Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Rob Jones [Cyngor Castell-nedd Port Talbot].

Mynegodd y Cadeirydd ei llongyfarchiadau i Chris Llewelyn ar gael ei benodi'n Brif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddar.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 16 GORFFENNAF 2018 pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2018 gan eu bod yn gywir.

 

4.

MATERION SY'N CODI O'R COFNODION

Cofnodion:

Cofnod 7.2 - Datganiad Cyfrifon 2017-18 ac Adroddiad Safon Ryngwladol ar Archwilio 260 Swyddfa Archwilio Cymru

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Rees at ei ymholiad a nodwyd yn y cofnod uchod mewn perthynas â'r cynnydd sylweddol mewn ffioedd ymgynghoriaeth a dywedodd nad oedd y wybodaeth a oedd wedi'i chael ers hynny wedi ateb ei gwestiwn ynghylch pam yr oedd y ffioedd wedi cynyddu cymaint. Esboniodd y Swyddog Adran 151 nad oedd newid o bwys wedi bod yn y ffioedd, ond fod y codio ariannol wedi'i ailddosbarthu.  Ymatebodd y Cynghorydd Rees drwy ddweud ei fod yn parhau i fod yn anfodlon ar yr esboniad ac yr oedd yn dymuno bod ei bryder yn cael ei nodi yn y cofnodion.

 

5.

DIWEDDARIAD GAN Y PRIF WEITHREDWR ARWEINIOL AC LOG GWEITHREDU pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor Adroddiad Sicrwydd wedi'i ddiweddaru, a oedd yn cynnwys tabl â chynllun gweithredu, cynnydd a manylion y swyddogion sy'n gyfrifol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Arweiniol y byddai ef a'r Cadeirydd yn mynd gerbron y Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW ym mis Ionawr 2019 [gweler hefyd gofnod 6.3 isod] ac y byddai copi o'u cyflwyniad yn cael ei anfon at aelodau'r Cyd-bwyllgor maes o law.

Diolchodd Cyfarwyddwr Arweiniol ERW a'r Cadeirydd i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn y gwaith o lunio'r Cynllun Busnes.

 

CYTUNWYD i dderbyn adroddiad diweddaru'r Prif Weithredwr Arweiniol.

 

6.

GOHEBIAETH pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.1

LLYWODRAETH CYMRU - ADOLYGIADAU O'R GRANT GWELLA ADDYSG A'R GRANT DATBLYGU DISGYBLION

Cofnodion:

6.1.       LLYWODRAETH CYMRU - ADOLYGIADAU O'R GRANT GWELLA ADDYSG A'R GRANT DATBLYGU DISGYBLION

Roedd llythyr dyddiedig 18 Medi 2018 oddi wrth Steve Davies, Cyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru, wedi'i ddosbarthu i'r Cyd-bwyllgor, a oedd mewn perthynas ag adolygiadau arfaethedig ym mhob yn o'r 4 consortiwm o ran y Grant Gwella Addysg, ac elfen y plant sy'n derbyn gofal o'r Grant Datblygu Disgyblion. Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Castell-nedd Port Talbot y dylai'r adolygiadau hefyd ystyried ansawdd yr hyn a ddarperir gan ERW yn ogystal ag adroddiadau ESTYN. Roedd y Cadeirydd yn cydsynio â'r sylw hwn ac ychwanegodd y dylid barnu pob consortiwm yn ôl sut yr oedd wedi helpu i wella perfformiad y plant.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd yr adroddiad ar archwiliad ariannol Rod Alcott ar gael, gan y gofynnwyd amdano yn y cyfarfod Adolygu a Herio diwethaf. Mewn ymateb, cytunodd Ruth Conway i gadarnhau'r sefyllfa gan na chafwyd unrhyw adborth.

 

NODWYD.

