai 2019. Roedd cyfraniad un Awdurdod Lleol a oedd heb gael ei gyflwyno wedi'i dderbyn erbyn hyn ond nid oedd y Datganiad Cyfrifon wedi'i addasu i adlewyrchu hyn gan nad oedd y swm wedi'i ystyried yn un sylweddol. Nid oedd Barn Sicrwydd Flynyddol Pennaeth Archwilio Mewnol ERW wedi nodi unrhyw faterion rheoli mewnol sylweddol a fyddai'n effeithio ar y Datganiad Cyfrifon.

 

O ran adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod yr holl argymhellion ar ddiwedd yr adroddiad wedi'u derbyn. Rhestrwyd y dogfennau oedd yn weddill ar gyfer cwblhau'r gwaith archwilio ym Mharagraff 7 a gofynnwyd i'r Aelodau ddychwelyd ffurflenni datgan buddiant yn fuan.

 

PENDERFYNWYD

7.5.1.  Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon ERW ar gyfer 2018-19;

7.5.2.  Bod Datganiad Cyfrifon ERW ar gyfer 2018-19 yn cael ei lofnodi gan Gadeirydd Cyd-bwyllgor ERW a Swyddog Adran 151 ERW.

 

7.6

DIWEDDARIAD ARIANNOL ERW 2019-20 pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol ERW ar gyfer 2019-20 ar 31 Mai 2019. Roedd yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd canlynol:

-        Cyllideb 2019-20 y Tîm Canolog

-        Cytundebau Lefel Gwasanaeth

-        Dyraniadau Grant 2019-20

-        Grantiau 2019-20

-        Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol

-        Blaenoriaethau Cynllun Busnes ERW 2019-20:

o   Cwricwlwm ac Asesu

o   Datblygu'r Proffesiwn

o   Arweinyddiaeth

o   Gwella Ysgolion

o   Ysgolion Cryf a Chynhwysol

-        Risgiau

-        Cronfeydd wrth gefn

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod gwall bach yn yr adroddiad mewn perthynas â'r dyddiad y cymeradwywyd cyllideb 2019-20. Cymeradwywyd y gyllideb mewn egwyddor yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2019. O ran y cronfeydd wrth gefn, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, er bod y cronfeydd wrth gefn wedi'u defnyddio yn ystod blynyddoedd blaenorol, nad oedd bwriad i wneud hynny yn 2019-20. Roedd gwaith yn cael ei wneud ar y model cyllido ar gyfer y dyfodol.

 

Codwyd nifer o ymholiadau a sylwadau ynghylch yr adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

-        Awgrymwyd bod angen adolygu Cytundebau Lefel Gwasanaeth oherwydd anghysondebau.

-        Codwyd ymholiad ynghylch y risgiau yn sgil gostyngiadau posibl yn swm y cyllid grant yn y dyfodol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y gwaith yn mynd rhagddo ar gadernid hirdymor y trefniadau cyllid a staffio ac y byddai'r mater yn cael sylw mewn gweithdy yn ddiweddarach yr wythnos hon.

 

PENDERFYNWYD

7.6.1.  Cymeradwyo'r diwygiadau i Gyllideb y Tîm Ganolog fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad;

7.6.2.  Bod y Cyd-bwyllgor, y Bwrdd Gweithredol a'r Swyddog Adran 151 yn parhau i lunio'r model ariannol a chyllido ar gyfer 2020-21 a'r tu hwnt.

 

7.7

SWYDDOGAETH CYLLID ERW pdf eicon PDF 259 KB

Cofnodion:

Estynnodd y Swyddog Adran 151 ddymuniadau gorau i Mr Ian Eynon ar ei ymddeoliad ac i Ms Katie Morgan a fyddai'n gadael ERW i ddechrau swydd newydd. Diolchodd y Cyd-bwyllgor i'r ddau am eu cyfraniadau.

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor a ddylai Cyngor Sir Penfro barhau i gyflawni swyddogaeth cyllid ERW yn y dyfodol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod Cyngor Sir Penfro wrthi'n cyflwyno cyfriflyfr ariannol newydd ac y byddai angen ychwanegu manylion yr holl ysgolion yn rhanbarth ERW at y system newydd. Byddai hyn ond yn gost effeithiol pe byddai Cyngor Sir Penfro yn parhau i gyflawni swyddogaeth cyllid ERW yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod Cyngor Sir Penfro yn parhau i gyflawni swyddogaeth cyllid ERW.

 

8.

APWYNTIO RHEOLWR GYFARWYDDWR DROS DRO pdf eicon PDF 228 KB

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch penodi Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro ar gyfer ERW. Dywedodd y Cadeirydd y byddai Mr Geraint Rees yn gadael ERW a diolchodd iddo am ei gyfraniad. Dywedodd y Cyfarwyddwr Arweiniol fod Mr Morgan wedi gweithio fel Ymgynghorydd Her a Phennaeth Addysg ledled Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn flaenorol, a bod y Bwrdd Penaethiaid yn cefnogol i'w benodi. Byddai cyflog y secondiad o fewn yr ystod cyflog y cytunwyd arni ar gyfer deiliad parhaol y swydd yn y strwythur diwygiedig.

 

PENDERFYNWYD bod Mr Andi Morgan yn cael ei benodi'n Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro ERW tan 31 Rhagfyr 2019.

 

9.

DIWEDDARIAD AR STAFF A CYLLIDO'R STRWYTHUR pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ynghylch y cynnydd a wnaed o ran trefniadau staffio a chyllido ar gyfer strwythur ERW. Dywedodd Mr Geraint Rees fod deuddeg o bobl wedi'u penodi i weithio ar y cwricwlwm newydd ledled y rhanbarth cyfan. Roedd penodiadau wedi'u gwneud mewn perthynas â phynciau Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a'r Dyniaethau ond roedd penodiadau ym meysydd Technoleg, Ieithoedd Modern a Chelf Mynegiannol heb eu gwneud o hyd. Dywedodd Mr Rees y byddai'r penodiadau newydd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer symud ERW yn ei flaen.

 

Gwnaed nifer o sylwadau a oedd yn croesawu cynnydd ynghylch y strwythur newydd. Awgrymwyd bod y Cyd-bwyllgor yn cael ysgrifau portread gan gynnwys cefndir a lluniau o'r staff newydd eu penodi.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

10.

COFNOD RISG pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch y risgiau systemig a oedd yn wynebu Consortiwm ERW a'i Awdurdodau Lleol cyfansoddol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y model ar gyfer asesu risgiau wedi'i newid ar y cyd â swyddogion o Gyngor Sir Penfro. Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd y rhoddwyd sylw i'r risgiau blaenorol mewn perthynas â'r diffyg staff parhaol a'r gweithle ar gyfer y tîm canolog a bod modd lleihau Risg Ganolog 2 (Methu â chydymffurfio â Chynllun Gweithredu ESTYN) yn dilyn gohebiaeth gan ESTYN a drafodwyd dan Eitem 6 (Gohebiaeth).

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch risgiau cysylltiedig â chyllid, dywedodd Mr Rees mai cyfrifoldeb pob Awdurdod Lleol oedd ffynhonnell cyllid Awdurdod Lleol a bod angen i bob partner sicrhau bod ei amodau grant yn cael eu cyflawni. Awgrymwyd, o ystyried yr oedi o ran yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, y dylai Awdurdodau Lleol cyfansoddol yn y Consortiwm gymryd camau i bwysleisio'r anawsterau sy'n gysylltiedig â grantiau un flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau busnes eraill y dylid eu hystyried fel mater o frys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau