Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd E. Dole (Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd Rosemarie Harris (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd Rob Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot), Mr M. James (Cyngor Sir Caerfyrddin), a Mr Steven Phillips (Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot)

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o fuddiant personol.

3.

LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR AR Y CYD A GYNHALWYD AR Y 1AF RHAGFYR 2017. pdf eicon PDF 135 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at y cywiriad a gofnodwyd yng nghofnod 3, h.y. “creu cynlluniau clir i sicrhau a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol â'r chwe Cyfarwyddwyr Addysg... " Mynegwyd y farn bod y cofnod yn anghywir, ac y dylid cadw'r cyfeiriad at y chwe Chyfarwyddwr Addysg.

 

Nodwyd hefyd na fyddai Penaethiaid yn cael eu henwebu’n aelodau o’r panel adolygu, er y byddent yn ymwneud â’r broses adolygu.

 

CYTUNWYD y dylid llofnodi'n gofnod cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2017, a hynny'n amodol ar ddiwygio rhan gyntaf y penderfyniad ar gyfer Cofnod 3 i gyfeirio at y chwe Chyfarwyddwr Addysg:

 

Ø  “creu cynlluniau clir i sicrhau a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol â'r chwe Chyfarwyddwyr Addysg a Phenaethiaid trwy gydol y broses, ynghyd â sicrhau bod y Cynllun Busnes yn cael ei roi ar waith mewn modd cyson"

 

Materion sy'n Codi o'r cofnodion:

 

1.       Cofnod 3 – Cofnodion – 21 Medi 2017

Cyfeiriwyd at y sylw clo yng Nghofnod 3 am y canlyniadau TGAU, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam nad oedd yr adroddiad hwnnw wedi cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod y diwrnod hwnnw, fel y cytunwyd gan y Cyd-bwyllgor.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y gellid anfon copi o'r canlyniadau yn uniongyrchol i aelodau'r Cyd-bwyllgor, ac y byddai eitem ar hynny yn cael ei rhoi ar yr Agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Yn sgil yr uchod, awgrymodd Mr Gareth Morgans y gallai fod yn fuddiol i adroddiad gael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor yn y dyfodol ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch y cyfeiriad ar gyfer y dyfodol a'r broses o newid i'r safonau/mesurau atebolrwydd newydd yn seiliedig ar y naw canlyniad TGAU gorau. Mynegodd y Cadeirydd y farn y dylid cyflwyno adroddiad i'r cyfarfod nesaf ar berfformiad a thueddiadau ar lefel 2 er mwyn sicrhau eglurder o ran cyfeiriad ERW yn y dyfodol

 

CYTUNWYD:

 

1.

y dylid rhoi copi o'r canlyniadau TGAU i aelodau'r Cyd-bwyllgor, a rhoi eitem ar hynny ar yr agenda i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor;

2.

y dylid cyflwyno adroddiad i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor yn y dyfodol ar ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ynghylch y broses o symud i safonau/mesurau atebolrwydd newydd yn seiliedig ar y naw canlyniad TGAU gorau;

3.

y dylid cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod nesaf y Cydbwyllgor ar berfformiad a thueddiadau ar lefel 2.

 

2.       Cofnod 5 – Llythyr gan y Gr?p Craffu

 

Cyfeiriwyd at y llythyr a gafwyd gan Gr?p y Cynghorwyr Craffu, ac at gyfarfod y Gr?p a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018, lle y cafodd gyflwyniad gan y Rheolwr Rhaglen. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y cafodd y cyflwyniad hwnnw ei wneud heb iddo gael ei wneud yn gyntaf i'r Cyd-bwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y cyflwyniad wedi cael ei wneud ar gais Gr?p y Cynghorwyr.

 

CYTUNWYD y byddai copïau o'r cyflwyniad i Gr?p y Cynghorwyr Craffu yn cael ei ddosbarthu i'r Cyd-bwyllgor, ac y byddai'r un cyflwyniad yn cael ei wneud i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

ADRODDIAD MONITRO'R GYLLIDEB AR GYFER CH3 2017-18, GYDAG ATODIAD. pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 ei adroddiad ynghylch Monitro Cyllideb Ch3 2017-18 i'r Cyd-bwyllgor, i'w ystyried.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, tynnodd y Swyddog Adran 151 sylw'r Cyd-bwyllgor at ddyfarniad grant gwerth £250 mil gan Lywodraeth Cymru tuag at gost Rhaglen Adolygu a Diwygio ERW. Cyfeiriodd hefyd at y gwaith i'w wneud o dan yr adolygiad hwnnw, ac awgrymodd y dylid dileu'r ddau argymhelliad canlynol yn ei adroddiad, hyd nes y byddai ERW wedi penderfynu ar ei gyfeiriad ar gyfer y dyfodol:

