Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jessica Laimann 01267 224178
Media
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Les George, y Cynghorydd Mike James a'r Cynghorydd Rob Summons.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi ysgrifennu at y Prif Gwnstabl er mwyn mynegi cydymdeimlad y Pwyllgor yn dilyn marwolaeth ddiweddar ei dad.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Cynghorydd Emlyn Schiavone (Cyngor Sir Caerfyrddin) i'r cyfarfod a dywedodd y byddai'r Cynghorydd Schiavone, yn amodol ar gymeradwyaeth y Swyddfa Gartref, yn cymryd lle'r Cynghorydd Jim Jones (Cyngor Sir Caerfyrddin). Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Jones am ei gyfraniad i'r Panel.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef, yr Athro Ian Roffe a Robert Edgecombe wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod o Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion Panelau Heddlu a Throseddu ledled Cymru yn ddiweddar. Rhoddodd yr Athro Roffe ddiweddariad ynghylch y cyfarfod i'r Panel. Dywedodd y trafodwyd sut y gallai Panelau Heddlu a Throseddu graffu'n effeithiol ar waith Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn unol â Chynlluniau Heddlu a Throseddau. Diolchodd y Panel i'r Athro Roffe am ei adroddiad.
NEWID TREFN Y MATERION Cytunodd y Panel i newid trefn y materion ar yr agenda er mwyn symud Eitem 10 (Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) yn ei hôl i'w thrafod ar ôl Eitem 13 (Adroddiad Diweddaru - Defnyddio Grym)
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 3YDD GORFFENNAF 2019 PDF 256 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2019 gan eu bod yn gywir.
|
|
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cofnod Rhif 7.1.– Cwestiwn gan R.R.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cynnydd o 17.5% yn nifer y staff yn Heddlu Dyfed-Powys, dywedodd y Comisiynydd fod nifer y swyddogion â gwarant wedi aros yn gyson a bod nifer y staff cymorth wedi cynyddu. Dywedodd hefyd fod y Tîm Plismona Bro o amgylch Llanelli yn destun proses ailstrwythuro ar hyn o bryd ac y byddai'r ddarpariaeth gwasanaeth yn cael ei monitro, ond nid yw hyn yn effeithio ar nifer y swyddogion ymateb sydd ar gael.
Cofnod Rhif 8 - Iechyd Meddwl a Phlismona
Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd fod y Bwrdd Iechyd yn arwain o ran darparu Caffis Gofal mewn Argyfwng a noddfeydd. Roedd cyfleusterau wedi'u hagor yn Llanelli ac Aberystwyth ac roedd modd darparu amserlen ynghylch cyfleusterau pellach i'r Panel.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD Dogfennau ychwanegol: |
|
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS Os bydd addewid y Prif Weinidog i benodi 20,000 o swyddogion heddlu ychwanegol yn cael ei wireddu, a yw'r Comisiynydd yn fodlon bod gan Heddlu Dyfed-Powys y gallu i recriwtio a hyfforddi ei gyfran o'r swyddogion hynny? A yw'r Comisiynydd yn gallu rhoi unrhyw syniad ynghylch faint o swyddogion ychwanegol y bydd hyn yn ei olygu i Heddlu Dyfed-Powys? Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: “Os bydd addewid y Prif Weinidog i benodi 20,000 o swyddogion heddlu ychwanegol yn cael ei wireddu, a yw'r Comisiynydd yn fodlon bod gan Heddlu Dyfed-Powys y gallu i recriwtio a hyfforddi ei gyfran o'r swyddogion hynny? A yw'r Comisiynydd yn gallu rhoi unrhyw syniad ynghylch faint o swyddogion ychwanegol y bydd hyn yn ei olygu i Heddlu Dyfed-Powys?”
Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Dywedodd y Comisiynydd, os bydd y Prif Weinidog yn gwireddu'r addewid, y byddai Heddlu Dyfed-Powys yn ceisio recriwtio 42 o swyddogion ychwanegol erbyn mis Mawrth 2021 mewn ymateb i'r rownd gyntaf o gyllid. Ni phenderfynwyd ar gynlluniau pellach eto. Dywedodd y Comisiynydd hefyd fod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cael hyfforddiant penodol sydd wedi'i deilwra i'w rolau.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN Y CYHOEDD - NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd cwestiwn â rhybudd wedi'i dderbyn gan y cyhoedd.
|
|
ADOLYGIAD CRAFFU DWYS - CYSYLLTIAD UNIONGYRCHOL PDF 359 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch Adolygiad Deep Dive ar gyswllt cychwynnol y cyhoedd â Heddlu Dyfed-Powys, a gynhaliwyd gan swyddfa'r Comisiynydd. Dywedodd y Comisiynydd fod llythyr gan y Prif Gwnstabl wedi'i atodi i'r adroddiad a oedd yn amlinellu sut y mae'r Llu'n bwriadu ymateb i'r 14 argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd fod y Llu'n cydnabod bod angen cydbwyso'r defnydd o dechnolegau modern a dulliau mwy traddodiadol o gyfathrebu er mwyn cyrraedd ystod amrywiol o gynulleidfaoedd yn y rhanbarth.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gorsafoedd heddlu symudol, dywedodd y Comisiynydd ei fod yn ymgysylltu â'r Prif Gwnstabl ynghylch sut y gellid defnyddio'r unedau mewn modd mwy cyson a strwythuredig.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch boddhad defnyddwyr o ran cael y wybodaeth ddiweddaraf (Argymhelliad 8 yn yr adroddiad), dywedodd y Comisiynydd fod cynnydd yn cael ei fonitro gan Gr?p Dioddefwyr a Thystion y Llu a bod angen rhannu'r diweddariadau a'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer archwiliadau mewn modd priodol.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
TRAIS DOMESTIG A THRAIS RHYWIOL PDF 365 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar gyflawni Cynllun yr Heddlu a Throseddau mewn perthynas â thrais domestig a thrais rhywiol. Pwysleisiodd y Comisiynydd mor bwysig yw lobïo i gynyddu darpariaeth y gwasanaethau cymorth. Dywedodd fod yr adroddiad yn rhestru argymhellion mewn perthynas â gwaith comisiynu a gwaith mewn partneriaeth yn y dyfodol, yn ogystal â chynnwys rhestr o grantiau a roddwydi sefydliadau cymunedol sy'n gweithio ym maes cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiad yn cydnabod diffyg gwasanaethau therapiwtig ar gyfer dioddefwyr sy'n blant. Roedd y swyddfa wrthi'n lobïo ynghylch hyn ac roedd wedi darparu cyllid ar gyfer therapi gwybyddol mewn perthynas â'r Timau Troseddu Ieuenctid.
Gwnaed ymholiad ynghylch adroddiadau'r wasg am achos llys lle'r oedd dedfrydu troseddwr a oedd wedi cyfaddef wedi cymryd dros ddwy flynedd. Dywedodd y Comisiynydd ei fod wedi mynegi pryderon ynghylch yr amser i'r Llu dros a 12 mis diwethaf, ac awgrymodd fod yr oedi yn rhannol oherwydd newidiadau diweddar i'r Ddeddf Mechnïaeth a gofynion datgelu cymhleth. Roedd y Llu wedi sefydlu Gr?p Archwilio Safon Aur a fyddai'n canolbwyntio ar archwiliadau hir. At hynny, byddai Adolygiad Deep Dive nesaf y Comisiynydd yn ystyried profiad dioddefwyr yn y broses erlyn.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cyfraddau uchel o beidio â rhoi gwybod am drais domestig a cham-drin rhywiol, dywedodd y Comisiynydd fod y Prif Gwnstabl wedi nodi bod hyn yn flaenoriaeth a neilltuo aelod o staff llawn amser i adolygu'r mater. Roedd y Llu yn cydweithio â Phrifysgol Abertawe i wella gweithdrefnau asesu risg ac yn ystyried gweithio amlasiantaeth ymhellach.
Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd fod staff wedi cael hyfforddiant penodol ar drais domestig a cham-drin rhywiol a oedd yn ystyried newidiadau deddfwriaethol diweddar mewn perthynas ag ystelcian, aflonyddu a rheolaeth orfodol.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD PDF 265 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd yn ystod a cyfnod rhwng 27 Mehefin a 18 Hydref 2019.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
ADBORTH GAN FWRDD ATEBOLRWYDD YR HEDDLU AR 6ED AWST 2019 PDF 266 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Panel adroddiad ar gyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu yn Llanbedr Pont Steffan ar 6 Awst 2019, lle'r oedd y Cynghorydd Lloyd Edwards, y Cynghorydd Keith Evans a'r Athro Ian Roffe yn bresennol. Diolchodd y Panel iddynt am eu hadroddiad llawn gwybodaeth.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
ADRODDIAD DIWEDDARU - MYND I'R AFAEL Â CHYFFURIAU ANGHYFREITHLON PDF 362 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Panel yn ystyried adroddiad gan y Comisiynydd ar y cynnydd sy'n cael ei wneud gan Heddlu Dyfed-Powys o ran mynd i'r afael â chyffuriau anghyfreithlon. Rhoddwyd gwybod i'r Panel bod yr adroddiad yn rhoi diweddariad mewn perthynas â'r argymhellion a nodwyd mewn Adolygiad Deep Dive a gyflwynwyd i'r Panel ym mis Ebrill 2019.
Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd mai nod y Cynllun Dargyfeirio Troseddwyr oedd gwella atgyfeiriadau i wasanaethau cymorth.
O ran rhaglenni ymwybyddiaeth o gyffuriau mewn ysgolion, dywedodd y Comisiynydd fod adroddiad wedi'i lunio gan archwilio cyfleoedd pellach ar gyfer gwaith ymgysylltu â swyddogion yr heddlu yn yr ardal.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
ADRODDIAD DIWEDDARU - DEFNYDDIO GRYM PDF 383 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Panel yn ystyried adroddiad gan y Comisiynydd ar y cynnydd sy'n cael ei wneud gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â'r argymhellion a nodir yn yr Adroddiad Deep Dive, a gyflwynwyd i'r Panel mewn cyfarfod blaenorol.
Dywedodd y Comisiynydd fod nifer y camerâu gwisg sydd ar gael yn ogystal â lluniau fideo mewn ceir yn hwyluso'r gwaith o asesu gweithgareddau stopio a chwilio, ond nid oedd swyddogion yr heddlu wedi safio'r lluniau'n briodol mewn rhai achosion. Byddai'r defnydd o rym gan Heddlu Dyfed-Powys yn destun proses fonitro barhaus gan y Panel Sicrhau Ansawdd.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL PDF 467 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mrs Christine Clarke o Bartneriaeth Anabledd Sir Gaerfyrddin, a roddodd dystiolaeth i'r Panel mewn perthynas â'r profiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymateb yr awdurdodau. Dywedodd Mrs Clarke ei bod hi'n pryderu am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol trefi ac ardaloedd cyfagos, yn enwedig o dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon ac alcohol. Roedd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn arbennig o fygythiol i bobl anabl na allai "gerdded ymaith" o sefyllfa fygythiol ac roedd rhai aelodau o Bartneriaeth Anabledd Sir Gaerfyrddin yn osgoi canol trefi am y rheswm hwn.
Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Mrs Clarke fod ei phrofiad personol yn seiliedig yn Llanelli yn bennaf. Roedd cysylltiadau gwaith rhwng Partneriaeth Anabledd Sir Gaerfyrddin a'r Tîm Plismona Bro yn dda, ond roedd yn ymddangos nad oedd digon o staff gan y tîm i ymdrin yn llawn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Awgrymwyd bod safleoedd trwyddedig a siopau yn cyfrannu'n rhannol at ymddygiad gwrthgymdeithasol ac y gellid defnyddio dull cydweithredol gyda'r adran drwyddedu a'r adran safonau masnach i fynd i'r afael â'r mater hwn. Gwnaed sylwadau pellach gan awgrymu mai cwmpas cyfyngedig oedd i'r rheoliadau trwyddedu ar gyfer hyn a bod presenoldeb swyddogion yr heddlu yng nghanol trefi'n hanfodol.
PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad.
|
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
- Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth