Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Mercher, 6ed Tachwedd, 2019 10.30 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Alun Lloyd-Jones (Cyngor Sir Ceredigion) a'r Cynghorydd David Evans (Cyngor Sir Powys).

 

NEWID TREFN Y MATERION

Cytunodd y Panel i amrywio trefn yr eitemau ar yr agenda er mwyn trafod eitem 5 (Cwynion ac Ymddygiad) a thrafod hyn cyn Eitem 4 (Recriwtio Aelodau Cyfetholedig i'r Panel).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Aelod o'r Panel

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd W. Powell

Eitem 7 – Cwyn yn erbyn Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu gan C.C.

Yn gysylltiedig â'r achwynydd

Mrs. H.M. Thomas

Eitem 5 – Recriwtio Aelodau Cyfetholedig i'r Panel

Aelod Cyfetholedig o'r Panel

Yr Athro I. Roffe   

Eitem 5 – Recriwtio Aelodau Cyfetholedig i'r Panel

Aelod Cyfetholedig o'r Panel

 

 

3.

CYNHADLEDD IECHYD MEDDWL A PHLISMONA pdf eicon PDF 363 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel adroddiad gan Mrs Helen Thomas a'r Cynghorydd William Powell ar gynhadledd flynyddol Iechyd Meddwl a Phlismon y bu'r ddau yn mynychu ar 23 a 24 Medi yng Nghaer. Dywedodd y Panel fod y gynhadledd eleni wedi canolbwyntio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc a'i bod wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut y gellid mynd i'r afael â heriau parhaus. Y ddwy brif neges o blith y cyfraniadau amrywiol a gafwyd yn y gynhadledd oedd pwysigrwydd ymyrraeth gynnar i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl a gwerth gweithio mewn partneriaeth mewn ymateb i bwysau cynyddol ar gyllidebau. Roedd gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu rôl allweddol i'w chwarae yn y cyd-destun hwn oherwydd y gallent annog gweithio mewn partneriaeth a sicrhau bod yr asiantaethau cywir yn atebol. Diolchodd y Panel i Mrs Thomas a'r Cynghorydd Powell am yr adroddiad trylwyr a oedd yn llawn gwybodaeth.

 

Pwysleisiodd y Comisiynydd y pwysigrwydd o weithio gyda phartneriaid megis Bwrdd Iechyd Hywel Dda a dywedodd ei fod yn ceisio gwrthbwyso rhai o effeithiau'r toriadau cyllidebol drwy ddarparu cyllid i wasanaethau ieuenctid yn ardal Dyfed-Powys. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch lles swyddogion yr heddlu sy'n ymdrin â sefyllfaoedd heriol, dywedodd y Comisiynydd fod gwasanaethau ar gael a bod arweinydd iechyd meddwl wedi'i benodi'n ddiweddar yn y tîm iechyd galwedigaethol.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

4.

CWYNION AC YMDDYGIAD pdf eicon PDF 359 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ar y newidiadau arfaethedig i broses gwyno'r heddlu a'u heffaith bosibl ar waith y Panel. Dywedwyd wrth y Panel y byddai'r newidiadau arfaethedig yn symud y cyfrifoldeb o ran y broses apelio ar gyfer cwynion yn erbyn yr heddlu i'r Comisiynydd. Gallai hyn o bosibl arwain at gynnydd yn nifer y cwynion yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y byddai'n rhaid i'r Panel eu hystyried. Roedd disgwyl i'r newidiadau ddod i rym ar ddechrau 2020 a gallent roi cyfle i'r Panel adolygu ei weithdrefn gwyno.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

5.

RECRIWTIO AELODAU CYFETHOLEDIG I'R PANEL pdf eicon PDF 364 KB

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd Mrs H Thomas a'r Athro I. Roffe wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach felly gadawodd y ddau y Siambr cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ar recriwtio aelodau cyfetholedig i'r panel. Yn dilyn beirniadaeth gyhoeddus o gyfansoddiad y Panel yn 2018-19, roedd Aelodau'r Panel wedi nodi eu bod yn dymuno ystyried cynyddu nifer yr aelodau cyfetholedig mewn ymdrech i fynd i'r afael â'r broblem. Dywedwyd wrth y Panel na allai roi blaenoriaeth i ymgeiswyr a oedd yn fenywod neu o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig ond gallai fynd ati i annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Ni fyddai'r Panel yn cael rhagor o arian ar gyfer aelod cyfetholedig ychwanegol.

 

Gwnaed sylw yn awgrymu y gallai'r panel geisio cynnwys pobl ifanc yn ei waith, er enghraifft drwy'r cyfryngau cymdeithasol a gwahodd ysgolion, cynghorau ieuenctid a chadetiaid yr heddlu i fynychu cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD

5.1.    Na ddylid cynyddu nifer yr aelodau cyfetholedig ar y Panel;

5.2.    Bod y broses recriwtio ar gyfer aelodau cyfetholedig yn 2020 yn mynd ati i annog ceisiadau gan fenywod, pobl iau a phobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig;

5.3.    Bod ysgolion, cynghorau ieuenctid a chadetiaid yr heddlu yn cael eu hannog i fynychu cyfarfodydd y Panel;

5.4.    Sefydlu is-bwyllgor penodiadau, sy'n cynnwys un aelod o bob awdurdod cyfansoddol, i oruchwylio'r broses recriwtio hyd at ac yn cynnwys llunio rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer eu cyfweliadau.

 

 

6.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

7.

CWYN YN ERBYN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU GAN C.C.

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod rhif 6 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth bersonol sensitif am aelod o'r cyhoedd yn y parth cyhoeddus. 

 

Cafodd y Panel adroddiad ar g?yn a gofnodwyd yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

PENDERFYNWYD

7.1.    Nodi'r g?yn;

7.2.    Anfon adroddiad at yr achwynydd, ac at y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, gan fanylu ar ganlyniad y g?yn.

 

 

8.

CWYN YN ERBYN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU GAN A.R.

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod rhif 6 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth bersonol sensitif am aelod o'r cyhoedd yn y parth cyhoeddus.

 

Croesawodd y Panel yr achwynydd i'r cyfarfod gan dderbyn adroddiad ar y g?yn a gofnodwyd yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1.    Nodi'rg?yn;

8.2.    Anfon adroddiad at yr achwynydd, ac at y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, gan fanylu ar ganlyniad y g?yn.