 

·        Bod y Cyd-bwyllgor yn cytuno i ERW fynd ar drywydd ei yswiriant ei hun ar gyfer y dyfodol,

·        Bod y Cyd-bwyllgor yn cytuno i recriwtio Rheolwr Ariannol, ar gontract tymor penodol, i'w ariannu o gyllid Adolygu a Diwygio Llywodraeth Cymru

 

Wrth ymateb i gwestiwn am y grant uchod gan Lywodraeth Cymru, cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr mai grant ar gyfer cyfnod penodol o amser ydoedd, i'w ddyrannu dros gyfnod o 13 mis; felly, byddai'n cael ei gario drosodd i flwyddyn ariannol 18/19.

 

Gwnaethpwyd cyfeiriad pellach at y tîm adolygu a'r cadarnhad, y manylir arno yng nghofnod 3 uchod, y dylai gynnwys y chwe Chyfarwyddwr Addysg. Awgrymwyd y dylai'r Swyddog Adran 151, y Swyddog Monitro a'r cynrychiolydd Adnoddau Dynol  hefyd fod yn bresennol yn y cyfarfodydd hynny.

 

Wrth ymateb i gwestiwn yn ymwneud â'r ffaith bod arian grant yn dod i law yn hwyr, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r sefyllfa, ac yn derbyn ei bod yn creu anawsterau o ran cynllunio. Roedd Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu cyflwyno hysbysiad cynnar o ddyfarniadau grant, gyda'r gobaith y byddai hynny'n sicrhau mwy o hyblygrwydd ac yn gwella'r sefyllfa bresennol.

 

Cyfeiriwyd at y broses o ddyrannu grantiau gan ERW i'r chwe Awdurdod Lleol, a gofynnwyd am sicrwydd eu bod yn cael eu gwneud yn unol â'r fformiwla gyllido y cytunwyd arni'n flaenorol gan y Cyd-bwyllgor (Gweler Cofnod 3 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2015 ynghylch dosbarthu’r Grant Gwella Addysg). Nodwyd bod cyfarfod o'r Cyfarwyddwyr Addysg wedi cael ei drefnu ar gyfer yr wythnos honno, lle byddent yn trafod y fformiwla gyllido. Pe byddai'n briodol, gellid trefnu cyfarfod ychwanegol o'r Cyd-bwyllgor i drafod unrhyw newidiadau a awgrymid i'r fformiwla ar gyfer dyrannu grantiau 18-19. Hefyd, gallai pob Cyfarwyddwr archwilio'r dyraniadau grant i'w hawdurdod er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu gwneud yn unol â'r fformiwla.

 

Gofynnwyd i’r Swyddog Adran 151 gadarnhau nas gofynnwyd iddo gynnwys unrhyw adroddiadau eithriadol mewn perthynas â defnyddio dulliau dosbarthu cyllid amgen.

Cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 nad oedd yr un dull dosbarthu amgen, hyd y gwyddai, wedi cael ei ddefnyddio.

 

 

CYTUNWYD:

 

4.1

y dylid nodi Diweddariad Ariannol ERW – Chwarter 3 ar gyfer 2017-18;

4.2

y dylid cymeradwyo'r newidiadau i Ddyraniadau Grant Cyllideb Refeniw Tîm Canolog ERW (yn amodol ar gael sicrwydd bod y dyraniadau wedi cael eu gwneud yn unol â'r fformiwla gyllido y cytunwyd arni'n flaenorol) a chronfeydd wrth gefn ERW ar gyfer 2017-18;