 

 

6.2

LLYWODRAETH CYMRU - GRANT GWELLA YSGOLION Y CONSORTIA RHANBARTHOL 2018-19

Cofnodion:

Roedd llythyr dyddiedig 14 Medi 2018 gan Lywodraeth Cymru wedi'i ddosbarthu i'r Cyd-bwyllgor, a oedd yn nodi ei chynnig diwygiedig, sef £40,971,102.00 ar gyfer y Grant yn ystod 2018-19. Dywedodd y Swyddog Adran 151 fod llythyr wedi'i anfon i Lywodraeth Cymru i dderbyn y cyllid ond hyd yn hyn nad oedd dim cyllid wedi dod i law. Yn unol ag un o'r rhag-amodau cyllid roedd angen cadarnhau'r dyddiadau arfaethedig pryd y byddai'r taliadau'n cael eu gwneud gan bob un o'r 6 awdurdod lleol, ac roedd swyddogion yn parhau i geisio datrys y mater mewn perthynas â chyfraniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, fel y codwyd yn y cyfarfod diwethaf [gweler cofnod 7.4].  

 

NODWYD.

 

6.3

GR?P CYNGHORWYR - CRAFFU AR ERW

Cofnodion:

Roedd llythyr dyddiedig 4 Hydref 2018 gan Gadeirydd y Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW wedi'i ddosbarthu i'r Cyd-bwyllgor a oedd yn manylu ar faterion a godwyd yng nghyfarfod y Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW ar 10 Medi 2018. Nodwyd bod y llythyr yn cyfeirio at wahoddiad a estynnodd i Gadeirydd ERW a'r Prif Weithredwr Arweiniol i ddod i gyfarfod y Gr?p Cynghorwyr - Craffu a gynhelir ym mis Ionawr 2019 [gweler hefyd gofnod 5 uchod].

 

NODWYD.

7.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ariannol ar gyfer 2018-19 a oedd yn rhoi gwybodaeth fanwl a phenodol am y canlynol:

 

·                     Cyllideb y Tîm Canolog 2018-19

·                     Cytundebau Lefel Gwasanaeth

·                     Dyraniadau Grant 2018-19

·                     Grantiau 2018-19 - Plant sy'n derbyn gofal/Grant Datblygu Disgyblion

·                     Grantiau 2018-19 - Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol

·                     Blaenoriaethau Cynllun Busnes ERW 2018-19

·                     Rhaglen Adolygu a Diwygio ERW

·                     Risgiau

·                     Cronfeydd wrth gefn.

 

Ailadroddodd y Swyddog Adran 151 nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi talu ei gyfraniad o £40k hyd yn hyn, ac os na fydd hyn yn dod i law byddai rhaid i'r Cyd-bwyllgor ystyried sut y gyflawni cyllideb gytbwys. Dywedodd Cyfarwyddwr Arweiniol CNPT fod Arweinydd CBS CNPT wedi ysgrifennu at yr Arweinwyr eraill yn y consortiwm gan amlinellu ei bryderon ynghylch rheolaeth a'r cynllun busnes, tryloywder y cyllid, defnydd yr adnoddau, atebolrwydd, a'r diffyg cynnydd o ran gwelliannau i'r trefniadau llywodraethu. Ychwanegodd fod yr Arweinydd, y Prif Weithredwr ac ef ei hun yn credu na fyddai Castell-nedd Port Talbot yn gallu cadarnhau ei gyfraniad oni bai bod gwelliant yn y meysydd hyn. Dywedodd y Prif Weithredwr Arweiniol, er ei fod yn cydsynio i ryw raddau â dadansoddiad Castell-nedd Port Talbot o'r sefyllfa, ei fod yn credu y gallai eu hamharodrwydd i gyfrannu ar hyn o bryd gael effaith negyddol ar ERW a'r rheiny sy'n cynorthwyo. Roedd y Cyd-bwyllgor yn cytuno â sylwadau'r Prif Weithredwr Arweiniol a mynegodd y safbwynt na ddylai unrhyw barti sy'n rhan o'r cytundeb, a luniwyd ar sail cydweithio, wrthod talu ei gyfraniad.  

Mynegodd y Cadeirydd y safbwynt cadarnhaol bod datblygiadau diweddar, â chymorth Llywodraeth Cymru a ddiolchwyd ganddi, wedi paratoi'r ffordd ymlaen a'r gobaith oedd y byddai CBS CNPT yn gallu gwneud ei gyfraniad cyn bo hir.

