Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Gwener, 5ed Tachwedd, 2021 10.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Jones (Cyngor Sir Caerfyrddin] ac R. Summons (Cyngor Sir Penfro).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

COFNODION - 30AIN GORFFENNAF, 2021 pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2021 gan eu bod yn gywir, yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd S. Joseph wedi bod yn cynrychioli Cyngor Sir Penfro.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion yn y cyfarfod.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD HELEN THOMAS pdf eicon PDF 132 KB

“Bydd y Comisiynydd yn ymwybodol bod Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi adroddiad ar 17 Medi yn tynnu sylw at ddull anghyson yr Heddlu o fynd i'r afael â thrais tuag at fenywod a merched, ac yn annog yr Heddlu i flaenoriaethu'r mater. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 5 argymhelliad i wella'r sefyllfa. A fyddai'r Comisiynydd yn gallu cadarnhau pa gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn? Sut y bydd yn monitro cynnydd dros amser i sicrhau bod hyn yn parhau i gael ei weithredu yn y dyfodol?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Bydd y Comisiynydd yn ymwybodol bod Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi adroddiad ar 17 Medi yn tynnu sylw at ddull anghyson yr Heddlu o fynd i'r afael â thrais tuag at fenywod a merched, ac yn annog yr Heddlu i flaenoriaethu'r mater. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 5 argymhelliad i wella'r sefyllfa. A fyddai'r Comisiynydd yn gallu cadarnhau pa gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn? Sut y bydd yn monitro cynnydd dros amser i sicrhau bod hyn yn parhau i gael ei weithredu yn y dyfodol?”

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

“Daw'r adroddiad arolwg hwn ar adeg pan fo trais yn erbyn menywod a merched yn genedlaethol yn cael blaenoriaeth mewn llawer o drafodaethau, ac yn gwbl briodol felly.

Rwy’n croesawu ffocws AHGTAEM ar y mater hwn ar hyn o bryd, ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod trais yn erbyn menywod a merched (VAWG) wedi bod yn flaenoriaeth i mi, i Heddlu Dyfed-Powys ac i blismona yng Nghymru ers peth amser bellach.

Mae Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Ddyfed-Powys fel y'i llywodraethir gan fy Nghynllun Heddlu a Throseddu presennol, Strategaeth Rheoli'r Heddlu a blaenoriaethau'r Prif Gwnstabl. Gallaf gadarnhau y bydd hefyd i’w weld yn amlwg yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd, sydd i'w gyhoeddi’n fuan.

Rwy'n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda'm cyd-Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yngl?n â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Cham-drin Rhywiol (VAWDASV) a sut y gallwn ymhestyn ein heffeithiolrwydd i’r eithaf yng Nghymru. Rydym wedi cytuno i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar Lasbrint VAWDASV i Gymru. Gyda'n gilydd, rydym hefyd wedi lobïo'r Swyddfa Gartref o ran cyfle a gollwyd yn y Bil Plismona: Fel y'i drafftiwyd, nid yw'r Bil Plismona yn cynnwys trais domestig a cham-drin a thrais rhywiol yn benodol ac felly mae'n colli'r cyfle i gynyddu'r amddiffyniad a roddir i ddioddefwyr a goroeswyr y mathau hyn o drais a cham-drin.

Mae trais yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth i’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru ers cryn amser, ac mae i’w weld fel llinyn arian ar draws yr holl flaenoriaethau yn y rhaglen waith bresennol. Yn ogystal â hyn, mae dioddefwyr trais rhywiol a throseddau rhywiol yn ffrwd waith benodol o fewn y flaenoriaeth dioddefwyr a thystion. Mae fy nghynllun cyflawni Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol yn adlewyrchu hyn ac yn canolbwyntio ar ddarparu safleoedd tystiolaeth o bell a chyfleusterau llys i ddioddefwyr VAWDASV.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ddatblygu'r Hwb Bregusrwydd, sy'n rhoi cymorth arbenigol i swyddogion sy'n delio â digwyddiadau trais yn y cartref ac yn helpu i wella'r gwasanaeth i ddioddefwyr. Mae gweithgarwch diweddar yn cynnwys rôl arbenigol a ariennir gan grant o fewn yr Hwb ar gyfer gwella'r ffordd y rheolir cam-drin domestig.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i wneud cynnydd sylweddol o ran lleihau nifer yr ymchwiliadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD LES GEORGE pdf eicon PDF 289 KB

“Ym mis Awst 2021, cyhoeddodd AHGTAEM adroddiad a oedd yn asesu’r cynnydd a wnaed gan heddluoedd yn genedlaethol o ran gweithredu’r argymhellion o’i adroddiad yn 2019 ar ymateb yr Heddlu i dwyll. Mae’r adroddiad newydd hwn yn nodi nad yw’r holl argymhellion gwreiddiol wedi’u gweithredu ac nad oes digon wedi newid. Gan hynny, mae’r adroddiad newydd hwn yn gwneud tri argymhelliad pellach. Mae dau ohonynt wedi’u cyfeirio’n benodol at Brif Gwnstabliaid. Dylid fod wedi cydymffurfio â’r ddau argymhelliad erbyn y cyfarfod hwn. A all y Comisiynydd gadarnhau bod DyfedPowys wedi cydymffurfio’n llwyr â’r holl argymhellion yn y ddau adroddiad sy’n berthnasol iddo? Sut mae’r Comisiynydd wedi bodloni ei hun mai dyma’r sefyllfa? Sut fydd y Comisiynydd yn parhau i fonitro cynnydd gan yr heddlu yn hyn o beth er mwyn sicrhau nad yw’n ffaelu’r dioddefwyr twyll yn y dyfodol?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ym mis Awst 2021 cyhoeddodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi adroddiad a oedd yn asesu'r cynnydd a wnaed gan heddluoedd yn genedlaethol wrth weithredu’r argymhellion yn ei hadroddiad yn 2019 ynghylch ymateb yr Heddlu i dwyll. Mae'r adroddiad newydd hwn yn tynnu sylw at y ffaith nad yw pob un o'r argymhellion gwreiddiol wedi'u rhoi ar waith ac nad oes digon wedi newid. Felly, mae'r adroddiad newydd hwn yn gwneud tri argymhelliad pellach, gyda dau ohonynt wedi'u cyfeirio'n benodol at y Prif Gwnstabliaid. Dylid bod wedi cydymffurfio â'r ddau argymhelliad hyn erbyn y cyfarfod hwn. A all y Comisiynydd gadarnhau bod Dyfed-Powys wedi cydymffurfio'n llawn â'r holl argymhellion yn y ddau adroddiad sy'n berthnasol iddo? Sut y mae'r Comisiynydd wedi bodloni ei hun bod hyn wedi digwydd? Sut y bydd y Comisiynydd yn parhau i fonitro cynnydd yr heddlu ynghylch y mater hwn er mwyn sicrhau nad yw'n methu dioddefwyr twyll yn y dyfodol.”

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

“Daeth eich cwestiwn mewn dwy ran, a byddaf yn mynd i’r afael ag ef felly:

1. ‘A all y Comisiynydd gadarnhau bod Dyfed-Powys wedi cydymffurfio’n llwyr â’r holl argymhellion yn y ddau adroddiad sy’n berthnasol iddo? Sut mae’r Comisiynydd wedi bodloni ei hun mai dyma’r sefyllfa.’

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad AHGTAEM (Adroddiad Sbotolau: Adolygiad o Dwyll: Amser i Ddewis. Ailymweld ag Archwiliad Twyll 2018), gofynnais am adborth uniongyrchol gan yr Heddlu a Rheolwr y Tîm Troseddau Economaidd o ran yr argymhellion penodol a wnaed ac rwy’n hyderus ein bod ni fel Heddlu nid yn unig yn bodloni’r gofynion, ond yn rhagori arnynt.

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at yr argymhellion yr oedd AHGTAEM dal yn ystyried fel rhai sydd heb eu cyflawni yn dilyn yr adroddiad gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 2019. Mae sefyllfa Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â’r argymhellion sy’n berthnasol i’r heddlu fel a ganlyn:

‘Erbyn 30 Medi 2019, dylai prif gwnstabliaid gyhoeddi polisi eu heddlu ar gyfer ymateb i honiadau o dwyll ac ymchwilio iddynt (mewn perthynas â galwadau am wasanaeth a lledaeniadau Swyddfa Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll ar gyfer gorfodi).’ 

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cwblhau hyn ac mae’r polisi wedi’i gyhoeddi.

‘Erbyn 30 Medi 2021, dylai prif gwnstabliaid sicrhau bod eu heddluoedd yn dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan Gydlynydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer Troseddau Economaidd ynghylch galwadau am wasanaeth sy’n gysylltiedig â thwyll.’

 ‘Erbyn 31 Hydref 2021, dylai prif gwnstabliaid fabwysiadu’r canllawiau a gyhoeddwyd ym mis Medi 2019 gan Gydlynydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer Troseddau Economaidd, a oedd wedi’i anelu at wella’r wybodaeth a roddir i ddioddefwyr wrth adrodd am dwyll.’

Ymgymerodd Heddlu Dyfed-Powys ag adolygiad o’u prosesau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau presennol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu. Mae arferion presennol yn rhagori ar yr argymhellion hyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt wneud newidiadau mân i brosesau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth barhaus, ac yn ymgysylltu â’r adran TGCh er mwyn hwyluso’r newidiadau hyn.

Nododd yr adroddiad 5 maes ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.2

6.

CWESTIWN Â RHYBUDD I'R PANEL GAN MR. R. HUISH pdf eicon PDF 78 KB

“Gomisiynydd, rydych yn ymwybodol o'r holl honiadau o dwyll ac arferion llwgr a wnaed yn erbyn nifer o fanciau'r Stryd Fawr sy'n deillio o arferion bancio yn y gorffennol. O safbwynt y dioddefwyr, nid yw'n ymddangos bod Heddlu Dyfed-Powys yn barod i ymchwilio i honiadau o'r fath neu nad oes ganddo'r adnoddau i wneud hynny'n ddigonol. A yw'r Comisiynydd yn cytuno ei bod yn bwysig bod gan y rheiny sydd wedi dioddef troseddau o'r fath ffydd yng ngallu'r heddlu i ymchwilio'n drylwyr i'w cwynion? O ystyried cyfrifoldeb y Comisiynydd i gefnogi dioddefwyr a dwyn pobl gerbron y llysoedd, a fydd e'n cefnogi ceisiadau’r rheiny sydd wedi dioddef twyll o'r fath yn ardal Dyfed-Powys am ddefnyddio Heddlu allanol sydd â mwy o brofiad o ymdrin ag achosion o'r fath i ymchwilio i'r cwynion hyn? Os nad yw'n cytuno ynghylch defnyddio Heddlu allanol, sut y bydd yn cefnogi'r dioddefwyr hyn?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Gomisiynydd, rydych yn ymwybodol o'r holl honiadau o dwyll ac arferion llwgr a wnaed yn erbyn nifer o fanciau'r Stryd Fawr sy'n deillio o arferion bancio yn y gorffennol. O safbwynt y dioddefwyr, nid yw'n ymddangos bod Heddlu Dyfed-Powys yn barod i ymchwilio i honiadau o'r fath neu nad oes ganddo'r adnoddau i wneud hynny'n ddigonol. A yw'r Comisiynydd yn cytuno ei bod yn bwysig bod gan y rheiny sydd wedi dioddef troseddau o'r fath ffydd yng ngallu'r heddlu i ymchwilio'n drylwyr i'w cwynion? O ystyried cyfrifoldeb y Comisiynydd i gefnogi dioddefwyr a dwyn pobl gerbron y llysoedd, a fydd e'n cefnogi ceisiadau’r rheiny sydd wedi dioddef twyll o'r fath yn ardal Dyfed-Powys am ddefnyddio Heddlu allanol sydd â mwy o brofiad o ymdrin ag achosion o'r fath i ymchwilio i'r cwynion hyn? Os nad yw'n cytuno ynghylch defnyddio Heddlu allanol, sut y bydd yn cefnogi'r dioddefwyr hyn?”.

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

“Mae’n bwysig iawn i mi fod gan bob dioddefydd ffydd yng ngallu’r heddlu i ymchwilio i’w cwynion yn drylwyr. Mae ymgyrchoedd cenedlaethol yn cefnogi'r ymdrechion penodol hyn mewn perthynas â thwyll bancio, sy'n aml yn cael eu cefnogi gan ASau. Er enghraifft, mae Gr?p Seneddol Hollbleidiol ar gyfer Bancio Busnesau Teg sydd wedi bod yn lobïo'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a'r Swyddfa Twyll Difrifol i gymryd diddordeb yn y materion hyn, gan gynnwys achosion sy'n hanesyddol.

 

Er nad yw o fewn fy nghylch gwaith i fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) i ymyrryd mewn cyflenwi plismona gweithredol, ymchwilio i achos penodol neu ddweud wrth yr heddlu am ymchwilio iddo, yr wyf wedi cwrdd â dioddefwyr er mwyn gwrando ar eu profiadau a deall unrhyw bryderon a/neu ymholiadau a allai fod ganddynt ar ôl i ymchwiliad heddlu ddod i ben, a byddaf yn parhau i wneud hyn.Ar adegau, mae hyn wedi arwain at gael trafodaethau gyda'r Prif Gwnstabl mewn perthynas â hwy yn ymgymryd â buddiannau pellach yn y materion hyn ac yn adolygu'r camau a gymerwyd hyd yma.

 

Yr wyf yn hyderus fod gan Heddlu Dyfed-Powys y galluoedd perthnasol i ystyried pob honiad twyll. Heddlu Dyfed-Powys yw’r unig heddlu yn y wlad sy’n annog aelodau o’r cyhoedd yn weithredol i adrodd am dwyll yn uniongyrchol wrthym. Yr ydym yna’n adrodd wrth Action Fraud ar eu rhan, gan wella ansawdd yr adroddiad a anfonir at Action Fraud. Yn ogystal, yn gynnar yn 2020, nododd y Tîm Troseddau Economaidd nad yw data’r Swyddfa Cudd-wybodaeth Twyll yn adlewyrchu gwir faint twyll yn gywir. Ar 6 Ebrill 2020, derbyniodd y Tîm Troseddau Economaidd gyfrifoldeb am reoli’r holl ddigwyddiadau twyll a seiberdroseddu yr adroddir amdanynt wrth yr Heddlu fel galwad am wasanaeth – gan frysbennu’r adroddiadau ac ymgysylltu â dioddefwyr cyn gynted â phosibl er mwyn darparu cymorth, arweiniad a chyngor cyson gan arbenigwr pwnc ac er mwyn sicrhau y cyflwynir adroddiadau cywir i Action Fraud. Ym mis Tachwedd 2020, cyflogodd yr Heddlu Swyddog Brysbennu Twyll llawn amser, sy’n gweithio o fewn y Tîm Troseddau Ariannol,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel ddrafft o 'Gynllun Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys 2021-2025' yr oedd yn ofynnol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei gyhoeddi yn unol ag Adran 7(1) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.

Cyflwynodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu y Cynllun drafft gan ychwanegu y byddai unrhyw adborth gan y Panel yn cael ei ystyried cyn ei gyhoeddi.

Codwyd y materion canlynol:

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd y Comisiynydd yn cyfeirio at fwy o swyddogion 'ar ddyletswydd' yn y datganiad ar dudalen 3, sef ei bod yn 'hanfodol bod yr adnoddau hyn yn weladwy', ymatebodd y byddai yna'n wir fwy o swyddogion yn weladwy ac y byddai gan swyddogion ymateb rheng flaen rhwng 30%-40% yn fwy o amser i batrolio a phlismona'n fwy rhagweithiol. Roedd y gwelededd cynyddol hefyd yn cynnwys ymgysylltu â'r gymuned;  

·       Sicrhaodd y Comisiynydd y Panel fod gan y Llu bartneriaethau gwaith cryf a chadarn ledled Cymru;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod rhai o'r blaenoriaethau a restrir yn y Cynllun drafft megis agweddau sy'n ymwneud â'r System Cyfiawnder Troseddol yn debygol o fod y tu hwnt i reolaeth y Comisiynydd. Mewn ymateb, dywedodd y Comisiynydd fod dadl yn cael ei chyflwyno'n genedlaethol y dylai fod gan Gomisiynwyr yr Heddlu fwy o bwerau o fewn y system cyfiawnder troseddol. Ychwanegodd, fodd bynnag, fod y partneriaethau cyfiawnder troseddol lleol yng Nghymru yn gryf iawn a'i fod yn hyderus y byddai gwelliannau. Pwysleisiodd hefyd yr angen i fuddsoddi mewn atal troseddu ac ymyriadau cynnar;

·       Nodwyd bod y Prif Gwnstabl wedi rhoi adborth ar y Cynllun drafft ac y byddai trafodaethau o ran y meysydd blaenoriaeth a'u hadnoddau;

·       Mewn ymateb i bryder a amlygwyd yn y Cynllun drafft sef fod gan Heddlu Dyfed-Powys un o'r cyfraddau uchaf o ddioddefwyr sy'n tynnu'n ôl o'r broses cyfiawnder troseddol, nododd y Comisiynydd ei fod yn gobeithio y byddai rhoi'r dioddefwr yng nghanol y system cyfiawnder troseddol a phennu hyn fel blaenoriaeth, gobeithio, yn arwain at weld y sefyllfa'n gwella;

·       Roedd y Comisiynydd, mewn ymateb i ymholiad, yn obeithiol y byddai newidiadau gweithredol sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd yn sicrhau bod digon o bresenoldeb yr heddlu mewn ardaloedd gwledig;

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a fyddai'r Comisiynydd yn gallu cyflawni Blaenoriaeth 3 yn y Cynllun drafft yng ngoleuni'r ffaith ei fod yn dibynnu ar bartneriaid eraill, cydnabu fod ei bwerau'n gyfyngedig ond ei fod mewn sefyllfa i gychwyn ac eirioli newid, yn enwedig drwy ei fod yn gadeirydd ar y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol

·       Mewn ymateb i sylw, dywedodd y Comisiynydd y byddai'n hapus i'r Panel ymchwilio i effeithiolrwydd ei fuddsoddiad mewn gwasanaethau ieuenctid gyda'r nod o wella'r gwasanaeth ymhellach;

·       Derbyniodd y Comisiynydd y gellid ehangu'r cyfeiriad at 'Gefnogi gwaith Canolfan Seibergadernid Cymru' i egluro natur y cymorth hwnnw;

·       Cyfeiriodd y Comisiynydd at gamau sy'n cael eu cymryd ganddo i leihau'r ôl troed carbon;

·       Cydnabu'r Comisiynydd y byddai'n rhoi mwy o ffocws ar effeithlonrwydd ac arbedion gyda setliadau cyllideb heriol yn y dyfodol;

·       Talodd y Comisiynydd deyrnged i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd yn ystod y cyfnod rhwng 23 Gorffennaf 2021 a 18 Hydref 2021.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

9.

TREFNIADAU ARIANNU GRANT Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel adroddiad yn manylu ar y trefniadau a wnaed gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer gweinyddu a dosbarthu cyllid grant.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

10.

PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel adroddiad ynghylch perfformiad y Comisiynydd ar gyfer Chwarter 2 2021/22 yn erbyn y pwerau a'r dyletswyddau a nodir yn y Protocol Plismona.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.