4.3

y dylid nodi'r risgiau i'r rhanbarth o ystyried faint o arian craidd yr oedd yn ei gael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD CYLLIDEB 2018-19. pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 ei adroddiad ynghylch Cyllideb 2018-19 i'r Cyd-bwyllgor, i'w ystyried.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, tynnodd y Swyddog Adran 151 sylw'r Cyd-bwyllgor at lythyr a gafwyd gan Lywodraeth Cymru (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod), a oedd yn manylu ar ddyraniad y Grant Gwella Ysgolion i ERW ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2018 a 31 Mawrth 2019. Cyfanswm y grant oedd £40,971,102, ac roedd wedi cael ei ddyrannu ar sail Pum Blaenoriaeth y Genhadaeth Genedlaethol, ac wedi cael ei gynnwys yn y Cynllun Busnes yn unol â hynny. Er bod y dyfarniad hwnnw, ar y cyd â'r dyraniad gwerth £29 miliwn o'r Grant Datblygu Disgyblion, yn creu cyfanswm o bron £64 miliwn, £63.1 miliwn oedd cyfanswm y dyraniad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru, ac roedd eglurhad yn cael ei geisio ynghylch yr anghysondeb hwnnw. Felly, roedd cyfanswm y dyraniad grant oddeutu £63-£64 miliwn, a oedd yn llai na'r £71 miliwn a gafwyd ar gyfer 2017-18. 

 

O ran Cyfraniad yr Awdurdodau Lleol at gostau craidd ERW, sef £250 mil, dywedodd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi penderfynu peidio â pharhau â'i gyfraniad ar gyfer 2018-19, a hynny oherwydd cyfyngiadau cyllidebol; byddai angen cael eglurhad ynghylch y penderfyniad hwnnw.

 

Wrth gloi, cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at y pedwar argymhelliad y manylwyd arnynt, a gofynnodd am i'r argymhelliad i (d) penodi rheolwr cyllid yn amodol ar ganlyniad adolygiad ERW, gael ei ddileu.

 

Mynegwyd pryder ynghylch penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i beidio â chyfrannu at gostau craidd ERW ar gyfer 2018-19, cyfraniad a oedd yn werth £69,650, ac y dylid cael eglurhad ynghylch y penderfyniad hwnnw a chanfod a oedd yr Awdurdod hwnnw yn dymuno parhau yn bartner yn ERW, o gofio gofynion y Cytundeb Cyfreithiol wrth sefydlu ERW.

 

Wrth ymateb i gwestiwn am gost uwch Cytundebau Lefel Gwasanaeth, cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 fod hynny'n deillio o benderfyniad blaenorol gan ERW y dylent adlewyrchu gwir gost ERW. Awgrymwyd y dylid cyflwyno adroddiad llawn ar y CLGau yn y cyfarfod nesaf.

 

Cyfeiriwyd at y drafodaeth yng nghofnod 4 uchod ynghylch y fformiwla gyllido ar gyfer dyrannu grantiau Llywodraeth Cymru i'r chwe Awdurdod. Awgrymwyd y dylid cyflwyno adroddiad ar fethodoleg ei dyraniadau ar gyfer 2018-19 yn y cyfarfod nesaf.

 

CYTUNWYD:

 

5.1

y dylid cymeradwyo cyllideb alldro ragamcanol 2017-18, a chyllideb ddrafft 2018-19;

5.2

Y dylid awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud diwygiadau i'r gyllideb, lle bo angen, yn dibynnu ar y penderfyniadau a wneid i adolygu strwythur ERW

5.3

y dylai'r Awdurdodau Lleol dalu eu cyfraniadau at gostau craidd ERW;

5.4

y dylid dileu argymhelliad (d) oherwydd y rheswm y manylir arno yng nghofnod 4 uchod;

5.5

y dylid gofyn am eglurhad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ynghylch ei gyfraniad at gostau craidd ERW ar gyfer 2018/19 a'i fwriad o ran ei aelodaeth o ERW yn y dyfodol, a hynny o gofio gofynion y Cytundeb Cyfreithiol wrth sefydlu ERW;

5.6

y dylid cyflwyno adroddiad ar Gytundebau Lefel Gwasanaeth ERW yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor;

5.7

y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CATEGOREIDDIO. pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar y broses o gategoreiddio ysgolion yn rhanbarth ERW, adroddiad a oedd yn manylu ar yr hyfforddiant a roddid i'r Ymgynghorwyr Her, y prosesau cymedroli a sicrhau ansawdd, a chanlyniadau'r broses genedlaethol o gategoreiddio ysgolion, a gynhaliwyd yn nhymor yr hydref.