 

CYTUNWYD

 

7.1 nodi cyllideb y Tîm Canolog ar gyfer 2018-19 a chostau disgwyliedig y llety a chyfleusterau ychwanegol yn y dyfodol;

 

7.2 bod y mater o ba gamau gweithredu y gellir ei gymryd pe na fyddai Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn talu ei gyfran o'r Cyfraniad Awdurdodau Lleol (£250k) ar gyfer 2018-19yn cael ei adael heb ei weithredu. Noder safbwynt Cyngor Castell-nedd Port Talbot;

 

7.3 nodi'r dyraniadau grant diwygiedig ar gyfer 2018-19 (Atodiad 2) a'r materion presennol o ran cydymffurfio â rhai o amodau a thelerau Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol;

 

7.4 nodi dyraniad dros dro o'r Grant Gwella Ysgolion i flaenoriaethau Cynllun Busnes ERW 2018-19, a'r ffaith y bydd angen gwneud gwaith pellach;

 

7.5 cymeradwyo'r dyraniad o weddill y cyllid £250k gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Adolygu a Diwygio;

 

7.6  peidio ag ystyried penderfynu sut i gyflenwi Cronfeydd wrth Gefn ERW ar hyn o bryd.

 

8.

CYNLLUN BUSNES ERW pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes ERW 2018-19 diwygiedig a oedd wedi'i lunio gan Gyfarwyddwyr ERW, Pen-ymgynghorwyr Her yr Awdurdodau Lleol a Thîm Uwch-arweinwyr ERW yn dilyn y cyfarfod diwethaf [gweler cofnod 6.7]. Roedd y Cynllun yn canolbwyntio ar bedwar amcan allweddol a oedd wedi deillio o Genhadaeth ein Cenedl Llywodraeth Cymru:-

 

·  Datblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel;

·  Sicrhau bod arweinwyr ysbrydoledig yn cydweithio i godi'r safonau;

·Cynorthwyo ein hysgolion i fod yn rhai cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a llesiant;

·Sicrhau trefniadau cadarn o ran asesu, gwerthuso a bod yn atebol sy'n cefnogi system sy'n gwella ei hun.

 

CYTUNWYD i gymeradwyo'r Cynllun Busnes wedi'i ailddrafftio i'w ddosbarthu.

 

9.

COFNOD RISG CORFFORAETHOL (BYGYTHIADAU) 2018-19 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 8 o'r cyfarfod diwethaf, cafodd y Cyd-bwyllgor y fersiwn ddrafft o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol ar gyfer 2018-19, a oedd wedi'i hailddrafftio yn sgil cyngor gan y Swyddog Adran 151. Ymysg y newidiadau yr oedd y cynnwys a'r fformat adrodd, ynghyd â ffocws ar y Gofrestr Ganolog ac Ariannol. Nodwyd bod yna risgiau sylweddol, ac roedd llawer ohonynt yn rhai hirdymor nad oedent wedi cael eu lleihau er gwaethaf y camau gweithredu. 

 

CYTUNWYD i gymeradwyo'r lefelau goddefgarwch a derbyn y gofrestr risg wedi'i hailddrafftio.

 

10.

ADRODDIAD AWDIT MEWNOL pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor Adroddiad Archwiliad Mewnol ERW 2017-18 ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am ymatebion y rheolwyr.

Roedd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion am gofnodi ei fod yn anfodlon ar 'Ymateb y Rheolwyr' i'r 'Trefniadau Disgwyliedig (Rheoli)' mewn perthynas â gweithredu'r cerdyn prynu. Dywedodd y Swyddog Adran 151 nad oedd y mater wedi'i gategoreiddio'n 'goch' yn y Dyfarniadau Argymell, ond roedd o fewn Gradd Weithredu 'Digonol ac effeithiol yn rhannol', er y cydnabuwyd ganddo fod yna faterion rheoli mewnol yr oedd angen mynd i'r afael â nhw. Atgoffwyd yr aelodau gan y Cyfarwyddwr Arweiniol fod yr adolygiad diweddar o ERW wedi pwysleisio'r ffaith bod cyfrifoldeb am dreuliau yn peri pryder. Pwysleisiodd y Cadeirydd pa mor bwysig yw atebolrwydd am unrhyw wariant.

 

CYTUNWYD i nodi'r adroddiad ac Ymatebion diwygiedig y Rheolwyr.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau