Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Gwener, 24ain Gorffennaf, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann  01267 224178

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y PANEL 2020/21 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

1.1 benodi'r Cynghorydd Alun Lloyd-Jones yn Gadeirydd y Panel am y flwyddyn galendr sydd i ddod;

1.2 penodi'r Athro Ian Roffe yn Is-gadeirydd y Panel am y flwyddyn galendr sydd i ddod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Lloyd Edwards (Cyngor Sir Ceredigion).

Croesawyd y Cynghorydd William Powell i'r cyfarfod gan y Cadeirydd yn dilyn ei salwch yn ddiweddar.

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

4.

COFNODION - 21AIN CHWEFROR 2020 pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2020 gan eu bod yn gywir.

 

5.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1Cofnod 6 - Troseddau gwledig a bywyd gwyllt

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu fod ffigurau troseddau gwledig wedi gostwng yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud efallai oherwydd yr effaith ar droseddwyr sy'n teithio ond yn anffodus roedd y ffigurau bellach yn dychwelyd i lefelau arferol.

 

5.2Cofnod 7 - Llinell Gymorth ar gyfer Trais Domestig

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu fod galwadau i'r Llinell Gymorth ar gyfer Trais Domestig wedi lleihau yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud ac ystyriwyd y gallai hyn fod yn gysylltiedig â'r ffaith nad oedd economi'r nos, yn enwedig tafarndai ac ati, wedi bod yn weithredol.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad blynyddol drafft 2019/20 y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Wrth gyflwyno ei adroddiad drafft, dywedodd y Comisiynydd y byddai'n cael ei gefnogi eleni gan elfennau digidol a chlipiau fideo. Tynnodd sylw at fentrau a oedd wedi cyfrannu at fwy o ymgysylltu â'r cyhoedd, gan gynnwys gweithgareddau ymgysylltu ag ieuenctid, gan ychwanegu bod yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at effaith Covid-19.

Yn gyffredinol, roedd y Panel yn croesawu'r adroddiad ond codwyd y materion canlynol:

-       Awgrymwyd y dylid cynnwys enwau'r Panel Heddlu a Throseddu lle cyfeirir at y Panel ar dudalen 32 o dan yr adran â'r pennawd 'Cyd-bwyllgor Archwilio' ac y dylid cynnwys gwefan y Panel ar dudalen 33 o dan yr adran â'r pennawd 'Panel Heddlu a Throseddu';

-       Cyfeiriwyd at hyd yr adroddiad a gofynnwyd a ellid ei leihau er hwylustod darllen;

-       Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Comisiynydd yn fanylach Gyllidebu Cyfranogol a fyddai'n cael ei arwain gan y timau plismona bro:

-       cytunodd y Comisiynydd â'r awgrym y dylid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am waith y timau plismona bro yn ddiweddarach;

-       gofynnwyd a ellid darparu gwybodaeth a gynhwysir yn y siartiau cylch ar ffurf tabl hefyd i gynorthwyo darllenwyr â phroblemau gweledol megis lliwddallineb;

-       Cytunodd y Comisiynydd i ystyried awgrym ynghylch a ellid rhannu recordiadau o unrhyw un o'r cyfarfodydd rhithwir ac ati yr oedd wedi cymryd rhan ynddynt ar-lein.

 

Croesawodd y Comisiynydd sylwadau'r Panel a dywedodd ei fod wedi nodi'r awgrymiadau a wnaed.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Comisiynydd estyn diolch a gwerthfawrogiad y Panel i'w holl staff a staff yr heddlu am y gwaith yr oeddent wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad blynyddol drafft.

 

 

7.

DIWEDDARIAD AR YR YMATEB I'R PANDEMIG COVID-19 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel adroddiad yn manylu ar ymateb y Comisiynydd i faterion a godwyd o ganlyniad i bandemig Covid-19. Nodwyd bod y Grant Uplift diweddar gan y Swyddfa Gartref wedi caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth dalu costau cysylltiedig â Covid-19 ac wedi sicrhau y gellid cymryd mesurau priodol yn gyflym pan oedd angen. Roedd y tîm Ystadau wedi gwneud gwaith sylweddol i fynd i'r afael â materion iechyd a diogelwch.  Roedd costau'n cael eu cofnodi a'u hadrodd i'r Swyddfa Gartref yn fisol.  Ystyriwyd fod oddeutu £100k wedi cael ei arbed o ran costau tanwydd.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

8.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd yn ystod y cyfnod rhwng 15 Chwefror 2020 a 10 Gorffennaf 2020.

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Comisiynydd y byddai cyfleuster newydd yr adran c?n ym Mhen-bre yn cael ei leoli ar hen safle hofrennydd yr heddlu. Byddai hyn hefyd yn ategu hyfforddiant gyrwyr ar drac rasio Pen-bre. Ychwanegodd, mewn ymateb i ymholiad pellach, y gwnaed pob ymdrech i gaffael gwasanaethau yn ardal yr heddlu lle bo hynny'n bosibl.

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

10.

COPI DRAFFT O DDATGANIAD CYFRIFON 2019/20 - ADRODDIAD NARATIF

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan fod yr adroddiad naratif ar ffurf ddrafft ac yn cael ei archwilio gan Archwilio Cymru.

Ar ôl cyhoeddi Datganiad Cyfrifon Blynyddol drafft y Comisiynydd ar gyfer 2019-2020, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am y sefyllfa ariannol gyfredol fel y manylwyd arni yn yr adroddiad naratif a ddosbarthwyd i'r aelodau. Nod yr adroddiad oedd rhoi gwybodaeth am y materion mwyaf arwyddocaol yr adroddwyd arnynt yn y cyfrifon gr?p o ran y gwasanaethau a ddarperir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (y Comisiynydd) a Phrif Gwnstabl Dyfed-Powys ynghyd â darparu cyd-destun sefydliadol ehangach. Dywedodd y Comisiynydd y byddai'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo ganddo ef a'r Prif Gwnstabl ar ôl y cyfnod i'r cyhoedd gael golwg arno. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, o ystyried yr holl heriau dros y flwyddyn ddiwethaf, ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda rhai arbedion. Manylodd yr adroddiad ar sut y defnyddiwyd y tanwariant ac amlygodd fod y cronfeydd wrth gefn yn gyfanswm o £14.6 miliwn.

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.