 

Er bod y tîm canolog, yn draddodiadol, yn ymwneud â'r broses gategoreiddio ar ddiwedd y cam sicrhau ansawdd, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y chwe Chyfarwyddwr Addysg yn ERW wedi cytuno y gallent fod yn rhan o'r broses ar gam cynharach. Roedd y broses gategoreiddio ddrafft wedi cael ei rhoi ar waith ym mis Gorffennaf 2017, ac wedi cael ei chwblhau ar ddiwedd mis Rhagfyr 2017. Er bod ERW yn gweithio gyda'r tri chonsortiwm addysg arall yng Nghymru i sicrhau cysondeb wrth gymedroli, dywedodd ei bod yn debygol y byddai newidiadau'n cael eu cyflwyno yn y dyfodol mewn perthynas â chategoreiddio a hunanwerthuso, a bod trafodaethau ynghylch hynny yn mynd rhagddynt yn genedlaethol. Fodd bynnag, roedd cynigion cadarn yn yr arfaeth mewn perthynas â hynny.

 

Cadarnhaodd Mr Vincent fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Estyn i ddatblygu fframwaith hunanwerthuso cenedlaethol a chyflwyno amrywiaeth newydd o ddangosyddion perfformiad; disgwylid y byddai fframwaith drafft yn cael ei gynhyrchu erbyn mis Medi 2018, ac y byddai mesurau perfformiad dros dro yn cael eu cyflwyno yn ystod 2019. Cadarnhaodd y byddai'n barod i gyflwyno adroddiad ar yr adborth a gafwyd ar y cynigion hynny mewn cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor yn y dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at ddiben cychwynnol y broses gategoreiddio, sef nodi'r cymorth yr oedd ar ysgolion ei angen i sicrhau gwelliannau, yn hytrach na bod yn offeryn i nodi ysgolion gwael. Felly, roedd yn bwysig bod y neges yn cael ei chyfleu i rieni nad oedd yr ysgolion a gategoreiddiwyd yn rhai Coch neu Ambr yn ysgolion a oedd yn methu, ond yn hytrach yn ysgolion yr oedd arnynt angen cymorth ychwanegol i sicrhau gwelliant parhaus.

 

Cyfeiriwyd at y broses gategoreiddio ac at yr ysgolion hynny yn y rhanbarth a oedd wedi'u nodi'n ysgolion yr oedd arnynt angen cymorth. Mynegwyd y farn bod angen i adroddiad gael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor, a oedd yn manylu ar y broses ymyrryd a lefelau'r ymyrraeth a oedd ar gael i ERW a'r Awdurdodau Addysg.

 

CYTUNWYD:

 

6.1

y dylid derbyn yr adroddiad ar y broses gategoreiddio;

6.2

y dylid cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor a oedd yn manylu ar y broses ymyrryd a lefelau'r ymyrraeth a oedd ar gael i ERW a'r Awdurdodau Addysg.

 

7.

COFRESTR RISGIAU. pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd copi o'r Gofrestr Risgiau i'r Cyd-bwyllgor, a oedd yn tynnu sylw at y prif risgiau yn y meysydd Corfforaethol, Ariannol a Gwella Ysgolion, gan alluogi ERW i leihau'r potensial o risgiau lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

 

Er na fu unrhyw newidiadau i'r gofrestr ers iddi gael ei chyflwyno'n flaenorol i'r Cyd-bwyllgor, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y dylid bod yn ymwybodol o'r tebygolrwydd y gallai risgiau godi yn sgil Rhaglen Adolygu a Diwygio ERW, ac y byddai angen i'r risgiau hynny gael eu harchwilio a'u cynnwys yn y Gofrestr Risgiau, lle bynnag y bo hynny'n briodol. Er mai Tîm Canolog ERW a oedd yn gyfrifol am Risgiau canolog, roedd pob Awdurdod Lleol yn gyfrifol am reoli ei risgiau ei hun. Yn hynny o beth, roedd prosesau newydd wedi cael eu cyflwyno i sicrhau cysondeb o ran y modd y cofnodwyd y risgiau ledled pob awdurdod lleol. Roedd hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn rhan o'r dull gweithredu hwnnw.

 

Gofynnwyd i’r Rheolwr Gyfarwyddwr gadarnhau bod y chwe Chyfarwyddwr wedi cymeradwyo’r risgiau a nodwyd yn ganolog. Cadarnhawyd nad oedd hyn wedi digwydd.

 

Cyfeiriwyd at fformat yr adroddiad, a mynegwyd y farn bod angen i'r gofrestr nodi'r swyddogion a oedd yn gyfrifol am reoli'r risgiau a manylu ar unrhyw gynllun gweithredu/amserlen i fynd i'r afael â'r risgiau, a'u lliniaru. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Arweiniol y byddai'n codi'r mater gyda'r swyddogion priodol.

 

PENDERFYNWYD y dylid cael a chymeradwyo’r gofrestr risgiau, ac eithrio’r elfen ganolog. Byddai hyn yn cael ei adolygu gan y chwe Chyfarwyddwr, a’i ailgyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.

 

8.

CYNLLUN BUSNES. pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cynllun Busnes drafft ERW ar gyfer 2018-21 i'r Cyd-bwyllgor ei ystyried. Roedd y Cynllun Busnes hwn yn cynnwys yr holl flaenoriaethau strategol a fyddai'n arwain gwaith y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol, yn ogystal â'r blaenoriaethau a nodwyd gan bob un o'r chwe Awdurdod Lleol, ac roedd yn gyson â Chenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod angen i ragor o waith gael ei wneud ar y ddogfen, gan roi ystyriaeth i'r trefniadau cyllido newydd, deilliannau, a'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau lleol yn ogystal â Phum Blaenoriaeth Cenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

 

Wrth ymateb i gwestiwn am y gwaith o gyd-adeiladu'r Model Cenedlaethol, cadarnhawyd mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am gysylltu â Phrif Weithredwyr Arweiniol a Rheolwyr Gyfarwyddwyr y pedwar consortiwm rhanbarthol, ynghyd â CLlLC. Rhagwelwyd y byddai'r fersiwn ddrafft gyntaf yn cael ei chwblhau yn y dyfodol agos; byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn dilyn hynny, gan ddilyn yr un patrwm, yn fras, â'r hyn a fabwysiadwyd ar gyfer y model cenedlaethol cyfredol.

 

Cyfeiriwyd at y diffyg manylder yn y cynllun busnes mewn perthynas â chynlluniau cyflawni a gweithredu, ynghyd â'r angen i sicrhau bod y meysydd hynny'n cael eu nodi mewn unrhyw fersiwn ddrafft ddiwygiedig cyn iddi gael ei chyflwyno i'r Cyd-bwyllgor.

 

CYTUNWYD y dylid ailysgrifennu Cynllun Busnes drafft ERW ar gyfer 2018-2021.

 

9.

Y RHAGLEN ADOLYGU A DIWYGIO.

Cofnodion:

Atgoffodd y Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor am ei benderfyniad blaenorol i sefydlu tîm prosiect i fynd ati i adolygu a diwygio ERW. Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, er bod ERW yn ymwybodol o'r adolygiad cyfredol o'r Model Cenedlaethol, a allai effeithio ar y rhaglen adolygu a diwygio, dywedodd y byddai'r Papur Gwyrdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ynghylch y bwriad i leihau nifer yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru i 10, yn golygu goblygiadau ychwanegol o ran y diwygio hwnnw. Fodd bynnag, nodwyd bod y Gweinidog, yn rhan o'r cyhoeddiad hwnnw, wedi nodi bod disgwyl i'r trefniadau cydweithredu presennol barhau.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Arweiniol hefyd at lythyr, a ddosbarthwyd yn y cyfarfod, gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a oedd yn gofyn am adroddiad cynnydd ar gynlluniau ERW ar gyfer gwella Trefniadau Llywodraethu yn y dyfodol a sicrhau bod strwythurau addas ar waith i'w alluogi i ymateb i Argymhellion Estyn, ac ar y gwaith o baratoi cynllun gweithredu. Dywedodd y byddai cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet yn cael ei gynnal ar 24 Ebrill 2018, a bod sylwadau'r Cyd-bwyllgor yn cael eu ceisio ynghylch y materion i'w codi.

 

Wrth roi sylw i'r mater, roedd y Cyd-bwyllgor wedi ystyried yr angen i amlygu'r cynnydd a oedd yn cael ei wneud o ran cyfeiriad ERW ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys darparu enghreifftiau o arfer gorau a thystiolaeth o'r modd yr oedd yn bwriadu gwella sgiliau a deilliannau'r dysgwyr.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr Arweiniol y Cyd-bwyllgor ei fod wedi cytuno'n flaenorol fod angen cynnal cyfarfod i drafod y fethodoleg ar gyfer dosbarthu grantiau ar gyfer 2018-19, ac awgrymodd y dylid cyflwyno adroddiad yn y cyfarfod hwnnw, pe byddai mod, yn amlinellu'r pwyntiau arfaethedig i'w cyflwyno i'r Ysgrifennydd Cabinet ar 24 Ebrill.

 

CYTUNWYD y dylid derbyn y diweddariad.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau